Gall clirio fod yn amser cyffrous llawn cyfleoedd newydd. Dyma eich cyfle i ddod o hyd i'r ffit perffaith ar gyfer eich pennod nesaf, boed nad ydych yn cael y graddau yr oeddech chi'n gobeithio iddynt neu os ydych wedi newid each barn am eich cwrs.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yma i'ch helpu bob cam o'r ffordd...
Clirio
Clirio 2026 yn Abertawe - Drws i Ddyfodol Disglair
Cofrestrwch am ddiweddariadau ClirioMae dyfodol disglair yn dechrau yn Abertawe!
Yn aros am eich canlyniadau?
Cofrestrwch eich manylion a byddwn yn eich cadw chi wedi’ch hysbysu gyda dyddiadau allweddol a chynghorion defnyddiol drwy gydol cyfnod y Clirio fel y gallwch fwynhau eich haf heb bryderu.
Derbyniwch gefnogaeth syml, cam-wrth-gam.
Cwestiynau Cyffredin Clirio
Adnoddau ar gyfer clirio
Pam astudio yn Abertawe?
Drws i ddyfodol disglair
Mae bywyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cyfuno ffocws academaidd â ffordd o fyw anhygoel i fyfyrwyr. Dychmygwch fyw wrth y môr, cerdded o ddarlithoedd yn syth i'r traeth, ac ymuno â chymuned gyfeillgar a chefnogol o'r diwrnod cyntaf.
Gyda lleoliad arfordirol hamddenol a bywyd campws bywiog (gan gynnwys cymdeithasau, chwaraeon a digwyddiadau,) mae Abertawe yn lle lle gallwch chi gydbwyso astudio, bywyd cymdeithasol a'r awyr agored. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i'ch herio a'ch cefnogi, tra bod ein cymuned campws gyfeillgar yn eich helpu i deimlo'n gartrefol o'r cychwyn cyntaf.
Abertawe - y ddinas wrth y môr
Darganfyddwch ddinas Abertawe, yr ydym yn gobeithio y byddwch yn ei dewis i fod yn gartref newydd i chi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. O'r Mwmbwls i'r Chwarter Morwrol, fe welwch ddinas sydd â digonedd o swyn a chymeriad.
Bywyd myfyriwr yn Abertawe
Fe glywch chi hyn drwy’r amser, ond nid yw’n or-ddweud dweud bod mynd i’r brifysgol yn newid bywyd. Dyma’ch amser chi i wneud atgofion anhygoel a ffrindiau gydol oes.