Graddiodd Dewi Meirion Lewis gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe ym 1966. Cyn iddo raddio, roedd yn un o grŵp o fyfyrwyr a ddewiswyd i ffurfio tîm achub gwirfoddol o Brifysgol Cymru a aeth i Aberfan lle bu trychineb yn ymwneud â’r diwydiant glo. Ef oedd y myfyriwr PhD cyntaf o Brifysgol Abertawe i ddechrau ymchwil ffiseg i bositronau, sef gwrthfater electronau.
Ar ôl gadael y Brifysgol, daeth yn Gymrawd Gwyddoniaeth yn CERN, sef y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yn Genefa yn y Swistir. Yn hwyrach, fe'i penodwyd yn beiriannydd â gofal am beiriant gwrthdaro hadronau cyntaf CERN, sef y cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus yn y byd ar yr adeg honno. Daeth â'i arbenigedd ‘malu atomau’ yn ôl i ddiwydiant yn y DU gydag Amersham International PLC er mwyn datblygu a gweithgynhyrchu isotopau radio at ddibenion meddygol. Aeth ymlaen i fod yn arbenigwr rhyngwladol adnabyddus ar gynhyrchion fferyllol ymbelydrol, gan ddefnyddio cyflymyddion cyclotron ac adweithyddion ymchwil niwclear.
Roedd yr Athro Lewis yn un o wyddonwyr cyntaf y Gorllewin i gael mynd i ddinas gyfrinachol Sofietaidd Chelyabinsk-65, gan greu cwmni isotopau radio ar y cyd â Gweinyddiaeth Ynni Atomig Rwsia yn y pen draw.
Ef oedd trefnydd y Pwyllgor Isotopau ac Adweithyddion ym Mrwsel am sawl blwyddyn a chafodd ei enwebu’n Is-lywydd AIPES, sef Cymdeithas Delweddu Meddygol Diwydiannol Ewrop.
Yn 2010, dychwelodd i Genefa fel Ymgynghorydd Diwydiant CERN ac mae bellach yn gweithio gyda phrifysgolion ac asiantaethau llywodraeth yn y DU, yn ogystal â chwmnïau rhyngwladol. Mae'n un o gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Sefydliad Ffiseg ac mae ganddo gadair er anrhydedd yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.
Cyflwynodd Prifysgol Abertawe radd er anrhydedd i'r Athro Lewis yn haf 2019.
Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd, meddai’r Athro Lewis: “Mae'n fraint fawr i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan fy ‘alma mater’. Dyw e ddim yn teimlo'n hir iawn yn ôl ers i mi gerdded i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe am y tro cyntaf â’m sach deithio fel myfyriwr. Gofalodd yr Adran Ffiseg amdana i'n wych yn ystod fy amser yn y Brifysgol, gan gynnig sail i mi ar gyfer gyrfa gydol oes ym maes ffiseg. Rwyf bob amser wedi cadw mewn cysylltiad â'r adran ac mae arnaf ddyled benodol i'm cyn-fentor, y diweddar Athro Colyn Grey-Morgan. Diolch yn fawr unwaith eto.”