Beth Rydym yn Wneud
Mae’r tîm Money@CampusLife, sydd wedi ennill gwobrau, yma i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am faterion sy’n ymwneud ag arian myfyrwyr a phoblogaeth myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a’n darpar fyfyrwyr. Rydym yn anelu at alluogi myfyrwyr i gymryd rheolaeth dros eu cyllid er mwyn cyfyngu effaith materion cyllidol i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd brig eu gallu wrth sicrhau profiad myfyrwyr cadarnhaol.
Rydym yn cynghori ar gyllid myfyrwyr, caledi ariannol, cyllidebu a hefyd yn darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, er enghraifft; bod yn berson sy'n gadael gofal, yn ofalwr neu wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu. Os nad ydych yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau hyn ond yn teimlo bod gennych ystyriaethau penodol a allai fod angen cymorth ariannol*, cysylltwch â ni.
*Nid yw cymorth ariannol wedi'i warantu.
Dylai myfyrwyr presennol a myfyrwyr cofrestredig sy'n chwilio am wybodaeth am galedi ariannol, cyllidebu a gwybodaeth gyffredinol arall gyfeirio at ein tudalennau gwe My Uni.