Mae’n rhaid parchu a gwarchod hawliau dynol pawb er mwyn sicrhau byd teg a chyfartal.
Heb ystyried cyfoeth, oedran, rhyw, gallu, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth, crefydd neu ethnigrwydd, dylai pob un ohonon ni gael hawliau cyfartal a mynediad at dwf economaidd, deddfau, cyfleoedd, cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus, addysg a gwaith.
PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM LAI O ANGHYDRADDOLDEB?
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas ag anghydraddoldeb.
I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.