Y Goleudy

Y Goleudy (wedi’i leoli yn adeilad Penmaen) yw'r Ganolfan Aml-Ffydd wych ar gampws Singleton. 

Mae gennym ardal ymlacio â dwy sofa gyfforddus a bwrdd coffi lle gall pawb gymryd hoe fach o’r awyrgylch prysur. Hefyd mae gennym gegin, felly mae croeso i chi ddod i ymlacio pan fydd gennych amser rhydd gan mai dyma’r lle perffaith i ymlacio gyda phaned o de neu fwg o goffi poeth ffres.  

Os nad ydych erioed wedi ymweld â’r Goleudy, nawr yw’r amser perffaith i ddod a manteisio ar y cyfleusterau hamddenol sydd gennym i’w cynnig! 

Ystafelloedd