Academi Hywel Teifi yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol
Unwaith eto eleni, bu Academi Hywel Teifi'n noddi Lolfa Lên Gŵyl Tafwyl gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol i bobl o bob oed.
Mewn partneriaeth â Lenyddiaeth Cymru bu Academi Hywel Teifi yn noddi ac yn cynnig rhaglen lawn o drafodaethau yn Lolfa Lên Tafwyl dros benwythnos 30 Mehefin 2018, gan gynnwys gweithdai a darlleniadau gan rai o lenorion amlycaf Cymru.
Ymysg y digwyddiadau a gafodd eu cyflwyno gan Academi Hywel Teifi eleni roedd Awen Abertawe a roddodd gyfle i ymwelwyr yr ŵyl glywed staff a myfywryr Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe sef yr Athro Brifardd Tudur Hallam, y Prifardd Aneirin Karadog, Grug Muse a Matthew Tucker, yn darllen ac yn trafod eu cerddi. Yn y sesiwn Tu ôl i’r Gôl bu'r Dr Simon Brooks o Academi Morgan, Prifysgol Abertawe yn sôn wrth Dr Osian Elias o'r Adran Ddaearyddiaeth am ei lyfr newydd Adra ( Y Lolfa) . Mae'r gyfrol yn cynnig golwg unigryw ar gymdeithas a diwylliant Gorllewin Cymru wrth drafod clwb a chefnogwyr pêl-droed Porthmadog. Hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau'r Lolfa Lên roedd Dr Gethin Matthews o Adran Hanes Prifysgol Abertawe a fu'n trafod ei lyfr newydd am y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r Athro Martin Johnes. Mae Having a Go at the Kaiser (Gwasg Prifysgol Cymru) yn casglu ynghyd lythyrau tri brawd o Abertawe a fu’n filwyr yn y Rhyfel ac yn trafod yr hyn mae’r llythyrau’n ei ddatgelu am agwedd cymdeithas y cyfnod at hunaniaeth genedlaethol, rhyfel, gwrywdod a chariad teuluol.
Meddai Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn falch iawn ein bod wedi noddi Pabell Lenyddiaeth Tafwyl unwaith eto eleni, ac o fod yn rhan o’r ŵyl arbennig hon sy’n amlygu cyfoeth a bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg. Diolch yn fawr i Lenyddiaeth Cymru am gydweithio hapus a hwylus unwaith eto eleni yn y Lolfa Lên a llongyfarchiadau i’r trefnwyr ar Ŵyl ar fendigedig arall. Mae’n braf cael bod yn rhan o ddathlu’r iaith yn ein prifddinas a sicrhau llwyfan i holl weithgarwch llenorion, beirdd ac ysgolheigion dawnus Prifysgol Abertawe.”