Canolfan ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant mewn Treftadaeth
CHART yw canolfan newydd Prifysgol Abertawe ar gyfer ymchwil a hyfforddiant mewn treftadaeth a fydd yn dod â phobl â syniadau ac arbenigedd ynghyd i greu cyfleoedd yn y Brifysgol a'r tu hwnt iddi. Gyda phrosiectau'n amrywio o ddiogelu diwylliant byd-eang i dreftadaeth Iddewig a diwydiant dur Cymru, mae CHART yn amlygu pwysigrwydd treftadaeth ar gyfer hunaniaeth ddiwylliannol ac yn dangos sut gall treftadaeth ddiwylliannol fod yn ffocws ar gyfer adfywio, datblygiad economaidd, creu lleoedd a lles. Mae gweithgareddau CHART yn cynnwys ymchwil ar y cyd, datblygu polisi rhyngwladol, cyfres o seminarau, gweithdai, addysg, arloesi digidol, dehongli treftadaeth, ymgynghoriaeth a mwy.
Er bod ein gweithgareddau ymchwil yn rhai byd-eang, mae ein hamgylchedd wedi'i lywio'n uniongyrchol gan anghenion y cymunedau lle'r ydym wedi ein gwreiddio, fel a welir gan ein hymrwymiad hir sefydlog at adfywio Gweithfeydd Copr yr Hafod Morfa. Mewn rhanbarth yr effeithiwyd arno’n sylweddol gan ddiwydiannu a dad-ddiwydiannu, gan ddatganoli gwleidyddol a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, mae’r angen i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector yn bwysig i ni.
Mae CHART yn ymrwymedig yn benodol i fentora darpar ysgolheigion ac ymarferwyr treftadaeth drwy bartneriaethau, lleoliadau a hyfforddiant. Rydym yn cefnogi gradd MA mewn Hanes a Threftadaeth Gyhoeddus Abertawe a gwaith Canolfannau a Sefydliadau eraill Abertawe megis y Ffowndri Gyfrifiadol, Llyfrgell Glowyr De Cymru, Dyniaethau Digidol a'r Ganolfan Eifftaidd. Mae Abertawe'n cynnig amgylchedd ymchwil ysgogol ar gyfer ysgolheigion ar bob cam o'u gyrfaoedd, sy'n gallu gweithio yn y tirweddau, yr archifau a’r amgueddfeydd amrywiol sydd ar garreg ein drws.
Cofrestrwch yma i dderbyn y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau a chyfleoedd gan CHART.
E-bost: chartcentre@abertawe.ac.uk