Llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi dyraniad o ddwy neuadd breswyl newydd ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, sef Aelwyn Penmaen ar Gampws Parc Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Mi fydd llety penodol i siaradwyr Cymraeg ar gael yn y ddwy neuadd o fis Medi 2018 ymlaen.
Gyda miloedd o siaradwyr Cymraeg eisoes yn astudio yn y Brifysgol, a’r nifer hynny ar gynnydd yn sgil mwy o ddarpariaeth i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mi fydd gan fyfyrwyr gyfle i fod yn rhan o gymuned glos a chefnogol yng nghalon bywyd y campws.
Mi fydd y llety hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd mantais lawn o’r digwyddiadau cymdeithasol sy’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd gan breswylwyr ar y ddau gampws fynediad i’r holl gyfleusterau hanfodol y mae myfyrwyr eu hangen, gan gynnwys banc, golchdy, siopau, swyddfa bost, neuadd fwyd, canolfan iechyd, Undeb Myfyrwyr, a Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg.
Ym marn Tomos Watson, Swyddog Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, “Mae’r datblygiad hwn yn un i’w groesawu’n fawr. Mae myfyrwyr y Brifysgol wedi bod yn galw ers tro am neuadd sy’n rhoi cyfle i Gymry Cymraeg fyw yng nghwmni ei gilydd, ac, eleni, mae ein Prifysgol nid yn unig wedi gwrando arnom, ond wedi trefnu dwy i ni! Fel Undeb, edrychwn ymlaen yn fawr nawr at groesawu preswylwyr newydd i’r neuaddau hyn ym mis Medi ac at weld y gymuned Gymraeg yma yn datblygu ymhellach.”