Cymorth gya Chasineb
Mewn argyfwng
Cysylltwch â thîm diogelwch campws y Brifysgol drwy ffonio 01792 604271
Defnyddiwch ap SafeZone, sef ffordd haws a chyflymach o roi gwybod i'r tîm diogelwch os bydd angen help arnoch ar y campws
Os ydych chi mewn perygl difrifol, ffoniwch Heddlu De Cymru ar 999
Ddim yn argyfwng
Gallwch chi roi gwybod am y drosedd neu'r digwyddiad casineb i'n canolfan lle gall trydydd partïon adrodd am droseddau casineb, sef Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr, drwy lenwi ffurflen ar-lein.
Mae gan Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr dîm o gynghorwyr hyfforddedig a all eich cynghori a’ch cynrychioli’n ddiduedd ac yn gyfrinachol am ddim, yn annibynnol ar y Brifysgol.
Gallan nhw eich helpu gyda nifer o broblemau cyfreithiol a materion personol, ynghylch arian, lles, gwaith academaidd, tai, aflonyddu a thrais rhywiol.
Mae'r Ganolfan yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm yn ei swyddfa ar Gampws Singleton ar lawr gwaelod Tŷ Fulton. Mae ei swyddfeydd ar Gampws y Bae ar gau yn ystod yr haf ond gellir trefnu apwyntiadau yno yn ôl yr angen. A wnewch chi anfon e-bost i drefnu apwyntiad.
E-bost: advice@swansea-union.co.uk
Ffôn: 01792 295 821
Sesiynau galw heibio dros Zoom: 9.30am-12pm bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener drwy rif adnabod cyfarfod 712 079 3003, lle byddwch chi'n mynd i ystafell aros
Cymorth Mewnol
Y Gwasanaeth Gwarando
Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol ac anfeirniadol i fyfyrwyr sy'n chwilio am glust i wrando arnyn nhw mewn modd ystyriol.
Nid oes rhaid i chi drafod problem benodol, ond weithiau gall siarad am rywbeth fod yn ddigon i helpu i liniaru rhywfaint o straen bywyd myfyriwr.
Trefnwch sgwrs gyfeillgar drwy ein cyfrif e-bost a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi gwybod i ni os hoffech chi siarad ag aelod penodol o'n tîm.
Cymorth Emosiynol
Mae gwasanaethau cymorth emosiynol ar gael i chi ym Mhrifysgol Abertawe.
Hoffen ni eich cefnogi i gael y budd mwyaf o'ch astudiaethau a'ch bywyd personol, yn ystod eich amser yma ac ar ôl i chi raddio.
Rydyn ni'n cynnig adnoddau, strategaethau hunangymorth, gwasanaethau ar-lein, sesiynau cymorth a chwnsela i'ch helpu i reoli eich lles.
Cymorth Allanol
True Vision - Adrodd am Drosedd Casineb
Mae True Vision yn cynnig arweiniad ar roi gwybod am droseddau a digwyddiadau casineb. Os nad ydych chi’n dymuno siarad ag unrhyw un wyneb yn wyneb am y digwyddiad neu os hoffech chi aros yn ddienw, mae ffurflen ar-lein i roi gwybod am droseddau casineb; gallwch chi roi gwybod am ddigwyddiadau casineb nad ydyn nhw'n droseddau i'r heddlu er mwyn ceisio atal y sefyllfa rhag gwaethygu.
Adrodd drwy Gymorth i Ddioddefwyr
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn wasanaeth cefnogol sy’n galluogi trydydd partïon i gyflwyno adroddiadau, a hynny’n annibynnol ar yr heddlu.
Zoteria - App Reportio Achosion Casineb LHDT+
Mae Zoteria yn ap sydd wedi'i ddatblygu gan Sefydliad Vodafone mewn partneriaeth â Stonewall a Gallop.
Gelli di roi gwybod yn ddienw am achosion o gasineb LHDTC+ tuag atat ti neu bobl eraill.
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am fathau amrywiol o aflonyddu a throseddau casineb.
Stop Hate UK
Mae Stop Hate UK yn darparu gwasanaeth adrodd a chymorth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr, tystion a thrydydd partïon.
Galop - elusen gwrth-drais LGBT+
Mae Galop yn elusen sy'n gwrthwynebu trais yn erbyn pobl LGBT+, gan gefnogi pobl sydd wedi cael profiad o drosedd gasineb, trais rhywiol neu gam-drin domestig. Mae'r elusen hefyd yn cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol a chwiar sydd wedi cael problemau gyda'r heddlu neu sydd am ofyn cwestiynau am y system cyfiawnder troseddol.
Tell MAMA - yn cefnogi dioddefwyr casineb yn erbyn Mwslimiaiad
Mae Tell MAMA yn cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslimaidd. Mae'n wasanaeth cyhoeddus sydd hefyd yn mesur ac yn monitro achosion gwrth-Fwslimaidd.
Community Security Trust – yn helpu dioddefwyr casineb gwrth-Semitaidd
Mae Community Security Trust (CS) yn helpu'r rhai sydd wedi dioddef gwrthsemitiaeth, aflonyddu neu ragfarn.
Travelling Ahead – cymorth i ddioddefwyr casineb yn erbyn Sipsiwn, Roma neu Deithwyr.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd ac rydych chi’n meddwl ei bod yn ymwneud â'r ffaith eich bod chi’n Sipsi, yn Sipsi Roma neu'n Deithiwr, gallwch chi gael cyngor gan Travelling Ahead. Gall y gwasanaeth hwnnw helpu os byddwch chi’n penderfynu eich bod chi am gysylltu â'r heddlu.
Ffôn: 0808 802 0025
E-bost: travellingahead@tgpcymru.org.uk
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Myfyrwyr Mwy Diogel – cysylltwch â’ch PCSO am ragor o gymorth.
Nod Myfyrwyr Diogel yw rhoi cyngor ar atal troseddau, cyngor ar ddiogelwch a chyngor cyffredinol i bob myfyriwr prifysgol ledled de Cymru.
Umbrella Cymru
Ewch i wefan yr ymgyrch a dilynwch ‘Report a Crime’ neu ‘Request Support’.
info@umbrellacymru.co.uk
0300 302 3670