Mae dau aelod o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe wedi cael eu cynnwys ar restr fer Cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, Llenyddiaeth Cymru.
Mae Cofiant D. Gwenallt Jones 1899 - 1968 gan y Prifardd a’r Athro Alan Llwyd, a benodwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn 2013, wedi ei gynnwys ar restr fer y categori ffeithiol greadigol. Dyma’r gyfrol ddiweddaraf mewn cyfres boblogaidd o gofiannau gorchestol gan Alan Llwyd. Ymddangosodd ei gofiant i Kate Roberts yn 2011, ei gofiant i R. Williams Parry yn 2013, a’i gyfrol ar Waldo Williams yn 2014.
Mae Bylchau, ail gyfrol o gerddi’r Prifardd Aneirin Karadog, sy’n fyfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg yr Academi, wedi ei chynnwys ar restr fer y categori barddoniaeth.
Dywedodd Aneirin Karadog: "Mae cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn fraint am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae gwybod fod yna werthfawrogiad i waith a fu'n cymaint ran o'm bywyd wrth i fi ei greu yn galondid mawr. Yn bwysicach, mae cael bod yn rhan o'r dathliad blynyddol o lenyddiaeth Gymraeg a elwir yn Llyfr y Flwyddyn yn hollbwysig i rywun fel fi sy'n dymuno gweld parhad a thwf y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd."
Wrth glywed y newyddion, meddai’r Athro Alan Llwyd : 'Rwy'n falch iawn ein bod ni'n dau wedi cael ein henwebu ar gyfer Llyfr y Flwyddyn, ac mae gan Academi Hywel Teifi ran fawr yn ein llwyddiant. Disgwylir imi, fel Athro yn yr Academi, gynhyrchu a chyhoeddi gwaith ymchwil newydd a gwreiddiol, a dyna'n union beth yw Gwenallt. Ac rwy'n diwtor barddoniaeth i Aneirin, sy'n fyfyriwr ôl-raddedig yn ein hadran.'
“Mae’n braf cael dathlu llwyddiannau aelodau o’r Academi unwaith eto eleni, a’r rheini’n staff a myfyrwyr, meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, ac ym marn Pennaeth Adran y Gymraeg, Dr Rhian Jones: “Mae'r ddau'n cyfrannu'n aruthrol i fwrlwm creadigol ac ymchwil ddynamig yr Adran ac mae'n dda gweld eu campweithiau diweddaraf yn cael eu cydnabod a'u dathlu yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Rydym fel Adran gyfan yn ymfalchïo yn llwyddiant haeddiannol Alan ac Aneirin.”
Y panel beirniadu Cymraeg eleni yw y beirniad llenyddol, Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol Palas Print yng Nghaernarfon.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal bydd enillwyr yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn £6, a gellir eu prynu o http://tramshedcardiff.com
Bydd modd pleidleisio dros gyfrolau’r Rhestr Fer ar gyfer gwobr Barn y Bobl ar wefannau Golwg360:www.golwg360.com