YSGOLORIAETHAU MEISTR A ADDYSGIR

MEYSYDD PWNC AMRYWIOL: YSGOLORIAETH NODDFA PRIFYSGOL ABERTAWE 2024

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais 

Dyddiad cau: Yr Ysgoloriaeth Noddfa bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd.

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gadarnhau y byddwn yn cynnig rhagor o wybodaeth, cymorth ac arweiniad yn fuan iawn i'n myfyrwyr sy'n geiswyr lloches, yn ffoaduriaid a'r rhai hynny sydd â chaniatâd amhenodol i aros (amddiffyniad dyngarol) sydd yn y DU ar hyn o bryd. Dewch yn ôl i gael diweddariadau gan fod y dudalen we yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. 

Os oes gennych ymholiadau brys, e-bostiwch sanctuary@abertawe.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.

Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2024, ac mae'n cynnwys:

  • Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
  • Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.

Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell ac enw cyswllt yn nhîm staff y Brifysgol

Cynnig cefnogaeth Prifysgol Abertawe i Weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe

Cynnig cefnogaeth Prifysgol Abertawe i Weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe a'r Siarter Dinas Noddfa.

Mae Prifysgol Abertawe'n datgan yn gyhoeddus ei chefnogaeth i weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe a'r Siarter Dinas Noddfa.Rydym yn addo gweithredu i gyfrannu at droi'r weledigaeth yn realiti a chreu lle croesawgar a diogel i'r rhai hynny sy'n ffoi trais ac erledigaeth.

Ers blynyddoedd, rydym wedi gweithio i wella profiad y rhai hynny sy'n ceisio lloches a noddfa yn ein prifysgol a'r gymuned ehangach drwy waith ein myfyrwyr a staff gwirfoddol.Mae ein cymuned ymchwil yn cyfrannu at ymchwilio a gwella profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad y rhai hynny sy'n ceisio noddfa a byddwn yn cynnwys eu lleisiau yn ein gwaith.Byddwn yn parhau i weithio i greu cysylltiadau cryfach â sefydliadau ar draws ein cymuned drwy waith ein myfyrwyr, ein staff a'r brifysgol fel sefydliad.

YN EICH CEFNOGI I LWYDDIANT:

Mae Abertawe'n adnabyddus am fod yn ddinas gynhwysol a chroesawgar a chanddi amrywiaeth helaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig sy'n cyfrannu at ddiwylliant bywiog y ddinas. Gwelir yr un ymroddiad hwn i ddarparu amgylchedd meithringar yn y Brifysgol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cymorth ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches