Cefnogaeth gynhwysol academaidd a bugeiliol ar gyfer ein myfyrwyr
Mae'r Academi Cynwysoldeb Abertawe yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Prifysgol Abertawe i sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol yn hygyrch i bawb; bod gan bob myfyriwr fynediad i’r cyfleoedd sydd ar gael; a bod pob myfyriwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial yn llawn.
Mae ein prosiectau'n cefnogi:
- Cadw myfyrwyr– Cefnogi myfyrwyr i bontio drwy'r brifysgol a chwblhau eu hastudiaethau.
- Cynnydd– Sicrhau bod gan fyfyrwyr y cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol i symud o lefel i lefel.
- Canlyniadau – Cefnogi myfyrwyr i gyflawni'r canlyniadau gradd gorau y gallant.