Mae Grŵp Ymchwil i Gyfrifiadura sy'n Canolbwyntio ar Bobl Prifysgol Abertawe'n gweithredu o labordy a chyfleusterau astudio a chynhyrchu a adeiladwyd i'r pwrpas yn y Ffowndri Gyfrifiadol. Mae'r grŵp, a sefydlwyd yn 2006 fel Labordy Technolegau Rhyngweithio'r Dyfodol (Labordy FIT), wedi tyfu nes iddo gael ei gydnabod yn fyd-eang fel canolfan o fri rhyngwladol ar gyfer ymchwil i ryngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI).
Nod ein hymchwil yw rhoi pobl wrth wraidd arloesi technolegol - creu platfformau, dyfeisiau a gwasanaethau sy'n effeithlon, yn hwylus ac yn bleser eu defnyddio, yn ogystal â bod yn ymarferol. Mae llawer o'n gwaith ymchwil yn golygu gweithio'n uniongyrchol gyda defnyddwyr terfynol i astudio, cynllunio, cyd-ddylunio a chreu rhyngweithiadau a dyfeisiau newydd sy'n briodol i'w cyd-destunau a phrofiadau'r defnyddwyr. Dyma faes amlddisgyblaethol sy'n ymestyn y tu hwnt i gyfrifiadureg i feysydd eraill, gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg, iechyd, ethnograffeg, dylunio, ffactorau dynol, peirianneg ac ieithyddiaeth. Felly mae ein hymchwil yn cynnwys elfen sylweddol o gydweithredu â disgyblaethau eraill yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, a phartneriaethau hirsefydlog â phartneriaid mewn nifer o sectorau, megis y BBC, Google, IBM, Microsoft a’r GIG.
Mae Cynghorau Ymchwil y DU a rhanddeiliaid mewn diwydiant wedi cefnogi’r rhan fwyaf o’n gwaith, gan gynnwys £90 miliwn mewn cyllid gan yr EPSRC. Mae’r prosiectau hyn wedi galluogi’r grŵp i gael effeithiau pwysig a gydnabyddir yn fyd-eang ar y gymuned ymchwil, gan amrywio o fframweithiau damcaniaethol i ddealltwriaeth ddofn o ryngweithiadau newydd.