Fel rhiant, gwarcheidwad neu rywun sydd â dyletswyddau gofalu, byddwch chi'n un o'r ffynonellau pwysicaf a mwyaf dibynadwy o wybodaeth a chyngor i'ch plentyn.

Mae penderfynu mynd i'r Brifysgol yn gam mawr yn ei daith tuag at fod yn annibynnol ac er bod hwn yn amser cyffrous, rydym yn deall y gall fod yn heriol hefyd.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall y broses yn well fel y gallwch gynllunio ymlaen llaw a chefnogi'ch plentyn i wneud y penderfyniad iawn.

Proses gwneud cais

Myfyrwyr y DU

Byddem yn argymell eich bod yn dechrau ymchwilio i brifysgolion adeg y gwanwyn, a fydd yn rhoi digon o amser i chi gyfyngu ar eich dewisiadau a mynd i unrhyw ddigwyddiadau megis arddangosiadau neu ddiwrnodau agored, cyn cyflwyno cais drwy UCAS.

Mae gennym ganllaw defnyddiol ar sut i gwblhau eich cais UCAS, sy’n cynnwys gwybodaeth am ddyddiadau allweddol, geirdaon a sut i gyflwyno cais, yn ogystal â chanllaw ar sut i ysgrifennu eich datganiad personol ar gyfer UCAS.

 

Amserlen cyn cyflwyno caisAmserlen ar ôl cyflwyno cais
  • Gwanwyn / Haf: Ymchwiliwch i'r cwrs

  • Haf / Hydref: Mynychu confensiynau a Diwrnodau Agored UCAS

  • Medi - Ionawr: Gwnewch gais

  • Dydd Mercher olaf Ionawr: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS

  • Ionawr - Mai: Derbyn cynigion prifysgol
  • Chwefror - Mehefin: Gwneud cais am gyllid myfyrwyr
  • Chwefror - Mehefin: Gwneud cais am lety
  • Awst: Canlyniadau arholiadau
  • Medi: Ymrestru
Myfyrwyr Rhyngwladol

Canllaw i rieni ar ffioedd a chyllid

I rieni a myfyrwyr, rydym yn gwybod y gall y gost o fynd i’r brifysgol fod yn un o'r prif bryderon.

I'ch helpu i ddeall y gost gyffredinol o fynd i’r brifysgol, rydym wedi casglu gwybodaeth am bopeth sy'n ymwneud â chyllid, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â chwrs eich plentyn, ac unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael iddynt gan gynnwys benthyciadau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Mae gennym hyd yn oed dudalen costau byw yn Abertawe, i egluro'r costau byw cyffredinol yn ein dinas.

Llety'r Brifysgol

Rydym yn gwybod y gall y syniad o'ch plentyn yn byw oddi cartref fod yn frawychus, ond mae gan Brifysgol Abertawe ddigon o opsiynau i wneud iddo deimlo'n gartrefol!

Gall ddod o hyd i’r llety cywir wneud gwahaniaeth go iawn o ran ymgartrefu, dyna pam mae’n bwysig eich bod chi’n ystyried y ffactorau llety pwysicaf ar gyfer eich plentyn. 

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth o dai i fyfyrwyr ar draws pedwar lleoliad, gan gynnwys ardaloedd dynodedig megis tawel, un rhyw, di-alcohol, aeddfed a chyfrwng Cymraeg.

Mae tîm diogelwch 24 awr ar y campws yn ogystal â rhwydwaith cymorth dynodedig sy'n gallu cynnig cymorth a chyngor ar bob adeg.

Gwasanaethau cymorth myfyrwyr

Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn hollbwysig i ni a dyna pam mae Prifysgol Abertawe'n cynnig nifer o wasanaethau i gynorthwyo'ch plentyn drwy gydol ei amser yn y Brifysgol.

Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, mae'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr yno i wneud yn siŵr bod gan holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gyfleoedd cyfartal. Mae'r tîm yn cynnig gwasanaethau i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau, ynghyd â phroblemau hirdymor mwy cymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys namau synhwyrol neu gorfforol, cyflyrau meddygol hirdymor, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau sbectrwm awtistig a chyflyrau iechyd meddwl.

Paratoi eich Plentyn ar gyfer Bywyd yn y Brifysgol

I lawer o'n myfyrwyr, mynd i’r brifysgol yw'r tro cyntaf iddynt fyw oddi cartref.Gall y newid hwn arwain at gymysgedd o emosiynau, ond mae sawl ffordd y gallwch chi helpu i wneud y newid hwn yn esmwyth i'ch plentyn. Mae ein canllaw isod ar gefnogi eich plentyn o'r ysgol i'r brifysgol, yn cynnwys nifer o awgrymiadau gwych ar sut i reoli'r newid, a gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr (gyda mwy o awgrymiadau gwych a nodiadau atgoffa defnyddiol trwy gydol y broses cyflwyno cais), a fydd yn rhoi mynediad i chi at ein Canllaw i Rieni sydd ar gael am ddim.

Rydym hefyd yn cynnig cyngor ar sut i fynd i’r afael â’r broses os yw eich plentyn yn cyflwyno cais i'r brifysgol drwy Glirio.

Pam Abertawe?

Os ydych yn dal yn ansicr, darllenwch ein 5 prif reswm dros ddewis abertawe

Myfyrywr yn eistedd mewn caffi ar eu cliniaduron

Cwestiynau Cyffredin

Am restr lawn o Gwestiynau Cyffredin, ewch i'n tudalen we Cwestiynau Cyffredin Rhieni a Gwarcheidwaid.