Cyn Cyrraedd
Beth mae'n rhaid i mi ei ystyried yn ariannol cyn dod i'r Brifysgol?
Mae'n bwysig i fyfyrwyr ystyried eu cynllun ariannol cyn cofrestru ar eu cyrsiau. Dyma rai o’r pethau y dylech chi eu hystyried:
- Pa gyllid rydych chi'n gymwys i'w dderbyn?
- Beth fydd eich gwariant?
- Fydd modd i chi weithio'n rhan-amser?
- Beth yw cost gyffredinol byw yn Abertawe i fyfyriwr?
Mae rhagor o wybodaeth am hyn oll ar ein tudalen we Costau Byw a fydd hefyd yn cysylltu â'n tudalen we Rheoli Arian a Gwybodaeth.
Oes angen i mi nodi fy rhif Yswiriant Gwladol (NI) yn fy nghais Cyllid Myfyrwyr?
Os wyt ti'n derbyn benthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr, yr ateb yw 'Oes' - nid oes modd i Gyllid Myfyrwyr ryddhau taliadau dy fenthyciad os nad yw dy rif Yswiriant Gwladol wedi'i nodi a'i ddilysu. Os oes oedi wrth asesu dy gais, neu wrth gael dy gyllid, gallai hynny ymwneud â dilysu dy rif Yswiriant Gwladol. Os oes gofyn i ti ddarparu dy rif Yswiriant Gwladol neu unrhyw ddogfennaeth ategol i Gyllid Myfyrwyr er mwyn cwblhau dy asesiad, sylwer y gall y broses ddilysu gymryd hyd at bythefnos.
Os nad wyt ti'n gwybod dy rif Yswiriant Gwladol neu os wyt ti wedi ei golli, dylet ti ffonio llinell gymorth cofrestriadau Yswiriant Gwladol CThEF (HMRC) ar 0300 200 3500.
Nid oes angen darparu rhif Yswiriant Gwladol os wyt ti’n derbyn grantiau gan Gyllid Myfyrwyr yn unig, neu os wyt ti'n fyfyriwr o'r UE. Serch hynny, os wyt ti'n fyfyriwr o'r UE sy'n meddu ar rif Yswiriant Gwladol, mae angen i ti ei gynnwys yn dy gais.
Ymrestru a Chyllid Myfyrwyr
Nid yw fy nghyllid myfyriwr wedi cael ei gadarnhau, a fydd modd i mi gofrestru?
Ein cyngor i fyfyrwyr yw na ddylent gofrestru oni bai bod eu cyllid ar gyfer y cwrs wedi'i gadarnhau oherwydd, ar ôl i chi gofrestru, byddwch chi'n gyfrifol am dalu cyfran o'ch ffioedd hyd yn oed os na allwch chi barhau i astudio. Ar ben hyn, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ystyried eich bod wedi defnyddio blwyddyn lawn o'ch hawl i gyllid myfyriwr, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau'r flwyddyn. Os bydd angen cymorth arnoch chi i ddeall a/neu gael mynediad at gyllid myfyrwyr, e-bostiwch money.campuslife@abertawe.ac.uk
Mae fy nghwrs wedi newid o'r un sydd ar fy nghais am Gyllid Myfyriwr (drwy glirio), sut bydd hyn yn effeithio ar fy nghyllid myfyriwr?
Ni fyddai hyn yn effeithio ar eich cyllid er y byddai angen i chi ddiweddaru eich cais ar-lein gyda'ch Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw drwy eich cyfrif Cyllid Myfyriwr ar-lein. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am Gyllid Myfyriwr ar gyfer Clirio - https://www.swansea.ac.uk/cy/clirio/cyllid-i-fyfyrwyr-clirio/
Pryd bydd fy nghyllid yn cael ei dalu?
Ar ôl i'r broses gofrestru gael ei chwblhau, mae'r Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn anfon cadarnhad i'n Hadran Gyllid a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, a fydd yn peri i'r taliad cynhaliaeth cyntaf gael ei dalu i'ch cyfrif banc o fewn 3-5 niwrnod gwaith a'r ffi ddysgu i'r Brifysgol.
Bydd myfyrwyr nyrsio sy’n derbyn bwrsariaeth y GIG fel arfer yn derbyn eu rhandaliad cyntaf ar ddiwedd mis Hydref (sef ail fis eich cwrs) ac yna'n fisol ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.
Myfyriwr Nyrsio ydw i, pryd gallaf ddisgwyl derbyn fy mwrsariaeth?
Fel arfer, byddwch yn derbyn rhandaliad cyntaf eich bwrsariaeth ar ddiwedd mis Hydref (sef, ail fis eich cwrs) a dylech dderbyn rhandaliadau misol wedi hynny, ar ddiwrnod gweithio olaf pob mis.
Hefyd, fel myfyriwr nyrsio sy'n elwa o gynllun bwrsariaethau'r GIG, gallwch wneud cais hefyd am fenthyciad cynhaliaeth is drwy gyllid myfyrwyr. Ewch i dudalennau we Cyllid Myfyrwyr am ragor o wybodaeth.
Nid yw fy nghyllid myfyriwr wedi cyrraedd eto ac rwy'n wynebu anawsterau ariannol, beth yw fy opsiynau?
Os oes gennych anawsterau o ran talu costau hanfodol o ganlyniad i oedi cyn derbyn eich cyllid, gallwch chi gyflwyno cais i'n Cronfa Galedi. Nid ffynhonnell cyllid yw hon ac ni chewch ei defnyddio i dalu ffioedd dysgu. Does dim sicrwydd y byddwch yn derbyn dyfarniad ond os yw'ch cais yn llwyddiannus, ni fydd rhaid i chi ei ad-dalu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cronfa Galedi bwrpasol.
Myfyrwyr cofrestredig yn unig sy'n gallu cyflwyno cais. Peidiwch â chofrestru er mwyn cyflwyno cais am ein Cronfa Galedi oherwydd na warentir dyfarniadau ac unwaith eich bod chi wedi cofrestru, byddwch yn atebol am dalu ffïoedd hyd yn oed os nad ydych chi'n parhau ar eich cwrs.
Os bydda i'n cofrestru ar gwrs ac yna'n dewis tynnu'n ôl ychydig ddiwrnodau neu ychydig wythnosau wedyn, beth fydd yn digwydd i'm cyllid?
Os byddwch chi'n tynnu'n ôl neu'n gohirio eich rhaglen yn gynnar (fel arfer o fewn y pythefnos cyntaf ar ôl y dyddiad dechrau) caiff y ffioedd dysgu eu canslo'n llawn. Gallai myfyrwyr fod yn gyfrifol am dalu canran o gostau'r ffioedd dysgu (yn amodol ar ddyddiadau presenoldeb) os byddant yn tynnu'n ôl/gohirio ar ôl y "cyfnod gras" hwn. Sylwch fod gan bob cwrs ei gyfnod gras ei hun yn seiliedig ar ddyddiadau dechrau.
Sylwer, pan fyddwch chi wedi cofrestru ac yna'n penderfynu tynnu'n ôl/gohirio eich astudiaethau, bydd eich darparwr Cyllid Myfyrwyr o'r farn eich bod chi wedi defnyddio blwyddyn o hawl i gyllid hyd yn oed os nad ydych chi'n derbyn eich holl gyllid. Os ydych chi'n derbyn cyllid cynhaliaeth cyn i chi dynnu'n ôl/gohirio, mae'n bosibl y byddwch chi wedi derbyn swm o gyllid sy'n uwch na'r hyn mae gennych hawl iddo. Ystyrir hyn yn ordaliad a byddai'n rhaid i chi ei ad-dalu i Gyllid Myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth ynghylch tynnu'n ôl neu ohirio eich astudiaethau, ewch i'n tudalen we.
Dydw i ddim yn hoffi fy nghwrs a hoffwn i ei newid, a fydd hyn yn effeithio ar fy sefyllfa ariannol?
Efallai bydd ffactorau megis hyd y cwrs (presennol ac yn y dyfodol) ac astudio blaenorol yn effeithio ar eich cyllid. Rydym yn eich cynghori i naill ai gysylltu â'ch darparwr cyllid neu Arian@BwywdCampws am gyngor ac arweiniad cyn trosglwyddo cwrs.
Mae gennyf gyfnod o astudio blaenorol. Fydda i'n derbyn cyllid llawn ar gyfer fy nghwrs newydd?
Bydd y penderfyniad ynghylch a fyddwch chi'n derbyn cyllid ffioedd dysgu yn seiliedig ar sawl blwyddyn o astudio blaenorol sydd gennych chi ar lefel addysg uwch. Bydd Cyllid Myfyrwyr yn cyfrif blwyddyn lawn o astudio hyd yn oed os nad oeddech chi wedi cwblhau'r flwyddyn. Os oes gan fyfyriwr gyfnod o astudio blaenorol, yna byddem yn ei gynghori i gysylltu â'i ddarparwr cyllid i wirio ei hawl cyn iddo gofrestru. Os ydych chi'n gymwys, fel arfer, gallwch chi dderbyn eich cyllid cynhaliaeth o hyd oni bai eich bod eisoes yn meddu ar gymhwyster addysg uwch.
Fel arfer, gall myfyrwyr dderbyn cyllid myfyrwyr ar gyfer eu cymhwyster addysg uwch cyntaf yn unig. Os ydynt eisoes wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y DU, efallai na fydd modd cael cymorth ar gyfer ail gwrs.
Mae Cyllid Myfyrwyr wedi dweud wrthyf nad oes gennyf ddigon o gymhwysedd am gyllid ffioedd dysgu i ariannu blwyddyn (neu fwy) o'm cwrs - oes unrhyw beth gallaf ei wneud?
Os yw amgylchiadau megis salwch, profedigaeth, materion teuluol, beichiogrwydd neu sefyllfa arall wedi eich atal chi rhag cwblhau blwyddyn neu wedi arwain at fethiant academaidd, efallai gallwch chi gyflwyno apêl am gyllid yn ôl disgresiwn ar sail rhesymau personol anorchfygol. Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i gefnogi eich apêl. Caiff y penderfyniad i gymeradwyo cyllid yn ôl disgresiwn ei wneud gan eich darparwr cyllid yn unig ond bydd modd i Arian@BywydCampws eich cynorthwyo drwy'r broses.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael yn ein llyfryn Canllawiau i Resymau Personol Anorchfygol neu e-bostiwch Arian@BwywdCampws
Pontio i Fywyd Prifysgol
Rwy’n fyfyriwr ac mae angen swydd ran-amser arnaf er mwyn helpu i reoli fy arian, pa gymorth sydd ar gael?
Mae cymorth Cyflogaeth ar gael trwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA). I ddysgu mwy am y cymorth y gallant ei gynnig i chi o ran dod o hyd i swydd ran-amser, ewch i’w tudalen we – https://myuni.swansea.ac.uk/cy/gyrfaoedd/
Fel myfyriwr, fydda i’n derbyn gostyngiad ar Dreth y Cyngor?
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn (yn astudio am dros 21 awr yr wythnos a thros 24 o wythnosau'r flwyddyn) ac rydych chi'n byw ar eich pen eich hun neu mewn eiddo rydych chi'n ei rannu â myfyrwyr amser llawn, dylech chi gael eich eithrio rhag talu treth y cyngor. Mae'n bosib y bydd angen Tystysgrif Treth y Cyngor arnoch chi i'w chyflwyno i'r awdurdod lleol a gallwch gael un drwy e-bostio myunihub@abertawe.ac.uk. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/myunihub/eithriad-treth-y-cyngor/
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, neu'n byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr, mae'n bosib y bydd gennych hawl i ostyngiad 25% yn eich taliad Treth y Cyngor. Cysylltwch â MyUniHub i gael eich tystysgrif ac yna cysylltwch â'ch cyngor lleol i wneud cais am y gostyngiad.
Dwi'n cael trafferth ymdopi oherwydd y newidiadau diweddar yn fy mywyd a dod i'r Brifysgol. Oes rhywle gallaf fynd am gymorth?
Gall dechrau'r Brifysgol fod yn gyfnod llawn gofid ac mae'n bosib eich bod yn teimlo pob math o emosiynau. Mae gan y gwasanaeth BywydCampws dîm ymroddedig o staff llesiant sy'n cynnig pob math o gymorth gwahanol i fyfyrwyr. I weld pa gymorth sydd ar gael, edrychwch ar eu tudalen we - https://www.swansea.ac.uk/cy/llesiant/
Methu dod o hyd i ateb i’ch ymholiad? Cysylltwch â ni.
Os na allwch chi ddod o hyd i ateb i’ch ymholiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â ni.