Cyfleoedd cerddorol i bob myfyriwr

Mae gan Brifysgol Abertawe sîn gerddorol fywiog, gydag ensembles a chorau, cyfleusterau ymarfer a pherfformio, ac ysgoloriaethau ar gyfer cerddorion a chantorion medrus.

Beth bynnag yw eich pwnc gradd, eich diddordebau cerddorol neu lefel eich profiad, gallwch barhau i greu cerddoriaeth a dod yn rhan o gymuned gerddorol Abertawe.

Delwedd o fyfyrwyr mewn ensemble cerddorol.

Cymryd rhan mewn cerddoriaeth

Ymunwch â cherddorfa, band, côr neu ensemble llai. Mae'r cyfleoedd yn amrywio o grwpiau nad oes angen clyweliad ar eu cyfer ac sy'n agored i bob myfyriwr i ensembles dethol ar gyfer perfformwyr mwy profiadol.

Delwedd o biano ar lwyfan.

Cyfleusterau ar gyfer creu cerddoriaeth

Ymarfer yn annibynnol, ymarfer gydag eraill a defnyddio cyfleusterau ac offerynnau cerddoriaeth ar draws campysau'r Brifysgol.

Delwedd o fyfyriwr yn perfformio mewn ensemble.

Ysgoloriaethau Cerddoriaeth

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig Ysgoloriaethau Offerynnol a Lleisiol, ochr yn ochr ag Ysgoloriaethau Corawl ac Organ a ddarperir mewn partneriaeth â Mystwyr Abertawe.

Cerddoriaeth i bawb

Creu cerddoriaeth ochr yn ochr â'ch astudiaethau

Mae cerddoriaeth yn Abertawe yn agored i fyfyrwyr ledled y Brifysgol. Mae ein cymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr wrth galon cyfranogiad cerddorol, gan ddod â pherfformwyr o wahanol bynciau, cefndiroedd a lefelau profiad at ei gilydd.

P'un a ydych chi eisiau perfformio'n rheolaidd, rhoi cynnig ar fath gwahanol o ensemble neu ddod o hyd i rywle i ymarfer, mae yna ffyrdd o gadw cerddoriaeth yn rhan o'ch bywyd prifysgol.

Cerddoriaeth fyw

Profi cerddoriaeth fyw

Mae mwy i gerddoriaeth yn Abertawe na pherfformio. Gall myfyrwyr fwynhau cerddoriaeth fyw mewn lleoliadau ledled y ddinas, o gyngherddau cerddorfaol a jazz i gerddoriaeth gwerin, roc, pop a pherfformiadau gan artistiaid newydd. 

Mae cyngherddau a gigs hefyd yn cael eu cynnal ledled Abertawe, gyda rhaglenni'n newid drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar restrau lleoliadau unigol a chanllawiau cerddoriaeth fyw lleol am y digwyddiadau diweddaraf a gwybodaeth am docynnau.

Canolfan y Celfyddydau Taliesin, ar Gampws Singleton, yw cartref sinema a pherfformiadau byw Prifysgol Abertawe, gyda cherddoriaeth yn rhan o'i rhaglen drwy gydol y flwyddyn. Mae prisiau tocynnau i fyfyrwyr a dan 26 oed ar gael ar gyfer nifer o ddigwyddiadau. 

Canolfan y Celfyddydau Taliesin digwyddiadau

Cysylltu / gwybodaeth bellach