Taliad Cymorth Llety
Rydym yn cynnig dyfarniad nid oes angen ei ad-dalu i fyfyrwyr cymwys, i gynorthwyo tuag at gostau llety i fyfyrwyr sy'n byw ym mhreswylfeydd Prifysgol Abertawe.
Bydd angen i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n parhau gael eu hasesu eu bod yn wynebu caledi ariannol drwy ein proses cyflwyno cais i fod yn gymwys ar gyfer y taliad cymorth llety.
Mae'r taliad llety yn cynnig hyd at £750.00 fesul blwyddyn academaidd. Mae nifer cyfyngedig o Daliadau Cymorth Llety ar gael ar gyfer 24/25 ac felly dyfernir taliadau ar sail y cyntaf i'r felin.
Cymhwysedd:
I fod yn gymwys i gyflwyno cais am y Taliad Cymorth Llety, mae'n rhaid i ti fodloni'r meini prawf isod:
- Rwyt ti'n fyfyriwr newydd / myfyriwr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol
- Rwyt ti'n byw yn Llety Prifysgol Abertawe, ac nid wyt ti'n talu am unrhyw lety arall (gweler rhestr o lety cymwys isod)
- Rwyt ti ar gwrs amser llawn / rhan-amser ac yn derbyn yr holl gyllid sydd ar gael i ti
- Rwyt ti'n dioddef o galedi ariannol ac yn fodlon ymgymryd ag asesiad ariannol o'th amgylchiadau a darparu tystiolaeth ategol
Llety cymwys
- Campws y Bae
- Y Coleg (ar Gampws y Bae)
- Campws Parc Singleton
- Tŷ Beck
- Seren *
- True *
* Ar gyfer llety 'Seren' neu 'True' mae'n rhaid i'th gytundeb fod drwy'r tîm Llety yn y Brifysgol. Sylwer, os oes gennyt denantiaeth 'gosod uniongyrchol' gyda'r darparwyr llety hyn, ni fyddi di'n gymwys ar gyfer y Taliad Cymorth Llety.
Tystiolaeth angenrheidiol
Os wyt ti'n teimlo dy fod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a hoffet gyflwyno cais, gelli di ddod o hyd i'r ddolen i'r dudalen we i wneud cais isod:-
https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship
Dewisa'r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr, yna clicia'r opsiwn 'Taliad Cymorth Llety' o'r gwymplen.
Bydd angen i ti ddarparu'r isod i gefnogi dy gais:
- Llythyr hawlogaeth Cyllid Myfyrwyr sy'n dangos dy fod yn derbyn cyllid llawn.
- Cytundeb Tenantiaeth ar gyfer dy lety presennol gan dîm Llety Prifysgol Abertawe*
- Cyfriflenni banc ar gyfer dy HOLL gyfrifon banc/cymdeithas adeiladu/cynilion/ISA.
- Unrhyw dystiolaeth arall sydd ei hangen i wneud asesiad ariannol fel sy’n ofynnol gan dîm asesu Arian@BywydCampws.
Telerau ac amodau yn berthnasol*