Cronfa Goffa Hywel Teifi
Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 yn deyrnged i’r Athro Hywel Teifi Edwards er mwyn sicrhau parhad i’w waith fel ysgolhaig ac fel pencampwr dros iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Treuliodd Hywel Teifi ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, a nod yr Academi yw sicrhau parhad ei weledigaeth, sef cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg a hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng yr iaith ar lefel genedlaethol a chymunedol.
Gwnaeth Hywel Teifi gyfraniad unigryw fel ysgolhaig, hanesydd, awdur, darlledwr a chyfathrebwr, a dehonglydd treiddgar a ffraeth o’n diwylliant. Mae Academi Hywel Teifi am sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau i ysbrydoli a dylanwadu ar genedlaethau’r dyfodol.
- Trefnir gweithgareddau a chydlynir prosiectau er mwyn cynnal y cof am Hywel ac er mwyn adeiladu ar y waddol a adawodd o’i ôl.
- Rydym yn noddi darlith goffa flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol.
- Mae’r Academi yn ariannu rhaglenni cymunedol sy’n agored i bawb yn ne orllewin Cymru i gael dysgu am hanes, llenyddiaeth a diwylliant eu bro a’u cenedl.
Er mwyn sicrhau twf pellach ar waith Academi Hywel Teifi sefydlwyd Cronfa Goffa Hywel Teifi yn 2012 gan Huw Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, i godi incwm ychwanegol i gefnogi prosiectau a darparu adnoddau cyfrwng Cymraeg. Mae Cronfa Goffa Hywel Teifi yn cefnogi prosiectau a darparu cyfleoedd ac adnoddau fydd yn newid bywyd ein myfyrwyr a chynorthwyo’r Brifysgol i weithredu fel sefydliad sydd yn agor drws ar ddyfodol disglair i Gymry Cymraeg.
Sut i Gefnogi?
Credwn y dylai addysg drawsnewid bywydau pobl ifanc Cymru, datblygu ein cymunedau a chyfoethogi ein cenedl. Gallwch chi ein cynorthwyo i gyrraedd y nod hwn drwy sicrhau bod gwaith yr Academi’n parhau i ddatblygu ac ehangu er budd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymraeg y De Orllewin a Chymru gyfan. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i gyflawni’n hamcanion, gan wneud gwahaniaeth i’r cenedlaethau a fydd yn ein helpu i lywio dyfodol y rhanbarth a’r wlad.
Bydd eich haelioni yn coffau cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards i fywyd Cymru ac yn sicrhau parhad llwyddiant y gwaith o hyrwyddo a datblygu gweledigaeth yr Academi a sefydlwyd yn ei enw. I gyfrannu, gallwch lenwi’r Ffurflen Cronfa Goffa Hywel Teifi.