Diben adolygiad moeseg ymchwil yw diogelu urddas, hawliau, diogelwch a lles y cyfranogwr/cyfranogwyr, yr ymchwilydd/ymchwilwyr ac enw da'r Brifysgol. Mae adolygiad moeseg yn cadarnhau, ymhlith pethau eraill, bod unrhyw gyfranogwyr mewn ymchwil wedi rhoi cydsyniad gwybodus i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil penodol, heb gael eu hysgogi'n amhriodol, a'u bod yn rhydd i optio allan ar unrhyw adeg heb gosb.
Mae ymarfer moesegol wrth reoli gwaith o'r fath yn gofyn am gorff sy'n annibynnol ar y tîm ymchwil i archwilio dyluniad yr ymchwil. Gosodir tair rhwymedigaeth bwysig ar y pwyllgor moeseg.
Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, rhaid i'r pwyllgor moeseg sicrhau bod hawliau cyfranogwyr ymchwil yn cael eu diogelu. Cyflawnir hyn drwy sicrhau bod unigolion yn derbyn digon o wybodaeth y gellir ei deall yn hawdd, a sicrhau bod strategaethau priodol ar waith i ddiogelu cyfranogwyr rhag canlyniadau niweidiol posibl yn sgîl yr ymchwil.
Yn ail, mae gan y pwyllgor moeseg ymchwil a'i is-bwyllgorau rwymedigaeth i'r gymdeithas, sy'n darparu'r adnoddau ar gyfer ymchwil yr effeithir arni gan y canlyniadau yn y pen draw.
Yn drydydd, mae gan y pwyllgorau moeseg ymchwil rwymedigaeth i'r ymchwilydd. Dylid trin y cynnig ymchwil â pharch ac ystyriaeth. Dylai'r pwyllgorau moeseg ymchwil ymdrechu i gyflawni pob un o'r rhwymedigaethau hyn.
Felly, mae'n bwysig bod:
(a) y Brifysgol a'i His-bwyllgorau Moeseg Cyfadrannol yn gweithredu yn unol ag egwyddorion moesegol sy'n cael eu cyfleu'n benodol.
(b) y Brifysgol a'i His-bwyllgorau Moeseg Cyfadrannol yn gweithredu yn unol ag arferion moesegol a ddilynir.
(c) adolygwyr moeseg yn deall eu rôl ac yn cael eu harwain gan bolisïau a rheoliadau.
Rhaid i adolygiad moeseg cadarn:
- fod yn rhesymegol, yn strwythuredig, yn gefnogol ac yn gytbwys.
- fod yn gyson, yn gydlynol ac yn seiliedig ar wybodaeth, fel bod budd yr ymchwil yn drech nag unrhyw risgiau cysylltiedig.
- Dylai ddarparu adborth cadarnhaol priodol yn ogystal ag unrhyw feirniadaethau adeiladol angenrheidiol. Byddai dull o'r fath yn galluogi ymchwilwyr i wella ansawdd y prosiect. Rhaid i adolygiad moeseg a phrosesau ategol eraill wneud hwyluso ymchwil moesegol gadarn yn flaenoriaeth. Dangosir hyn gan ymchwilwyr sy'n ystyried bod ymgysylltu â phrosesau moeseg ymchwil sefydliadol yn gadarnhaol ac yn werthfawr ar gyfer pob cam o'u hymchwil.
- Dylai fod yn glir ac yn amddiffynadwy, a dylai roi sylwadau ar fethodoleg dim ond os yw'n codi materion moesegol ynghylch yr ymchwil.
- mewn perthynas â'i benderfyniadau a'i gyngor, rhaid iddo fod yn agored i graffu cyhoeddus, a rhaid cydnabod a chyflawni cyfrifoldebau yn gyson. Rhaid i'r adolygiadau bob amser gyfiawnhau barn, gan ddarparu rhesymeg glir.
- Rhaid cydnabod y gallai rhywfaint o ymchwil hynod arloesol o reidrwydd gynnwys risgiau a/neu gellid ei hystyried yn ymwthiol a dylai awgrymu sut y gellir ei chyflawni orau.
- Dylai fod yn ymwybodol o risg heb osgoi risg.
Ni ddylai adolygiad moeseg:
- ganolbwyntio ar faterion methodoleg a dylunio oni bai eu bod yn codi materion moesegol, megis gwneud cyfranogwyr yn agored i risgiau a beichiau y gellir eu hosgoi.
- atal cynnal ymchwil gadarn.
- bod yn rhy feirniadol neu'n feirniadol mewn modd amhriodol.
- darparu adolygiad cyfreithiol neu wleidyddol. Er enghraifft, dylai materion fel prosesu a storio data yn gyfreithlon fod o fewn maes llywodraethu data ymchwil.
- darparu gwasanaeth prawf-ddarllen; dylai adolygiad roi sylwadau ar faterion iaith a chynllun dim ond os caiff dogfennau'r cyfranogwr eu llunio mor wael fel nad ydynt yn cyflawni eu diben. Fel arall, dylai'r adolygiad moesegol osgoi cyfeirio at faterion sillafu, gramadeg a chystrawen.
- gwirio cydymffurfiaeth â pholisi mewnol neu allanol; mae hwn yn fater ar gyfer uniondeb a llywodraethu ymchwil.
Egwyddorion cyffredinol ceisiadau ac adolygiadau moeseg ymchwil:
(Dogfennau i'w darllen: Polisi'r Brifysgol ynghylch Asesu Risgiau Moesegol Ymchwil a Rhestr Wirio'r UKRIO ar gyfer Ymchwilwyr)
- Mae ymchwilwyr yn gyfrifol am nodi materion moeseg posibl a allai godi mewn prosiect a sicrhau eu bod yn derbyn lefel briodol o graffu moesegol.
- Dylai ymchwilydd gael ei lywio gan y safonau a bennwyd gan eu cymdeithasau proffesiynol, eu cyrff disgyblu, a pholisïau ymchwil y Brifysgol.
- Dylid ystyried ceisiadau Moeseg Ymchwil, a gyflwynir drwy'r system ar-lein, mewn perthynas â natur a chyd-destun yr ymchwil a amlinellir.
- Rhaid i adolygiad moeseg fod yn gymesur â'r risg neu'r niwed posibl y mae'r ymchwil yn ei greu.
- Dylid cydbwyso risgiau yn erbyn buddion a'u lleihau pan fo hynny'n bosibl.
- Mae cyfiawnhad dros gynnal adolygiad llai beichus mewn achosion lle mae risg isel o niwed difrifol.
- Dylai'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC) priodol adolygu ymchwil sy'n cynnwys unigolion neu grwpiau sy'n dod o dan gylch gorchwyl Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel arfer, bydd hwn yn Bwyllgor Moeseg Ymchwil a gydnabyddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru ac yn gweithredu o dan Drefniadau Llywodraethu ar gyfer Pwyllgorau Moeseg Ymchwil (GAfREC).
- Dylai Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Alban 'A' adolygu ymchwil a gynhelir yn yr Alban sy'n gweithredu'n unol â "Deddf Oedolion ag Analluogrwydd (Yr Alban) 2000.
- Dylai ymchwilwyr osgoi dyblygu adolygiad moeseg.
- Mewn ymchwil gydweithredol sy'n cynnwys mwy nag un sefydliad neu ymchwil amlddisgyblaethol, dylid defnyddio un broses adolygu fel y cytunwyd arni gan y Brifysgol. (Atodiad 1)
- Rhaid i'r prif ymchwilydd sicrhau bod sefydliadau sy'n cymryd rhan ac ymchwilwyr cydweithredol yn fodlon bod y cynnig ymchwil wedi bod yn destun adolygiad moeseg digonol, a bod gwaith monitro rheolaidd wrth gynnal yr ymchwil a bod hyn yn cael ei adrodd yn brydlon i'r holl sefydliadau ac ymchwilwyr dan sylw.
- Bydd angen sgrinio moesegol ar bob cynnig ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol drwy gymhwysiad Infonetica ar-lein.Bydd cynigion ymchwil sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol A data personol yn gofyn am adolygiad llawn gan y Pwyllgorau Moeseg Ymchwil priodol sy'n gweithredu yn unol â'r egwyddorion a'r canllawiau a nodir yn Fframwaith Polisi Uniondeb Ymchwil y Brifysgol. Dylai'r holl gasglu a dadansoddi data sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol neu ddata personol gael 'Cymeradwyaeth Moeseg Ymchwil' cyn i'r ymchwil ddechrau.
- Rhaid cynnal yr adolygiad moeseg ymchwil mewn modd sy'n annibynnol, yn gymwys ac yn amserol. Dylai'r adolygiad moeseg ymdrechu i hysbysu ymchwilwyr o'u penderfyniad ymhen mis ar ôl cael ei gyflwyno, ac ni ddylai ymchwilwyr na'r broses ymchwil gael eu rhoi dan anfantais gan Bwyllgorau Moeseg Ymchwil nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i gydymffurfio.
- Ni ddylai amserlen adolygiad moeseg fod yn fwy na 60 niwrnod oni bai bod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol.
- Mae Cynghorau Ymchwil yn disgwyl i waith ymchwil ar brosiect a ariennir ddechrau ymhen tri mis ar ôl rhoi gwybod yn ffurfiol am y cyllid, er mwyn gallu recriwtio staff a chynnal adolygiad moeseg. Yn y mwyafrif o achosion, dylid cyflwyno cynigion ymchwil ar gyfer adolygiad moeseg yn syth ar ôl cael gwybod am gyllid, ond gallai hefyd fod cyn cynnal astudiaeth beilot fel bod buddiannau'r cyfranogwyr yn cael eu diogelu, a chyn ceisio cytundeb safleoedd ymchwil a phorthorion posibl, fel y gallant fod yn sicr o'i enw da, neu cyn y prif waith casglu data.
Y system adolygu moeseg ar-lein ym Mhrifysgol Abertawe
Mae'r system adolygu moeseg ar-lein a gyflwynwyd yn 2022/23 wedi'i dylunio i hwyluso adolygiadau moeseg drwy fynd i'r afael yn oblygedig â'r holl faterion uchod. Datblygwyd y cwestiynau a'r canllawiau gan weinyddwyr ac academyddion o bob rhan o'r sefydliad, gyda'r nod o hyrwyddo i'r radd fwyaf posibl ddiwylliannau a chonfensiynau pob Cyfadran gyfansoddol a maes ymchwil wrth ddarparu un system unedig ar gyfer asesu a chofnodi ceisiadau moeseg ymchwil gan holl ymchwilwyr, staff a myfyrwyr y Brifysgol. Dylai ymgeiswyr ac adolygwyr/aseswyr gyfeirio at y templedi a'r arweiniad a ddarperir fel rhan o'r system, o dan 'Help' ac yn y swigod gwybodaeth gofynnol.
Atodiad 1
Adolygu cais cymeradwy pan fo'r ymchwil wedi cael ei harwain gan sefydliad arall.
Mae angen cyflwyno'r holl ymchwil dan arweiniad trydydd parti gerbron pwyllgor, a bydd yn destun adolygiad a chymeradwyaeth gan Gadeirydd.
Dylai'r adolygydd gael y llythyr cymeradwyaeth gan y sefydliad arweiniol, y cais, a'r dogfennau ategol.
Mae'r adolygiad ychydig yn wahanol gan ei fod yn mynd i'r afael â'r ddau gwestiwn canlynol:
- A yw'r broses adolygu mor drylwyr/yn gyfwerth â phroses Phrifysgol Abertawe?
- A oes risg sylweddol o niwed nad yw'n ddibwys neu risg cymedrol neu uchel i enw da Abertawe?
Nac ydyw - ewch i 2
Ydy - dylid argymell cymeradwyo'r cais
Nac oes - dylid argymell cymeradwyo'r cais
Oes - dylid argymell gwrthod y cais.
Unwaith y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau a bod yr adolygydd yn fodlon ar yr adolygiad moesegol gan y sefydliad arweiniol, bydd yr adolygydd yn dyrannu lefel risg.
Yna bydd y cais yn cael ei anfon at y Cadeirydd/y Cadeirydd Dirprwyol i gwblhau'r lefel risg a llunio'r llythyr cymeradwyo/gwrthod.
Bydd yr un llythyr cymeradwyo/gwrthod yn cael ei ddarparu i'r ymgeisydd ar gyfer pob cais.
Os oes angen rhagor o wybodaeth, byddai'r cais yn cael ei anfon yn ôl at yr ymgeisydd i roi eglurhad ynghylch mân bwyntiau drwy ddefnyddio'r blwch sylwadau cyffredinol ar y cais.
Os ystyrir bod y cais yn annerbyniol, bydd yr adolygydd yn cyrchu'r risg ac ychwanegir nodyn amserlen i wrthod y cais.
Bydd y cadeirydd yn gwneud sylwadau ar y cais yn y sylwadau cyffredinol, yn cwblhau'r risg, ac yn gwrthod y cais.