Mae Profiad Myfyrwyr Rhyngwladol yn bodlediad sy'n ymroddedig i arddangos straeon unigryw myfyrwyr o bob rhan o'r byd sydd wedi dewis astudio yn y DU.
Mae’r pynciau’n cynnwys sut brofiad yw dod i’r DU am y tro cyntaf, sut i lywio cyrraedd Abertawe, creu cymuned i chi’ch hun tra oddi cartref a’r lleoedd gorau i fynd am goffi pan fyddwch chi yma!
Pennod diweddaraf
Cyfres 3, Pennod 7: 'From Colombia to Community' – Juan Corcho-Ruiz, Colombia
Yn y bennod olaf hon, rydym yn cwrdd â Juan Corcho-Ruiz, myfyriwr cyfryngau a chyfathrebu o Golombia, y mae ei daith i Brifysgol Abertawe yn un o uchelgais, addasu, a chysylltiad diwylliannol. Trwy raglen Blwyddyn Un Abertawe i Fyfyrwyr Rhyngwladol, daeth Juan o hyd i lwybr at addysg uwch yn y DU. Mae ei angerdd am bêl-droed a chymuned wedi llywio ei brofiad, o ymuno â'r Gymdeithas Ladin-Americanaidd i gydbwyso gwaith rhan-amser ac astudiaethau.
Pennod diweddaraf
Cyfres 3, Pennod 6 - "Mae'n iawn peidio â gwybod beth rydych chi'n ei wneud" - Goresgyn hiraeth am adref a ffynnu fel Myfyriwr Rhyngwladol. Youssef Gomaa, Qatar.
Mae gadael teulu a ffrindiau i astudio dramor yn medru bod yn brofiad brawychus ac unig, ac mae hiraethu am adref yn aml yn her i lawer o bobl. Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio â Youssef, myfyriwr cyfryngau a chyfathrebu, sy'n rhannu sut y gwnaeth ef oresgyn yr heriau hyn drwy ymuno â chymdeithasau i fyfyrwyr a ffurfio cysylltiadau â staff y Brifysgol, gan greu ymdeimlad o berthyn yn Abertawe, a sut gwnaeth y flwyddyn sylfaen ei helpu i drosglwyddo'n haws i fywyd yn y Brifysgol. Mae'n pwysleisio sut gwnaeth y flwyddyn hon roi'r cyfle iddo ddysgu sgiliau hanfodol, megis cyfeirnodi, ysgrifennu traethodau, a chyfathrebu proffesiynol, gan roi dechrau cadarn iddo ar gyfer ei astudiaethau a'i helpu i deimlo'n barod i lwyddo'n academaidd.
Pennod diweddaraf
Gwefan: Cyfres 3, Pennod 5 - 'Internships, Independence, and Inspiration’, Shrushti Shetty, India.
Ymunwch â ni wrth i ni sgwrsio â Shrushti Shetty, sydd wedi graddio yn y gyfraith o India sy'n rhannu ei thaith drawsnewidiol ym Mhrifysgol Abertawe. O ddarganfod ei hangerdd am y gyfraith ynghylch eiddo deallusol i achub ar brofiadau diwylliannol newydd, mae stori Shrushti yn dangos grym dyfalbarhad, y gallu i addasu ac archwiliad.
Drwy gyfrwng amrywiaeth o interniaethau, gan gynnwys rolau gyda thîm recriwtio rhyngwladol Prifysgol Abertawe ac Agor Innovation, cafodd Shrushti y cyfle i ddatblygu ei sgiliau, magu hyder, a manteisio ar gyfleoedd amrywiol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Cyfres 3, Pennod 4 - 'Profiad Byd-eang: Oman, Awstralia ac Abertawe' gyda Basma Al Aufi, Oman.
Ymunwch â ni wrth i ni sgwrsio â Basma Al Aufi, myfyriwr y gyfraith o Oman, sy'n rhannu ei thaith ysbrydoledig - o ddechrau ei hastudiaethau yn Awstralia i gwblhau ei gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyd y ffordd, cyfunodd Basha ei hangerdd am ddarllen â’i hymrwymiad i adeiladu cymuned, gan greu effaith barhaus drwy fentrau megis clwb llyfrau Arabaidd ar-lein a chydweithrediadau â ffair lyfrau symudol fwyaf y DU. Darganfyddwch ei stori o arloesedd, ysbrydoliaeth, ac ymrwymiad i rymuso eraill drwy addysg a llenyddiaeth.
Cyfres 3, Pennod 3 - 'Awyrenneg i Eiriolaeth: Newid Gyrfa Llawn Ysbrydoliaeth' gyda Nenkang Sam-Mbok, Nigeria
Yn y bennod hon, rydyn ni'n sgwrsio â Nenkang Sam-Mbok, sef ysgolhaig Chevening a myfyriwr MSc mewn gwybodeg iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â hanes llawn gwydnwch a thrawsnewid. Ei freuddwyd wreiddiol oedd bod yn beiriannydd awyrenegol ond trawsnewidiwyd ei fywyd yn llwyr gan ddigwyddiad a'i arweiniodd i fyd meddygaeth ac, yn y pen draw, at sefydlu Sefydliad Rebecca Mbok. Mae'r sefydliad yn mynd i'r afael â marwolaethau ymysg mamau a phlant yn Nigeria drwy fentrau a ysgogir gan y gymuned, gan gyfuno addysg llawr gwlad ag atebion arloesol. Yn Abertawe, mae'n ehangu ei ymgyrch drwy integreiddio offer iechyd digidol megis telefeddygaeth i chwyldroi darparu gofal iechyd mewn rhanbarthau lle ceir prinder gwasanaethau.
Cyfres 3, Pennod 2 - 'Byddai mwy o fenywod ym maes Peirianneg yn gallu newid y byd.' Khushbu Nayer, Zimbabwe.
Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio â Khushbu Nayer o Zimbabwe, sy'n rhannu ei stori anhygoel dros bedair blynedd fel myfyriwr peirianneg fiomeddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Gan symud i ffwrdd o'r sector iechyd, dewisodd Khushbu ei gradd gan ei bod yn cyfuno agweddau mwyaf cyffrous y ddwy ddisgyblaeth. Mae ei stori'n pwysleisio pwysigrwydd twf personol a meithrin cymuned gefnogol. O'i rôl fel myfyriwr llysgennad i'w hymrwymiad yng Nghymdeithas Peirianneg y Menywod, mae Khushbu yn trafod sut mae'r lleoedd hyn yn cynnig cymorth ond hefyd yn grymuso menywod mewn STEM.
Cyfres 3, Pennod 1 – "A Home Away from Home: Finding Community in Student Societies" gyda Ruchika Nongrom, India
Gwrandewch i gael eich ysbrydoli gan daith Ruchika Nongrom. Ar ôl iddi ennill ei hail radd yn y DU, clywodd am raglen Meddygaeth i Raddedigion Abertawe a bellach mae'n astudio am drydedd radd mewn meddygaeth, sy'n gyflawniad i'w edmygu. Mae Ruchika yn rhannu ei phrofiadau o astudio mewn prifysgol yng Nghymru pan oedd pandemig COVID-19 ar ei anterth, ac mae'n tanlinellu pwysigrwydd dysgu am eich amgylchfyd a mwynhau bod yn yr awyr agored. Y tu hwnt i'w huchelgeisiau academaidd, mae brwdfrydedd Ruchika am gysylltu ag unigolion o'r un meddylfryd a bod yn rhan o gymuned y Brifysgol yn amlwg wrth iddi siarad am ei rôl fel myfyriwr llysgennad a'i chyfraniad at arwain cymdeithasau myfyrwyr.
Penodau blaenorol - Cyfres Dau
Cyfres 2, Pennod 8 - Mynd gyda'r llif, addasu i fywyd yn y DU
Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio â Narottam Tiwari o Nepal, sy'n rhannu ei daith o addasu i fywyd yn y DU wrth astudio am radd Meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. O oresgyn gwahaniaethau diwylliannol ac unigrwydd i greu cysylltiadau drwy gymdeithasau myfyrwyr a gwaith, gan helpu myfyrwyr rhyngwladol newydd a chefnogi lles meddyliol myfyrwyr lleiafrifol, mae stori Narottam yn nodi pwysigrwydd mynd gyda'r llif ac achub ar brofiadau newydd. Mae hefyd yn trafod ei uchelgais i wneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd yn y DU a gartref yn Nepal.
Cyfres 2, Pennod 7 - Pwysedd yw'r peth sy'n creu diemyntau. Haikaeli Kinyamagoha, Tanzania
Yn y bennod hon o’r podlediad, mae Haikaeli Gillard Kinyamagoha o Tanzania yn rhannu ei thaith ym maes gofal iechyd gan ganolbwyntio ar ffarmacoleg ac arferion brodorol. Trwy ei phlatfform, Balcony Series, mae'n defnyddio celf i symleiddio a lledaenu gwybodaeth iechyd gymhleth. Mae un prosiect arwyddocaol, sef rhaglen ddogfen fer o'r teitl "Mwanahiti", yn archwilio dulliau traddodiadol pobl Zaramo o addysgu iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu i ferched ifanc. Er gwaethaf heriau o ran cyllideb a diwylliant, llwyddwyd i ddogfennu'r prosiect a'i arddangos yng 2023 Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Zanzibar.
Cyfres 2, Pennod 6 - O Tsieina i'r DU, heriau astudio dramor. Barry Liu, Tsieina
Yn y bennod hon, rydym yn cwrdd â Barry, sy'n dod o Tsieina yn wreiddiol, ac sydd wedi treulio wyth mlynedd yn y DU. Mae ef bellach yn astudio ar gwrs Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ar ôl newid o radd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bryste. Penderfynodd Barry newid i gyfrifeg a chyllid am ei fod yn faes sy'n alinio'n well â chefndir ei deulu ym maes cyllid. Mae Barry yn rhannu ei brofiadau o fyw yn Abertawe o'u cymharu â byw ym Mryste a'i gartref yn Tsieina. Mae hefyd yn trafod ei swydd ran-amser mewn asiantaeth gosod eiddo yn Abertawe sydd wedi cynnig cymorth ariannol a phrofiad gwerthfawr. Er gwaetha'r farchnad swyddi anodd a'r heriau o ddychwelyd i gyfweliadau wyneb yn wyneb, mae Barry yn parhau i fod yn obeithiol am ei ddyfodol yn Tsieina.
Cyfres 2, Pennod 5 - Astudio Dramor: Pontio diwylliannau a dod o hyd i fy ffordd fy hun. Lucie Lefler, USA
Yn y bennod hon mae Lucy Lefler, o Columbus, Georgia, yn rhannu ei thaith o ddarllen Harry Potter a Percy Jackson i astudio hanes hynafol a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Lucy yn trin a thrafod ei hangerdd am fytholeg Rufeinig, ei harchwiliadau o safleoedd hanesyddol yng Nghymru, a'r gwrthgyferbyniadau diwylliannol rhwng Abertawe a'i thref enedigol. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cymuned a chyfeillgarwch wrth iddi addasu at fywyd y DU, ac mae'n myfyrio ar yr annibyniaeth a gafodd wrth astudio dramor.
Cyfres 2, Pennod 4 - Cam wrth Gam. Srushti Mande, India
Mae Srushti Mande o Mumbai, India yn astudio ar gwrs gradd MSc mewn Realiti Rhithwir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n rhannu ei thaith o astudio cyfrifiadureg yn India, gweithio mewn cwmni rhyngwladol i archwilio Realiti Rhithwir ac, yn y pendraw, symud i'r DU. Mae'n pwysleisio rôl hanfodol Ysgoloriaeth Myfyriwr Ôl-raddedig Cymru Fyd-eang a’i galluogodd i astudio. Mae Srushti yn trafod heriau a chyffro ei hediad rhyngwladol cyntaf, pwysigrwydd cymuned ymhlith myfyrwyr rhyngwladol a chydbwyso ei hastudiaethau academaidd, bywyd gwaith a bywyd cymdeithasol yn Abertawe.
Mae Jshua Benn, twrnai o Guyana, yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar ysgoloriaeth Chevening o fri, gan ddilyn LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy. Wedi'i ysbrydoli ar ôl i olew gael ei ddarganfod yn Guyana yn 2015, ei nod yw llenwi'r bwlch arbenigedd cyfreithiol yn ei wlad. Mae Joshua yn priodoli ei lwyddiant i'w ewythr a rhwydwaith cefnogol Chevening, a'i helpodd drwy'r broses ymgeisio. Nawr, mae’n symud y gymwynas yn ei blaen, gan arwain ysgolheigion y dyfodol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl.
Cyfres 2, Pennod 2 - Ymdopi ag awtistiaeth ac unigrwydd pan fyddwch chi yn y Brifysgol - Therese Elnar, Philipines.
Yn y bennod hon, mae Therese, a symudodd o Ynysoedd Philippines i'r DU i astudio, yn rhannu ei thaith gydag awtistiaeth, yn sgîl ei diagnosis yn 2022. Mae'n cyferbynnu'r stigma a'r diffyg cymorth a brofodd yn Ynysoedd Philippines â'r amgylchedd mwy cynhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf heriau parhaus o ran rhyngweithiadau cymdeithasol ac iechyd meddwl, mae'n siarad am y cymorth cynhwysfawr ac yn myfyrio ar werth y cymorth parhaus i reoli ei hawtistiaeth ac addasu i fywyd yn y brifysgol wrth gydnabod y frwydr barhaol ag unigrwydd ac addasu i'w hamgylchedd newydd.
Cyfres 2, Pennod 1 - "Cefais fy ngeni i greu newid" - Oluwaseun Ayodeji Osowobi, Nigeria
Yn y bennod gyntaf o gyfres 2, rydym yn croesawu'r ymgyrchydd a'r actifydd, Oluwaseun Ayodeji Osowobi. A hithau wedi graddio o Brifysgol Abertawe ag MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, mae Oluwaseun yn un o arweinwyr Sefydliad Obama yn Affrica ac enillodd wobr Study UK y British Council ar gyfer Gweithredu Cymdeithasol yn 2023. Mae hi'n eiriolwr angerddol dros hawliau a diogelwch menywod ac yn gweithio i leihau trais ar sail rhyw drwy ei menter Stand to End Rape. Ymunwch â ni i glywed sut mae'n goresgyn heriau ac yn cyflawni ei nodau, gan gefnogi menywod a merched ar eu taith i wellhad a chreu newid hirdymor.
Penodau blaenorol - Cyfres Un
Pennod 1 - Breuddwydion meddygol rhyngwladol – goresgyn adfyd er mwyn dod yn feddyg. Safia Shirzad, Afghanistan
Dilynwch daith neilltuol Safia Shirzad, lle canfu ei lle yn nannedd anfanteision yn y gymuned gofal iechyd a'r gymuned gemio ar-lein. Wedi'i hysgogi gan drychineb bersonol, darganfu Safia'r cwrs "Llwyr at Feddygaeth", gan ragori mewn modiwlau amrywiol, a chan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y pen draw. Y tu hwnt i academia, mae angerdd Safia dros eiriolaeth yn disgleirio drwy ei gwaith gwirfoddoli, gan helpu cymunedau dan anfantais a chefnogi achosion dyngarol.
Mae gallu digidol Safia yn mynd ymhellach gan feithrin cymuned gemio fywiog a chan fagu cysylltiadau a chyfeillgarwch ar draws y tirlun digidol. Drwy ei llwyfan, mae hi'n ysbrydoli eraill i ddilyn eu diddordebau.
Pennod 2 - Grymuso menywod ledled y byd - yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn credu ynoch chi eich hun ac yn gweithredu. Bethel Ohanugo, Nigeria.
Wedi'i hysgogi gan y nod o chwalu rhwystrau technoleg mewn gofal iechyd, derbyniodd Bethel Ohanugo o Nigeria Ysgoloriaeth Eira Francis Davies. A hithau wedi'i hysgogi gan ei chenhadaeth i rymuso menywod mewn technoleg, dechreuodd Bethel ei rhaglen MSc mewn Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei thaith yn datblygu'n erbyn heriau hiraeth ac ynysu, y gwnaeth hi eu goresgyn drwy achub ar y cyfle i fod yn rhan o ddiwylliant bywiog a digwyddiadau'r Brifysgol. Gwnaeth llwybr trawsnewidiol Bethel ei harwain o ymarfer clinigol i fyd gwybodeg, wedi'i sbarduno gan ei huchelgais i greu newid. Gwrandewch er mwyn cael cipolwg ar daith Bethel a'i hymrwymiad i rymuso menywod, creu argraff yn y diwydiant technoleg a'r tu hwnt.
Pennod 3 - Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim
Sut i oresgyn unrhyw adfyd yn eich bywyd drwy ddyfalbarhad a diben. Kuuku Anim Gwrandewch ar daith sy’n llawn ysbrydoliaeth sy’n trafod gwydnwch, adnabod eich hun a phwysigrwydd cael cymorth. Dewch i gwrdd â Kuuku Anim, myfyriwr o Ghana sydd wedi goresgyn adfyd i ddilyn ei angerdd am dechnoleg gyfreithiol. Mae’r bennod hon yn archwilio penderfyniad diwyro Kuuku i oresgyn adfyd, defnyddio cryfder ei deulu a chwalu rhwystrau at fynediad. Ymunwch â ni i archwilio amrywiaeth o ddiddordebau sy’n cynnwys coginio, nofio a chwarae pêl fas a phêl-droed, ac yntau’n ddall. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan benderfyniad di-ildio Kuuku, sy’n parhau i lywio profiad bywiog myfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.
Pennod 4 - Chwalu Rhwystrau Diwylliannol wrth ddilyn eich diddordebau. Lan Wei
Rydyn ni'n dysgu am daith ysbrydoledig Lan, myfyriwr israddedig Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd sydd yn ei blwyddyn olaf. Mae stori Lan yn mynd â ni o strydoedd prysur Beijing i ddinas fywiog Abertawe. Mae stori Lan yn dyst i bŵer achub ar gyfleoedd, chwalu rhwystrau diwylliannol a dilyn yr hyn sy'n eich ysgogi. Dechreuodd ei thaith addysgol yn Beijing. Fodd bynnag, cyrhaeddodd drobwynt yn ei bywyd pan ddaeth i Abertawe, gan ddarganfod byd y tu hwnt i lyfrau testun. Gan gydweithio â cherddorion lleol, perfformio'n fyw yng Ngŵyl Ymylol Abertawe a mentro i fyd y cyfryngau a gwneud ffilmiau, mae Lan wedi archwilio ei diddordebau'n ddi-ofn.
Pennod 5 - Sut gall gweithio'n rhan-amser yn y brifysgol agor drysau i gyfleoedd cyffrous. Rewa Gupta
Yn y bennod hon, rydym yn cwrdd â Rewa Gupta, a symudodd o India i Dubai ac yna i'r DU lle cwblhaodd ei BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf yr heriau yn sgîl y pandemig, gwnaeth ymrwymiad Rewa i waith gwirfoddol ei rhoi ar ben ffordd o fod yn wirfoddolwr i rôl Ymddiriedolwr sefydliad gwirfoddoli, gan feithrin mentrau arbenigol ac ymgyrchoedd codi arian. Mae ei phrofiad hi yn tanlinellu pŵer trawsnewidiol gwaith rhan-amser a gwirfoddol. Mae llwybr Rewa yn adlewyrchu ei datblygiad o fod yn un a oedd yn hiraethu am gartref i hunanhyder. Mae ei thaith yn amlygu pwysigrwydd camu y tu hwnt i'r hyn sy'n gyffyrddus, magu sgiliau, gwobrwyon gwaith rhan-amser a chroesawu profiadau newydd.
Pennod 6 - Gwerth dweud 'IE' yn ystod eich profiad yn y brifysgol. Christian Rodriguez-Howell, Sbaen.
Rydyn ni’n dilyn anturiaethau Christian, o astudio Peirianneg Sifil i archwilio’r byd, a darganfod y llawenydd o ddweud ‘ie’ i gyfleoedd bywyd. Ac yntau’n frodor o Sbaen, roedd llwybr Christian i addysg uwch ymhell o fod yn gonfensiynol wrth iddo ymdopi â chyfyngiadau system addysg Sbaen nad oedd yn cynnig llawer o ddewis o ran pynciau safon uwch. Serch hynny, dyfalbarhaodd wrth ddilyn ei freuddwydion. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio ei daith anhygoel o haul Sbaen i dirweddau bywiog y DU, lle dechreuodd ar ei antur brifysgol ac yntau’n laslanc 17 oed, gan addasu i ddiwylliant newydd a gwneud ffrindiau gydol oes, a hynny yn ystod pandemig byd-eang.
Pennod 7 - Achub ar bob cyfle a chael y budd o barhau trwy'r amser ar y llwybr tuag at eich gyrfa. Madhav Pandya, India.
Mae'r bennod hon yn cynnwys Madhav Pandya o India, a drodd y problemau sy'n wynebu ei addysg yn ystod y pandemig Covid yn gyfle i astudio dramor yn y DU. Wrth astudio BSc Cyfrifiadureg mae Madhav wedi gallu bachu ar bob cyfle a roddwyd iddo, yn ystod ei amser yn Abertawe fel Llysgennad Myfyrwyr, cynorthwyydd addysgu, Crëwr Cynnwys Digidol, Llywydd Cymdeithas India, Cyfarwyddwr Creadigol y Gymdeithas Hindŵaidd, gan gymryd a blwyddyn i astudio mewn diwydiant i gyd tra'n rhedeg sianel YouTube hynod lwyddiannus ar yr ochr! Ymunwch â ni wrth i ni ddatod stori Madhav, sy’n dyst i benderfyniad diwyro, ymrwymiad di-ildio, a’r grefft o fachu ar bob cyfle a ddaw yn ei sgil. Mae'r bennod hon yn ddathliad o fyfyriwr sydd nid yn unig yn llywio'r heriau ond sydd hefyd yn cerfio llwybr sydd wedi'i nodi gan fuddugoliaethau, gan wneud y gorau o bob eiliad.
PENNOD DIWEDDARAF
Cynllunio ymlaen llaw, addasu i newid a dod o hyd i'ch cymuned eich hun drwy gymdeithasau'r Brifysgol. Lexie Stewart, Canada
Cychwyn ar daith ysbrydoledig gyda Lexie Stewart o Ganada, lle mae'n rhannu ei phrofiad fel myfyriwr israddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Arweiniodd ymchwil academaidd Lexie, a hwyluswyd trwy bartneriaeth â Phrifysgol Trent yng Nghanada, filoedd o filltiroedd i ffwrdd o'i chartref. Er gwaethaf y pellter, darganfu Lexie ymdeimlad dwys o berthyn a chymuned yn Abertawe. Darganfu Lexie yn gynnar ei bod yn blentyn i semenu rhoddwr ac edrychodd i mewn i'r teulu estynedig hwn o hanner brodyr a chwiorydd. Fe ysgogodd y teulu estynedig yma’r sgil amhrisiadwy o greu cymuned ble bynnag y mae’n mynd – sgil y mae’n annwyl yn cyfeirio ato fel dod o hyd i’w “bentref bach,” fel y mae ei Mam yn ei alw. Mae naratif Lexie yn datblygu wrth iddi ymgolli’n llwyr yn nhapestri bywiog bywyd prifysgol, gan gymryd rhan weithredol mewn cymdeithasau amrywiol fel y Gymdeithas Gorawl, Cymdeithas De, a Chymdeithas Canada. Trwy'r ymrwymiadau hyn, mae hi nid yn unig wedi adeiladu cysylltiadau ond hefyd wedi plannu ei gwreiddiau'n gadarn yn y DU. Nid cynllunydd yn unig yw Lexie; mae hi'n weledigaeth gyda chynllun 25 mlynedd sy'n arwain ei chamau. Ac eto, mae hi wedi meistroli’r grefft o fod yn agored ac i addasu, gan ddeall pwysigrwydd cynlluniau esblygol yn seiliedig ar droeon annisgwyl bywyd. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio taith Lexie - stori gyfareddol am deulu, cymuned, hunan-ddarganfyddiad, a'r gwytnwch i addasu i droeon a throeon bywyd. Mae hanes Lexie Stewart yn dyst i rym meithrin cysylltiadau, adeiladu cymunedau, a chofleidio natur gyfnewidiol ein llwybrau.