Yn y Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO), rydym yn meithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng cymunedau lleol ac ymchwilwyr ar draws de a gorllewin Cymru. Rydym yn dod â mathau amrywiol o arbenigedd ynghyd i ddeall a mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir bob dydd gan bobl a lleoedd lleol.
Yn greiddiol i ni, rydym yn ymrwymedig i feithrin perthnasoedd a chydnabod y gwaith gwerthfawr sydd eisoes yn digwydd yn lleol. Ond rydym hefyd yn credu yng ngrym ymchwil er mwyn galluogi pobl i gyflawni mwy.
Mae ein tîm yn dilyn ymagwedd hyblyg sy'n ein galluogi i gysylltu pobl a chefnogi cydweithrediadau a allai fel arall fod heb yr adnoddau neu’r rhwydweithiau i ddatblygu. Credwn fod cydweithio hirdymor, cynaliadwy ac ystyrlon yn ein galluogi i gyflawni mwy gyda'n gilydd.
Ydych chi'n wynebu her lle efallai gall safbwynt gwahanol helpu? Syniad a allai fanteisio ar gysylltu mewnwelediadau'r gymuned ag ymchwil? Cysylltwch â ni - Rydym yma i helpu i feithrin partneriaethau sy'n gwneud gwahaniaeth.
Adran Newydd: Ymrwymiad i Le
Mae'r lleoedd lle rydym yn byw ac yn gweithio yn llunio ein bywydau. Yn ne a gorllewin Cymru, mae ein tirlun, ein hanes a'n diwylliant arbennig yn rhoi gobaith a chyfleoedd i rai pobl, ond gallant fod yn heriau i bobl eraill.
Mae hanes yn dangos bod anghydraddoldebau cymdeithasol yn parhau mewn lleoedd penodol, gan effeithio ar deuluoedd a chymunedau am genedlaethau. Ond y tu hwnt i'r ystadegau a'r penawdau, mae pobl yn deall eu lleoedd mewn ffyrdd cymhleth a pherthynol. Mewn achos lle bydd un person yn credu bod ei gymdogaeth yn wych, efallai y bydd rhywun arall yn anghytuno.
Mae'r hanesion a'r profiadau lleol hyn yn golygu bod angen gwahanol fathau o gymorth ar wahanol leoedd. Mae polisïau yng Nghymru a'r DU nawr yn adnabod yr angen i feddwl yn ofalus am leoedd a chynnwys y bobl sy'n byw yno.
Rydym yn cefnogi ymchwilwyr i chwarae rôl ehangach mewn cymunedau a datrysiadau lleol. Oherwydd pan fydd cymunedau'n dod ynghyd i ddatrys problemau lleol, dyma pryd y gallwn ni wneud newidiadau go iawn - ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer pobl eraill sy'n wynebu heriau tebyg ledled y byd.
Byddem wrth ein boddau'n clywed gennych chi os hoffech chi gael sgwrs am syniad ar gyfer prosiect.
I arwain a chefnogi ein gwaith yn y rhanbarth, rydym wedi datblygu set o egwyddorion cyd-greu. Gwnaethom deilwra'r rhain i'n cyd-destun ein hunain wrth gael ein tywys gan ystod eang o arbenigedd sydd eisoes yn bodoli. Ein gobaith yw y bydd ein hegwyddorion cyd-greu'n cefnogi ac yn annog ymchwil gymunedol a chynaliadwy sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn lleol.
Mae'r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr AHRC ac mae'n archwilio, mewn modd creadigol, sut mae hanesion lleoedd a gofod yn effeithio ar lesiant presennol a dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae Dr Michaela James (Prif Ymchwilydd), Emily Adams (Cyd-Ymchwilydd) a Jack Palmer yn cynnal y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd Port Talbot, Raspberry Creatives, Teuluoedd yn Gyntaf, a llawer o dimau cefnogol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ERSC dan arweiniad Chris Groves (Prif Ymchwilydd) ac Erin Roberts (Cyd-ymchwilydd) mewn partneriaeth â Tai Tarian. Mae'n annog pobl leol i archwilio eu hamodau presennol a'u dyheadau ar gyfer eu cartrefi yn y dyfodol - gan gynnwys gwybodaeth am dechnoleg wresogi newydd ac opsiynau sydd ar gael. Mae'r prosiect hefyd yn archwilio ffyrdd y gall y gymdeithas dai a thenantiaid gyfuno eu lleisiau er mwyn amlygu pryderon ynghylch polisi gorfodol Llywodraeth Cymru a'r bwlch gweithredu.
Rydym wedi cynnal y rhaglen hon ers 2022 er mwyn creu cyfleoedd ymgysylltu â’r cyhoedd a meithrin sgyrsiau rhwng ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a phreswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt (cynhelir y rhaglen hon yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside, ond cynhelir sgyrsiau dros dro mewn lleoliadau eraill ar draws y rhanbarth hefyd).
Dyma bartneriaeth wedi'i hariannu gan Medr sy'n dod â sefydliadau addysg drydyddol ynghyd mewn cydweithrediad ffurfiol sy'n canolbwyntio ar gyflwyno portffolio o weithgareddau cenhadaeth ddinesig. Mae parchu'r cymunedau rydym yn ymgysylltu â nhw yn ffurfio sail ein cytundeb – gan greu platfform cyffredin er gwell. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal 4 gweithdy gyda chyfanswm o 54 o randdeiliaid o'r gymuned er mwyn nodi blaenoriaethau gweithredu ar gyfer cyfnodau tymor byr, tymor canolig a'r hirdymor. Bydd canfyddiadau'r gweithdai yn arwain proses gwneud penderfyniadau grŵp y Bartneriaeth ynghylch ei strategaeth yn y dyfodol.
Mae'r prosiect hwn - a arweinir gan Annie Tubadji (Prif Ymchwilydd) - yn cynnwys mapio gweithgarwch llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i fesurau cynhyrchiant, a datblygu model ystadegol er mwyn dangos effaith a gwerth gweithgareddau lles. Pwrpas mapio gweithgareddau lles i fesurau cynhyrchiant ac alinio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac agendâu Ffyniant Bro yw galluogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i lunio adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n bodloni disgwyliadau llunwyr polisi ar lefel uwch. Drwy drosi gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i fformat a adnabyddir gan lunwyr polisi, gallan nhw gryfhau eu dadleuon a'u rhesymau dros gyfiawnhau adnoddau ychwanegol yn seiliedig ar yr effaith leol y mae eu mentrau ar lawr gwlad yn ei chael.
Cyn Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol , ymgymerwyd â phrosiect 12 mis a ariannwyd gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru i greu Fframwaith Ymgysylltu De-orllewin Cymru. Gwnaeth y prosiect hwn ganiatáu i ni olrhain ein cydweithrediadau ar draws y rhanbarth, dylunio rhaglen hyfforddi i'n hacademyddion a meithrin cydweithrediadau newydd trwy gyfres o ddigwyddiadau allanol gan gynnwys ein Digwyddiad Rhwydweithio yn Arena Abertawe a menter ymchwil yn y gymuned gyda Chanolfan Gelfyddydau Wyeside.
Tîm yr LCRO
Rydym yn dîm deinamig o swyddogion prosiect a swyddogion ymchwil, dan arweiniad ein cyd-gyfarwyddwyr. Rydym yn cynnig dealltwriaeth gyfannol o weithgarwch ac arbenigedd ar draws y rhanbarth, ac rydym yn cynnal y ddealltwriaeth hon drwy berthnasoedd sydd wedi'u seilio ar ymddiriedaeth, cyd-ddealltwriaeth ac ethos o gyd-greu.
Mae ein hymagwedd yn canolbwyntio ar gydweithio, newid yr hen ffordd o gynnal ymchwil ar bobl, ac, yn hytrach, gweithio gyda chymunedau a chael ein harwain gan gymunedau ar bob cam o'r ymchwil. Rydym yn gweithio ar sail egwyddorion bod yn onest, yn gyson ac yn barchus.
Emily Adams
Rwy'n Uwch-swyddog Prosiect sy'n arwain ar agenda Prifysgol Abertawe sy'n seiliedig ar leoedd, a hynny drwy'r Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO). Mae'n canolbwyntio ar brosiectau ymchwil, meithrin partneriaethau, a gweithgareddau cenhadaeth ddinesig yn ne a gorllewin Cymru.
Ochr yn ochr â Jo Hutchings, rwy’n yw'r cyswllt allweddol ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth ac sy'n gweithio yn y cymunedau hynny, gan adeiladu ar brofiad helaeth o gyflwyno gwasanaethau yn y trydydd sector. Rwy’n angerddol am roi llwyfan i leisiau'r gymuned ac ehangu mynediad drwy ei phrosiectau a'i hymchwil.
Rwy'n hefyd yn ymchwilydd ôl-raddedig. Mae ei phrosiect presennol yn archwilio hanes symudedd cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel - gan werthuso a wnaeth y cyfleoedd newydd a grëwyd gan newidiadau mewn addysg a chyflogaeth drechu dylanwad hanesyddol lleoliad a chefndir teuluol ar lwybrau bywyd.
Tom Avery
Fy rôl yw galluogi ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth yn lleol. Mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw beth sy'n seiliedig ar leoedd, wedi’i gyd-greu, neu sy'n cael ei arwain gan gymuned, lle mai rôl yr ymchwilydd yw hwyluso'r prosiect yn hytrach na'i arwain. Rydw i'n mwynhau creu cyswllt rhwng disgyblaethau ac asiantaethau ac ymagweddau i gydweithio er mwyn gwella ei gilydd, felly efallai bod gen i fwy o ddiddordeb mewn methodolegau.
Wedi dweud hynny, cefais fy hyfforddi fel ieithydd addysgol ac ethnograffwr beirniadol a oedd yn cydweithio â chymunedau ffoaduriaid, felly bydd bob tro gennyf ddiddordeb mewn materion sy’n ymwneud â chynhwysiant, cynrychiolaeth a chodi llais er mwyn gwneud gwahaniaeth.
Mae lles yn fater pwysig ar agenda Cymru, ac mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus ar draws Cymru asesu a gwella lles lleol. Rydw i'n gweithio gyda Dr Annie Tubadji i helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i feddwl am sut mae eu gwaith sy’n ymwneud â llesiant yn arwain at ganlyniadau o ran cynhyrchiant. Mae hyn yn adeiladu ar waith Annie ar economeg ddiwylliannol, sy'n archwilio rolau mesur a datblygu cyfalaf diwylliannol a chymdeithasol mewn datblygu rhanbarthol yn effeithiol.
Jo Hutchings
Rwy'n Uwch-swyddog Prosiect sy'n arwain agenda sy'n seiliedig ar leoedd Prifysgol Abertawe drwy'r Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO). Rwy'n canolbwyntio ar brosiectau ymchwil, meithrin partneriaethau, a gweithgareddau cenhadaeth ddinesig de a gorllewin Cymru.
Ochr yn ochr ag Emily Adams, rwy'n un o'r cysylltiadau allweddol i'r rhai hynny sy'n gweithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth. Rwy'n angerddol am roi platfform i leisiau cymunedol ac ehangu mynediad drwy fy mhrosiectau.
Rydw i wedi gweithio ar nifer o brosiectau cydweithredol, gan gynnwys sawl Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol, yn Swydd Efrog ac yn Abertawe.
Sarah Wydall
Rwy'n gyd-gyfarwyddwr y Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol ac yn Athro ym maes niwed rhyweddol yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyn gweithio yn y byd academaidd, roeddwn yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus mewn lleoliadau cymunedol, yn cefnogi mamau ifanc ac yn hwyrach dadau ifanc gydag ystod o weithgareddau a phrosiectau ar y cyd am leoedd mwy diogel, iechyd rhywiol, tai a mwy. Roedd gweithio gyda'r grwpiau hyn a phartneriaid lleol wedi ein helpu ni i wneud y rhwystrau at addysg, cyflogaeth, a chyfleoedd hamdden yn weledol, yn aml drwy ffilmiau, perfformiad, a chyfryngau creadigol eraill.
Rwy'n angerddol am ddarganfod ffyrdd i gefnogi gweithredu cymunedol a chydweithio. Mae'r rôl hon yn fy ngalluogi i weithio ochr yn ochr â Dr Christala Sophocleuous a'r tîm, gan roi ein sgiliau a'n profiad i helpu pobl i gyflawni newid parhaol - yn unigol ac ar y cyd - wrth hyrwyddo dealltwriaeth well o brofiadau bywyd ar sawl lefel polisi ac ymarfer.
Christala Sophocleous
Rwy'n Gyd-gyfarwyddwr LCRO ac yn Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol yn Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda Sarah, rwy'n darparu arweinyddiaeth strategol i'n canolfan.
Mae gen i ddiddordeb tymor hir yn y sector gwirfoddol, ei berthynas â gwasanaethau cyhoeddus, a phŵer cymunedau i gyfoethogi ein bywydau. Dros y 40 mlynedd diwethaf, rydw i wedi gwirfoddoli, ymchwilio a gweithio yn y sector gwirfoddol a chyda sefydliadau cymunedol. Rwy'n ymrwymedig i gefnogi cymunedau i ddefnyddio polisi cyhoeddus er budd lleol gan sicrhau bod lleisiau ar yr ymylon yn cael eu clywed mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Gan sefyll ar y croestoriad rhwng y brifysgol, cymunedau a pholisi cyhoeddus, mae LCRO yn rhoi cyfle unigryw i mi ddod â'r diddordebau hyn ynghyd a meithrin gwaith cydweithredol ar draws asiantaethau a sectorau yn rhanbarth de-orllewin Cymru.