Ni allwn ystyried ceisiadau am ddyfarniad os nad ydynt yn bodloni ein meini prawf cymhwyso.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais, ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ategol, caiff ei asesu yn erbyn y meini prawf cymhwyso.
Byddwch yn cael cadarnhad bod eich cais wedi'i dderbyn o fewn tri diwrnod gwaith i'w anfon.
Cewch eich hysbysu am ganlyniad eich cais drwy e-bost.
Mae gennym swm penodedig o gyllid i'w ddyrannu, felly gallwn ariannu nifer cyfyngedig yn unig o geisiadau.
Gall y panel ofyn am ymweld â'r sefydliad sy'n gwneud y cais fel rhan o'i broses benderfynu. Caiff hyn ei drefnu ar amser sy'n gyfleus i bawb.
Sylwer, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi derbyn eich grant.
Derbynnir ceisiadau ar yr amod y bydd sefydliadau llwyddiannus yn cytuno i gyhoeddusrwydd posib mewn unrhyw ddeunyddiau a gyhoeddir gan Brifysgol Abertawe.
Gellir gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr o'r manteision sy'n deillio o'r cyllid a rhai lluniau.
Mae'n un o ofynion y grant bod Prifysgol Abertawe a BywydCampws yn cael eu cydnabod yn gyhoeddus mewn unrhyw gyhoeddusrwydd am y grant a/neu mewn unrhyw ddeunyddiau perthnasol a gynhyrchir gan y sefydliad mewn perthynas â'r grant. Caiff logos eu darparu i'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gais.