Yn ôl yr arolwg iechyd diweddaraf, dywedodd oddeutu 1 o bob 7 oedolyn yng Nghymru (neu 15%) fod ganddynt anawsterau wrth glywed (Llywodraeth Cymru, 2013, tud. 11). Cynyddodd y broblem iechyd hon gydag oedran, gan effeithio ar oddeutu traean o ddinasyddion sy’n 65 oed ac yn hŷn a chan effeithio’n fwy ar ddynion na menywod. Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2010 mai Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw iaith gyntaf, neu’r iaith a ffefrir, gan oddeutu 3,000 o bobl yng Nghymru (Siôn, 2010). Erbyn 2031, rhagwelir y bydd dros 725,000 o bobl yng Nghymru sy’n colli eu clyw (Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru, nid oes dyddiad).
Dengys ymchwil academaidd y gallai’r cyfryngau gweledol (yn enwedig teledu) liniaru effeithiau corfforol, meddyliol a chymdeithasol eithrio cymdeithasol a rhwystredigaeth ar gyfer y gymuned fyddar/drwm ei chlyw (Austin, 1980; Austin & Myers, 1984). Rydym yn credu bod teledu, yn y bôn, yn ffurf ar dechnoleg gynorthwyol a gallai alluogi’r gymuned fyddar/drwm ei chlyw i gael mynediad at fwy o wybodaeth a gwasanaethau.
Cymru yw’r wlad teledu digidol gyntaf yn y DU ers cwblhau’r broses o drosglwyddo i ddigidol ym mis Mawrth 2010 (DigitalUK, 2012) a chyflwynodd y chwyldro technolegol hwn ffyrdd newydd o ledaenu data a drawsnewidiodd y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau teledu ynghyd â’r ffyrdd y mae pobl yn cael gwybodaeth o’r teledu. Mae gan gynulleidfaoedd ffordd newydd o gael mynediad drwy blatfformau amrywiol (megis Freeview, cebl, lloeren a’r rhyngrwyd) ynghyd â rhagor o raglenni i’w dewis. Fodd bynnag, mae’r mesurau rheoleiddio presennol yn rhoi mwy o bwyslais ar y maint (e.e. canran y rhaglenni teledu sydd ag is-deitlau) yn hytrach na’r ansawdd. Gallai pwysleisio’n ormodol ar faint yr is-deitlau arwain at hepgor cyfyngiadau eraill sy’n gysylltiedig ag ansawdd (megis ansawdd sŵn gwael rhaglenni teledu) y mae cynulleidfa fyddar/drwm ei chlyw’n eu hwynebu.
Ar gyfer yr ymchwil hon, ein nod yw:
- nodi patrymau mabwysiadu a defnyddio teledu digidol o fewn y gynulleidfa fyddar/drwm ei chlyw yng Nghymru;
- gwerthuso effeithiau Teledu Digidol sy’n galluogi’r gymuned fyddar/drwm ei chlyw yng Nghymru a’r effeithiau nad ydynt yn eu galluogi;
- darparu adroddiad cynhwysfawr o awgrymiadau gan wylwyr byddar a rhai sy’n drwm eu clyw ar wella’r gwasanaeth teledu digidol.
Dechreuodd y prosiect fel astudiaeth beilot, wedi’i hariannu gan Raglen Agored Pontio’r Bylchau.
Mae dyfarniad diweddar gan Action on Hearing Loss Cymru, BBC Cymru, Pontio’r Bylchau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe ac S4C yn galluogi’r ymchwil i symud i gam empirig.
Teledu digidol a Chynulleidfaoedd Byddar/Trwm eu Clyw yng Nghymru (PDF)