Mae’r prosiect i sefydlu Canolfan Gymraeg ym Mhontardawe yn bartneriaeth rhwng Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae’r cynllun wedi derbyn grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen 2015-16 er mwyn addasu’r adeilad ac i brynu adnoddau.
Bydd Tŷ’r Gwrhyd yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol, digwyddiadau cymunedol a rhaglenni addysgiadol cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob oed, yn ogystal â bod yn gartref i siop lyfrau a swyddfeydd. Bydd hefyd yn gartref i Swyddfa Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, gan gefnogi prosiectau’r Fenter i hybu defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal.
Mae’r enw Tŷ’r Gwrhyd yn deillio o Fynydd y Gwrhyd, un o fynyddoedd Cwm Tawe, ond mae i’r gair ‘gwrhyd’ hefyd ystyron ehangach sy’n gweddu amcanion a natur y fenter newydd.
Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Wrth ddewis enw ar gyfer y Ganolfan Gymraeg newydd, roeddem yn awyddus i wreiddio’r ganolfan yn ddwfn yn y gymuned y bydd yn ei gwasanaethu, a pha well enw nag enw unigryw a chyfarwydd un o fynyddoedd yr ardal, er mwyn adlewyrchu bod yr iaith yn ddi-syfl yn y gymuned honno fel y mae'r mynydd ei hun.
“Mae i ‘gwrhyd’ ddau ystyr arall. Gall olygu’r hyd rhwng breichiau dyn pan font ar led a nod Tŷ’r Gwrhyd fydd ymestyn breichiau o gwmpas y gymuned a'r iaith, gan estyn croeso a chynhaliaeth. Yr ystyr arall yw cadernid, dewrder a gwroldeb. Ein gobaith wrth sefydlu Tŷ’r Gwrhyd yw mynnu cadernid i'r Ganolfan a'r iaith Gymraeg wrth geisio atal y dirywiad ieithyddol yn ardal Cwm Tawe a Chwm Nedd.”
Cwmni Galactig, sy’n rhan o grŵp Rondo Media, ac sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru sydd wedi dylunio logo Tŷ’r Gwrhyd. Meddai Derick Murdoch, cyfarwyddwr creadigol Galactig: “Roeddem eisiau i frandio Tŷ’r Gwrhyd adlewyrchu’r tirwedd sy’n amgylchynu’r Ganolfan Gymraeg newydd. Mae cyfuchliniau map a welir yn y logo yn seiliedig ar nodweddion daearyddol go iawn y Gwrhyd. Gwreiddia hyn y brandio, ac yn ei sgil, y Ganolfan Gymraeg newydd, yn ei chynefin. Mae’r siapiau mynydd tryloyw cefndirol yn cynrychioli treigl amser ac yn awgrymu fod presenoldeb yr iaith Gymraeg mor gadarn a’r mynyddoedd.”
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B. Davies: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o fedru arwain ar y prosiect pwysig hwn a chydweithio gyda phartneriaid i gefnogi a hybu defnydd o’r Gymraeg – yn enwedig ymysg pobl ifanc a dysgwyr. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ymchwil gan ddau o ysgolheigion Prifysgol Abertawe a arweiniodd at y cynllun i sefydlu canolfannau, a bydd Academi Hywel Teifi yn sicrhau bod Tŷ’r Gwrhyd yn ganolfan iaith ddeinamig a fydd yn caniatáu i bobl fyw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg.”
Meddai’r Cynghorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot unwaith eto’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i ddatblygu canolfan yng Nghwm Tawe a fydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglen fywiog a strategol a fydd yn cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo'r iaith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a lleoliadau ffurfiol arall. Mae'r enw arfaethedig ar gyfer y Ganolfan yn adlewyrchu'r ardal leol ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn cael ei defnyddio a’i gwerthfawrogi’n fawr gan ein cymunedau."
Mae’r gwaith o addasu’r adeilad ym Mhontardawe wedi dechrau ers mis Ionawr 2016, a’r gobaith yw y bydd Tŷ’r Gwrhyd yn agor yn ystod mis Ebrill 2016.