Mae ein hymchwil ni ar dreftadaeth yr amgylchedd adeiledig yn denu cyllid o bwys gan yr ESRC, yr AHRC, yr Academi Brydeinig a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Mae’n cynnwys cydweithio â Llywodraeth Leol, Cadw, llywodraethau Cymru a’r DU, a bellach mae gennym hanes cryf a phrofedig ym meysydd gwarchod ac adfywio’n seiliedig ar dreftadaeth.
I oresgyn heriau gwaith ymchwil ym maes treftadaeth, mae ein haneswyr, ein clasuryddion a’n harcheolegwyr yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes ymchwil gymdeithasol, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a pheirianneg. Ein nod yw rhoi cymunedau wrth wraidd deall gwerth diwylliannol y dirwedd adeiledig a mabwysiadu technolegau newydd er mwyn cyflwyno treftadaeth.
Mae ymchwil yn canolbwyntio ar warchod treftadaeth ddiwydiannol sylweddol a rhyngwladol de Cymru. Mae’r prosiect trobwynt, Copropoliss, wedi atgoffa’r byd y bu Abertawe ar un adeg yn ganolfan diwydiant byd-eang mawr. Mae gennym hefyd ffocws ar dreftadaeth glasurol, canoloesol a modern cynnar, gan gynnwys prosiectau ar warchod safleoedd a henebion archeolegol.
Mae gan y Coleg sawl grŵp ymchwil sy’n cynnig ymchwil, hyfforddiant a goruchwyliaeth o ran materion treftadaeth y dirwedd ac adeiledig, yn ogystal â threftadaeth lenyddol a diwylliannol.