Addysg ac Ymgysylltiad yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru (yn Ysgol y Gyfraith) wedi cael ei hariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn i ddatblygu dull gweithredu ar draws Cymru i addysg gyfreithiol pobl ifanc (11-17) ar eu hawliau dynol a’r gyfraith fel y mae’n effeithio arnyn nhw yng Nghymru. Mae Rhian Howells wedi cael ei phenodi yn Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu a dechreuodd yn ei swydd ym mis Mehefin 2023 am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd.
Prif ffocws y gwaith yw cyfranogiad pobl ifanc yn y gwaith o adnabod yr wybodaeth maen nhw ei hangen a monitro datblygiad eu dealltwriaeth drwy eu hymgysylltiad â’r prosiect. Mae’r prosiect peilot presennol yn canolbwyntio ar ymgysylltu â disgyblion blwyddyn chwech mewn tair ysgol gynradd leol gyda’r nod o fonitro’r garfan hon o bobl ifanc drwy eu cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd. Dros raglen 6 wythnos, bydd y plant yn dysgu am gyfreithiau perthnasol sy’n benodol i Gymru, yn ogystal â dysgu am eu hawliau dynol.
Drwy ddefnyddio ein Dull Gweithredu Hawliau Plant i gynllunio’r prosiect, i ddechrau bydd y plant yn dysgu am eu hawliau drwy senarios chwarae rôl sy’n trin ac yn trafod bywyd gydag a heb amddiffyniad Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC). Gan weithio mewn grwpiau bach, bydd y plant yn nodi meysydd o’r gyfraith maen nhw’n dymuno gwybod mwy amdanyn nhw ac yn cynllunio sut bydden nhw’n hoffi rhannu’r hyn maen nhw wedi'i ddysgu â chymuned yr ysgol yn gyffredinol. Yna, bydd sesiynau’n cael eu datblygu ar gyfer ysgolion uwchradd ar y materion y bydd y bobl ifanc wedi sôn amdanyn nhw, fel fepio, cynnau tanau a hawliau cyflogaeth! Bydd yr adnoddau hyn, gan gynnwys y cynlluniau sesiynau, y ffeithluniau, y fideos, y dolenni i Gwricwlwm Cymru, syniadau am waith cartref ac ati, yn cael eu treialu yn gynnar yn 2025 ac ar gael i ysgolion eu defnyddio’n gyffredinol ar ôl eu cwblhau.