Prifysgol Abertawe yw noddwr y GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd

Tu allan i Babell GwyddonLe

GwyddonLe 2025, Parc Margam

Mae’r GwyddonLe wedi bod yn uchafbwynt yng nghalendr digwyddiadau'r Brifysgol ers blynyddoedd bellach, ond bydd eleni yn arbennig iawn wrth i ni groesawu Eisteddfod yr Urdd i'n hardal ni. Yn 2025, bydd maes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam ac unwaith eto, bydd y GwyddonLe yn cynnig pob math o weithgareddau anhygoel i danio'r dychymyg ac yn arddangos prosiectau ymchwil arloesol staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Thema'r GwyddonLe eleni yw 'Gwreiddiau' a bydd cyfle i'n hymwelwyr ddysgu am wreiddiau clefydau ar y stondin biofeddygol. Yn ardal yr Ysgol Feddygaeth hefyd bydd yr Ysbyty Tedi poblogaidd yn dychwelyd, yn ogystal â'r cyfle i ddysgu sgiliau achub bywyd. Am y tro cyntaf eleni bydd stondin Genomeg yn canolbwyntio ar DNA a sut mae genynnau'n cael eu hetifeddu. Gyda'r criw Fferylliaeth gallwch ddysgu am hanes Meddygon Myddfai a sut mae'r byd naturiol yn gysylltiedig â fferylliaeth heddiw.

Darganfyddwch fyd rhyfeddol gwymon a micro algâu Cymru ar y stondin Biowyddorau gan ddysgu am eu buddion iechyd, a gallwch fod yn ddaearyddwr a cheisio atal llifogydd arfordirol, a darganfod hanes ein hinsawdd mewn iâ. Bydd gweithgareddau'r Syrcas Mathemategol yn eich herio a'ch diddanu, a bydd mat yr Her Stroop yn dychwelyd gyda'r criw Seicoleg i weld a ydych chi'n medru dweud y lliwiau yn hytrach na'r geiriau.

Yn ein hardal dechnegol bydd gemau rasio ceir E-Chwaraeon Cymru yn ôl, yn ogystal â stondin Technocamps lle bydd cyfle i ddefnyddio sgiliau codio a roboteg. Dihangwch i fyd arall gyda gemau'r tîm Realiti Rhithwir a dysgwch am dreftadaeth ddigidol Margam a'r cylch gyda stondin Dechreuadau Digidol y criw Cyfryngau.

Drwy gydol yr wythnos bydd stondin crefft arbennig gyda chyfle i greu crëyr origami i nodi 80 mlynedd ers bomio Hiroshima a Nagasaki, ac i gyd-fynd gyda 2025 fel blwyddyn Cymru a Japan Llywodraeth Cymru. Bydd hwn yn gyfle i wahodd ieuenctid Cymru i greu'r symbolau yma o heddwch ac ysgrifennu neges heddwch ar eu hadenydd. Bydd yr holl origami hyn yn cael eu harddangos tu allan i'r GwyddonLe gan dyfu a thyfu dros yr wythnos. Yna, byddwn yn anfon yr origami at Gofeb Heddwch y Plant ym Mharc Coffa Heddwch Hiroshima. Bydd crehyrod plant Cymru o'r GwyddonLe yn cael eu hychwanegu at y miloedd o rai eraill sy'n hongian ger Cofeb Heddwch y Plant er mwyn coffau'r plant a laddwyd gan y bom atomig a chyfleu ewyllys a dymuniad plant Cymru am heddwch i'r dyfodol.

Yn ogystal â hyn oll, mae Her Sefydliad Morgan, ein cystadleuaeth siarad cyhoeddus boblogaidd, yn dychwelyd ar ddydd Gwener, lle bydd disgyblion o Ysgol Gwent Is Coed ac Ysgol Bryn Tawe yn cyflwyno dadleuon yn erbyn ac o blaid y testun: 'Gallai deallusrwydd artiffisial chwarae rôl hanfodol yn nyfodol gofal iechyd yng Nghymru'. Gosodwyd y testun gan Dr Jeff Davies, athro cysylltiol niwrobioleg foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a bydd Jeff yno yn beirniadu'r gystadleuaeth, ynghyd a Sioned Williams, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant:

“Â ninnau'n sefydliad sydd wedi cefnogi'r Eisteddfod trwy ein nawdd a'n gweithgareddau yn y GwyddonLe ers bron i bymtheg mlynedd, mae cael yr Eisteddfod ar garreg y drws ym Margam eleni wedi arwain at gyffro a bwrlwm mawr o baratoi gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Bydd hyn oll yn siŵr o drosi mewn i wythnos i'w chofio ar y Maes gyda'r GwyddonLe'n llawn gweithgareddau ysbrydoledig i'n pobl ifanc, ein staff yn beirniadu cystadlaethau ac yn cyfrannu at weithgareddau stondinau ar hyd a lled y maes, a'n myfyrwyr yn cystadlu'n frwd ar y llwyfannau. Mae'n addo bod yn wythnos arbennig o ddathlu cyfoeth ein diwylliant Cymraeg ond hefyd i arddangos y rhanbarth arbennig hwn o Gymru ar ei orau.”