Gwasanaethau Cymorth sydd ar gael y tu allan i Brifysgol Abertawe

Mae Buttle UK yn cynnig grantiau a gweithdai i bobl ifanc sydd efallai wedi wynebu amhariadau i'w haddysg. https://buttleuk.org/
Become
Mae Become yn sefydliad sy'n cynnig ystod enfawr o gymorth ac adnoddau ar gyfer pobl ifanc sydd wedi gadael gofal, yn cynnwys gweithdai cymorth galwedigaethol a mentora 1-1, ymysg ystod enfawr o opsiynau cymorth eraill.
NYAS
Mae NYAS yn sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi pobl ifanc a phobl sy'n gadael gofal trwy ystod o adnoddau ac opsiynau cymorth, fel eiriolaeth, cyngor ar eich hawliau a'r hyn y gallwch ei hawlio, a chronfeydd penodol.
Platfform
Mae Platfform yn sefydliad Cymreig sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sy'n profi heriau iechyd meddwl trwy eu prosiectau lles a chymunedol amrywiol.
Cymorth mewn Galar Cruse
Mae Cruse yn gweithio'n galed i sicrhau bod unrhyw un sy'n profi colled neu alar â mynediad at y cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt. Maen nhw'n gweithio un-i-un neu'n cynnig grwpiau, ymysg gwasanaethau anhygoel eraill. Mae ganddynt swyddfa leol yn Abertawe, darganfyddwch fwy am eu gwaith yma:
Rhentu Doeth Cymru
Wrth chwilio am eich cartref, rydych chi eisiau sicrhau bod popeth fel y dylai fod. Yng Nghymru, mae'n rhaid i landlordiaid fod wedi’u cofrestru’n gywir er mwyn cael rhentu eu heiddo yn gyfreithlon. Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynnig cofrestr agored o'r landlordiaid hyn, lle gallwch chwilio am fanylion yr eiddo sydd o ddiddordeb i chi eu rhentu a sicrhau bod manylion yr eiddo a'i landlord fel y disgwylir.
Shelter Cymru
Mae Shelter yn sefydliad anhygoel sy'n cynnig cyngor annibynnol, am ddim, ar bob agwedd ar rentu a dod o hyd i lety. Gallant eich cefnogi i ddeall eich hawliau tenantiaeth a chynnig canllaw penodol i symud i mewn i’ch cartref cyntaf i bobl o dan 25 oed.
Cyngor Undeb y Myfyrwyr
Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn cynnal Canolfan Cyngor, sy'n darparu cyngor ar amryfal bynciau a phryderon. Mae eu canllawiau dod o hyd i dŷ a rhentu yn ddefnyddiol iawn wrth ystyried symud oddi ar y campws neu rentu, hyd yn oed os nad hwn yw’r tro cyntaf i chi wneud hynny.
Meddyg Teulu dros dro
Wrth fyw yn y brifysgol, efallai bydd angen i chi weld meddyg gwahanol i'ch meddyg teulu arferol. Ym mhob meddygfa deulu, gallwch gofrestru fel claf dros dro am hyd at 3 mis, sy'n golygu, hyd yn oed os ydych yn disgwyl triniaeth gan eich meddyg teulu arferol, nad oes angen i chi ailgofrestru'n barhaol yn rhywle arall er mwyn gwneud apwyntiad.
How can I see a GP if I'm away from home? - NHS (www.nhs.uk)