Mae Gemma Almond, a enillodd radd mewn hanes o Brifysgol Abertawe, yn gyn-athletwr ac yn nofiwr elît.Enillodd hi wobr efydd yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2011, a chyrhaeddodd hi ddwy rownd derfynol yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012.
Bellach mae Gemma yn diwtor mewn Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe, a’i phrif faes ymchwil yno yw hanes anabledd.
Mae brwdfrydedd ar gyfer y gemau Paralympaidd yn cynyddu’n bendant. Beth arall mae angen ei wneud er mwyn cael cynulleidfa fwy?
Ces i’r anrhydedd o fod yn rhan o garfan Llundain 2012, lle cafodd nifer o newidiadau eu cyflawni yn fy marn i.
Mae’r gemau Paralympaidd yn derbyn sylw bendigedig bellach, ac mae’r galw am docynnau Paralympaidd yn Tokyo wedi bod yn gyfartal â’r gemau Olympaidd am y tro cyntaf erioed.
Er hynny, er mwyn cael rhagor o bobl yn y gynulleidfa, rydw i’n meddwl y gellid gwneud mwy er mwyn hybu’r mudiad rhwng y cylchredau pedair blynedd hyn, drwy ddarlledu cystadlaethau mawr eraill fel rhai'r Byd, y rhai Ewropeaidd ayyb.Hefyd, mae’n allweddol bod y gwaith cyfathrebu yn cael ei gyflawni yn y ffordd gywir a bod athletwyr yn cael eu portreadu mewn ffordd sy’n debyg i’w cymheiriaid Olympaidd.
Sut beth oedd eich cynllun hyfforddi o’r blaen?
Ochr yn ochr â’m gwaith israddedig ac ôl-raddedig, gwnes i hyfforddi am 24 awr yr wythnos.O amgylch yr oriau hyn, byddwn i hefyd yn gwneud gwaith ffisiotherapi, tylino, ac ymarferion cyffredinol cyn mynd i’r pwll ac ar ei ôl er mwyn helpu i atal anafiadau.
Wrth edrych yn ôl, roedd hi fel ffair, a dydw i ddim yn siŵr sut llwyddais i’w wneud ochr yn ochr â’m graddau!
Pwy oedd eich arwyr ym myd chwaraeon?
Fel nofiwr, roedd gen i lawer o barch tuag at Michael Phelps.Cododd e broffil nofio a gwthiodd ef ffiniau’r gamp.Hefyd, bu Tanni Grey-Thompson yn ysbrydoliaeth fawr fel athletwr ac fel person sy’n hybu chwaraeon Paralympaidd.
A oedd eich anabledd yn gyfle i chi sbarduno newid, yn eich barn chi?
Oedd, yn bersonol ac i bobl eraill.Dechreuais i ym myd chwaraeon er mwyn profi fy hun i’r rheiny a oedd yn amau fy ngalluoedd corfforol, ac yn enwedig y rheiny a roddodd derfyn ar yr hyn roedden nhw’n credu y gallwn ei gyflawni.
Gwnaeth chwaraeon fy helpu i dderbyn fy hunan, a gwnaeth newid fy safbwynt am fywyd a byw gydag anabledd;mae wedi rhoi cymaint i mi, wedi agor llawer o ddrysau ac wedi fy ngalluogi i wthio’r ffiniau.
Ers ymddeol, rydw i wedi gweithio gydag elusen ar gyfer DDH (sef dysplasia datblygiadol yn y glun) ac rydw i eisiau ysbrydoli pobl eraill hefyd i gredu yn eu hunain a’r hyn maen nhw’n gallu ei wneud, er gwaethaf y poen a’r symudedd mwy cyfyngedig.
Pam symud i’r byd academaidd?
Cododd y posibilrwydd o wneud PhD wrth imi ddod i delerau â’r syniad o ymddeol o chwaraeon elît.Rydw i bob amser wedi bod yn academaidd ac wedi mwynhau ymchwil, ond y syniad o her hollol newydd i helpu i lenwi’r bwlch wrth adael byd chwaraeon oedd y prif reswm wrth wraidd y symud.
Mae’r byd academaidd a’r byd chwaraeon elît yn fwy cysylltiedig nag y byddai pobl yn ei feddwl;mae PhD yn gofyn am lawer o ymroddiad, y gallu i osod targedau yn y tymor byr a’r tymor hir, bodlonrwydd i wynebu rhwystrau a chariad at yr hyn rydych chi’n ei wneud.