
Mae Abertawe'n croesawu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches!
DINAS NODDFA
Ym mis Mai 2010, daeth Abertawe'n ail Ddinas Noddfa swyddogol y DU, gan ymuno â'r mudiad cenedlaethol sy'n ymrwymedig i feithrin diwylliant o letygarwch i'r rhai sy'n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth.
Yn ogystal ag annog busnesau a sefydliadau lleol i groesawu pobl sy'n ceisio noddfa i'w gweithgareddau, mae Dinas Noddfa hefyd yn cynnal y cynllun mentora, Croeso Gwell i Abertawe. Mae gwirfoddolwyr yn helpu pobl i integreiddio yn y gymuned, gan fagu hyder a lleihau unigrwydd.

Cynnig cefnogaeth Prifysgol Abertawe i Weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe
Cynnig cefnogaeth Prifysgol Abertawe i Weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe a'r Siarter Dinas Noddfa.
Mae Prifysgol Abertawe'n datgan yn gyhoeddus ei chefnogaeth i weledigaeth Dinas Noddfa Abertawe a'r Siarter Dinas Noddfa.Rydym yn addo gweithredu i gyfrannu at droi'r weledigaeth yn realiti a chreu lle croesawgar a diogel i'r rhai hynny sy'n ffoi trais ac erledigaeth.
Ers blynyddoedd, rydym wedi gweithio i wella profiad y rhai hynny sy'n ceisio lloches a noddfa yn ein prifysgol a'r gymuned ehangach drwy waith ein myfyrwyr a staff gwirfoddol.Mae ein cymuned ymchwil yn cyfrannu at ymchwilio a gwella profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad y rhai hynny sy'n ceisio noddfa a byddwn yn cynnwys eu lleisiau yn ein gwaith.Byddwn yn parhau i weithio i greu cysylltiadau cryfach â sefydliadau ar draws ein cymuned drwy waith ein myfyrwyr, ein staff a'r brifysgol fel sefydliad.
DINAS NODDFA
Dydd Iau 17 o Fis Hydref 1pm – 3pm, Campws y Bae, Y Twyni
Dere i Arddangosiad y Gwasanaethau Cymorth i gwrdd â staff o'r gwasanaethau hyn, cael sgyrsiau wyneb yn wyneb am dy brofiadau di, a meithrin dealltwriaeth well o'r holl ffyrdd y gall y Brifysgol dy helpu i ffynnu yn ystod dy amser yma, beth bynnag rwyt ti'n ei astudio a beth bynnag yw dy gam astudio. Gobeithiwn fod ein holl fyfyrwyr yn teimlo'n gartrefol gyda ni yma yn Abertawe ond os oes angen cymorth personol neu academaidd arnat ti yn ystod dy astudiaethau, mae nifer o wasanaethau myfyrwyr a staff sydd ar gael i dy helpu di.
Bydd diodydd poeth ar gael, a nwyddau am ddim i gasglu o’ch gwasanaethau cymorth
Am mwy o wybodaeth: Arddangosiad y Gwasanaethau Cymorth

Hyfforddiant Codi Ymwybyddiaeth
Bydd y sesiwn hon yn helpu aelodau staff/y cyhoedd i ddeall system lloches bresennol y DU, heriau amrywiol a wynebir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn addysg uwch, a sut gallan nhw gyfrannu at ddiwylliant o groeso a pherthyn yn ein cymuned ym Mhrifysgol Abertawe.
I gadw eich lle ar y cwrs hwn, e-bostiwch Sanctuary@abertawe.ac.uk

Diwrnod Rhagflas – Cyfle i Brofi Bywyd fel Myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe!
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
Ymunwch â ni am Ddiwrnod Rhagflas ym Mhrifysgol Abertawe i ddysgu sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn ein cymuned groesawgar a chefnogol.
Cewch gyfle i archwilio ein campws hyfryd, mynd i ddarlithoedd a gweithdai byr a dysgu am y cymorth rydym yn ei gynnig i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Darperir cinio a lluniaeth ac mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim! Mae'r digwyddiad hwn ar agor i'r holl geiswyr lloches yng nghymuned leol Abertawe.
Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.

Wythnos Ffoaduriaid 2025
16 i 22 Mehefin 2025
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn edrych ymlaen at ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 2025 ar y thema, Cymuned fel Archbwer. Mae ein cynllunio ar ei anterth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr, staff a phartneriaid lleol i gynnig rhaglen sy'n arddangos nerth a photensial anhygoel cymunedau unedig.