Un o'r pethau mwyaf dyrys am y feirws covid yw'r ffaith nad yw rhai pobl yn dangos symptomau o gwbl, tra bod eraill yn mynd yn beryglus o sâl. Erbyn haf 2020, roedd y newyddion yn llawn penawdau am stormydd cytocin neu - yn syml - ymatebion imiwnedd gorfywiog.
Mewn achosion o'r ymateb gorfywiog hwn, mae'r cytocinau (sef y proteinau y mae'r corff yn eu rhyddhau er mwyn mynd i'r afael â feirysau) yn niweidio'r celloedd yn y corff, gan greu bygythiad sy'n fwy na'r feirws i lawer o bobl. Mae Dr Marcella Bassetto yn Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n cynnal ymchwil i atal yr ymateb imiwnyddol rhag gorfywio fel hyn. Mae gan ei gwaith y potensial i achub bywydau di-rif.
Yn 2020, gwnaeth rhoddion i gefnogi ymateb y Brifysgol i Covid-19 alluogi Bassetto i brynu'r cyfarpar yr oedd ei angen arni er mwyn dechrau ei hymchwil amserol. Gan ddefnyddio technoleg â chymorth cyfrifiadur, mae ei thîm yn nodi cyfansoddion newydd y gellid eu defnyddio fel meddyginiaethau i atal yr ymateb imiwnyddol trafferthus. Mae'n debyg mai ei gwaith hi yw’r cyntaf o’i fath yn fyd-eang. Esbonia Bassetto: 'Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai ninnau'n unig sy'n canolbwyntio ar ryngweithiad penodol rhwng y feirws a'r system gyflenwi [sy'n rhan o'r system imiwnedd].'
Mae'r ymateb imiwnyddol wedi cael ei arsylwi yn SARS a MERS, sef y coronafeirysau hynod bathogenig eraill sydd wedi trosglwyddo rhwng rhywogaethau i droi'n bathogenau dynol marwol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Oherwydd y tuedd hwn, dywed Bassetto y 'byddai hyn yn ddefnyddiol iawn yn fwy na thebyg mewn achosion y coronafeirysau hynod bathogenig newydd a allai drosglwyddo i bobl yn y dyfodol. Felly, byddai hefyd yn ddull atal ar gyfer clefydau pandemig posibl newydd a allai ddod i'r amlwg.'