Polisi Adborth Modiwlau
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Recordio Darlithoedd a Chynnwys Addysgu
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Cyflwyniad
1.1. Diben
1.1.1
Mae ethos Adborth gan Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wrth wraidd llwyddiant y sefydliad mewn perthynas â'r Cyfadrannau Academaidd a'r Gwasanaethau Proffesiynol a'i gweledigaeth i ddarparu profiad myfyrwyr o safon drwy gefnogi partneriaeth â myfyrwyr a llais myfyrwyr.
1.1.2
Mae Côd Ansawdd y DU 2024, Egwyddor 2 yn nodi, “Engaging students as partners - Providers take deliberate steps to engage students as active partners in assuring and enhancing the quality of the student learning experience. Engagement happens individually and collectively to influence all levels of study and decision making. Enhancements identified through student engagement activities are implemented, where appropriate, and communicated to staff and students.” Un o'r arferion allweddol yw, “Student engagement and representation activities are clearly defined, communicated, resourced and supported. Transparent arrangements are in place for the collective student voice to be heard and responded to”.
1.1.3
Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleoedd adborth pwrpasol, gan hwyluso casglu adborth ar adeg briodol yn ystod y modiwl, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd o gasglu'r adborth. Mae'n gyfle i asesu a deall dysgu myfyrwyr a chanolbwyntio ar brofiad myfyrwyr o'r modiwl. Diben hyn yw cael adborth gan fyfyrwyr, tynnu sylw at arferion da a meysydd i'w gwella. Drwy hyn, gellir rhoi unrhyw welliannau ar waith a chau'r cylch adborth gyda'n myfyrwyr mewn modd amserol.
1.2 Cwmpas
1.2.1
Mae'r polisi hwn yn ymwneud ag adborth ar fodiwlau a ddarperir yn fewnol ym Mhrifysgol Abertawe'n unig. Nid yw'n berthnasol i arolygon sy’n cynnwys prifysgolion eraill, gan gynnwys yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) neu Arolygon Profiad Myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
1.2.2
Mae'r Polisi hwn yn berthnasol i holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Abertawe sy'n casglu adborth ar fodiwlau, gan gynnwys rhaglenni ymchwil ôl-raddedig sydd â chydrannau a addysgir.
1.3 Egwyddorion
1.3.1
Mae adborth myfyrwyr yn hanfodol er mwyn darparu gwybodaeth o lygad y ffynnon i'r Brifysgol ynghylch profiad myfyrwyr, gan gynnwys adborth academaidd ac allgyrsiol gan fyfyrwyr. Caiff adborth myfyrwyr ei ddefnyddio at ddibenion gwella ar lefel modiwl, rhaglen a Chyfadran, yn ogystal ag i wella darpariaeth a gweithrediad ein Gwasanaethau Proffesiynol.
1.3.2
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i annog adborth myfyrwyr ac ymateb iddo felly disgwylir y bydd pob modiwl ar draws y Brifysgol yn casglu adborth ar y modiwl. Bydd y Tîm Adborth Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Addysg yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chymorth.
Dylai adborth myfyrwyr aros yn gyfrinachol er mwyn cydymffurfio â Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr - Prifysgol Abertawe y Brifysgol a dylid trin data myfyrwyr yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 Diogelu Data - Prifysgol Abertawe. Defnyddir data at ddibenion gwella modiwlau yn unig.
1.3.3
Darperir cyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth ar bob lefel astudio, ar draws yr holl Gyfadrannau. Mae arolygon yn parhau’n rhan bwysig o'r cylch adborth myfyrwyr yn Abertawe, ac maent yn galluogi myfyrwyr i ddarparu adborth ar bob lefel astudio, gan gynnwys ar lefel modiwl a rhaglen yn ogystal ag mewn perthynas â'r Gwasanaethau Proffesiynol. Fodd bynnag, gellir defnyddio dulliau amgen ar gyfer adborth ar fodiwlau, fel sy'n briodol i'r ddisgyblaeth, y garfan a'r diben.
1.3.4
Bydd myfyrwyr yn cael eu hatgoffa i roi adborth mewn modd adeiladol, gan ddefnyddio iaith briodol. Mae Siarter Myfyrwyr y Brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr drin holl aelodau o gymuned y Brifysgol mewn ffordd gwrtais a pharchus. Pan ystyrir nad yw adborth myfyriwr yn cyrraedd y safonau disgwyliedig hyn, bydd anhysbysrwydd yn cael ei dynnu'n ôl, a chymerir camau priodol yn erbyn y myfyriwr hwnnw.
1.4
Dylid adrodd am gynnwys amhriodol mewn adborth ar fodiwl i’r Deon Addysg Cysylltiol priodol i ddechrau, a fydd yn cysylltu â’r Tîm Adborth Myfyrwyr sy’n gallu uwchgyfeirio’r cynnwys amhriodol i gymryd camau yn ei gylch. Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg yn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar sail natur y cynnwys.
1.5 Diffiniadau
TERM | DIFFINIAD |
---|---|
Modiwl | Uned â chredydau mewn rhaglen astudio |
Adborth ar fodiwlau | Y broses lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i roi adborth ar eu hastudiaethau academaidd. |
2. Y Broses Adborth ar Fodiwlau
2.1
Yn dilyn adolygiad sefydliadol o'r cyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth yn 2022 a 2023 a fu'n cynnwys staff a myfyrwyr, y meysydd ffocws allweddol ar gyfer llais myfyrwyr gan gynnwys adborth ar fodiwlau ym Mhrifysgol Abertawe yw:
- Adborth ar ffurf dialog gan fyfyrwyr
- Gwaith parhaus i egluro a darganfod cyd-destun gyda myfyrwyr
- Cau'r cylch adborth
- Tryloywder camau gweithredu a gweithgareddau gwella
2.2
Mae'r ddelwedd isod yn dangos y broses gyffredinol o roi adborth ar fodiwlau. Mae'r Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr yn darparu cymorth, arweiniad a gwybodaeth am y roses.
3. Polisi Adborth ar Fodiwlau
3.1 Casglu adborth myfyrwyr
3.1.1
Mae'r newid i adborth myfyrwyr ar ffurf dialog yn hyrwyddo dulliau mwy anffurfiol o gasglu adborth myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr mewn dialog a sgyrsiau am eu profiad ac am atebion neu gamau gweithredu. Yr amcan yw cynnig cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr roi adborth ar adegau allweddol yn y modiwl, ac i ymgyfarwyddo â'r dull adborth. Mae angen i gyfleoedd fod yn amserol, yn berthnasol ac yn adeiladol.
3.1.2
Mae'r Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr yn darparu enghreifftiau o amrywiaeth o ffyrdd o gasglu adborth myfyrwyr, ar adegau priodol sy'n addas i'r modiwl, y staff a'r myfyrwyr. Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos o ymarfer effeithiol o bob rhan o'r sefydliad.
3.1.3
Er y gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu adborth myfyrwyr, mae'n bwysig nodi y gallai fod angen eglurder a chyd-destun ychwanegol. Gellir cyflawni hyn drwy drafodaethau â Chynrychiolwyr Myfyrwyr neu drwy weithgareddau ychwanegol sy'n seiliedig ar drafodaeth â'r garfan ehangach o fyfyrwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu a gymerir o ganlyniad i adborth myfyrwyr yn berthnasol, yn amserol ac yn cynnal y dialog rhwng staff a myfyrwyr.
3.1.4
Bydd disgwyl i Gydlynwyr Modiwlau gyflwyno adborth ar fodiwlau gan ddefnyddio un o'r llwybrau a amlinellir isod neu’r ddau ohonynt:
- Defnyddio'r cwestiynau safonol ar gyfer adborth ar fodiwl yn Canvas. Ceir canllawiau ar hyn yma: Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr
- Defnyddio dulliau amgen i gael adborth gan fyfyrwyr, er enghraifft: arolygon, polau piniwn, stopio/dechrau/parhau, fforymau trafod neu weithgareddau yn y dosbarth. Ceir canllawiau ac astudiaethau achos yma: Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr.
Ceir tabl sy'n dangos y Rolau a'r Cyfrifoldebau yn adran 4, isod.
3.2 Dadansoddi, Monitro a Gwella
3.2.1
Mae'r defnydd o ddata adborth myfyrwyr a'i ddosbarthu'n gyfyngedig i ddibenion gwella mewnol yn y brifysgol.
3.2.2
Dylai adborth myfyrwyr bob amser aros yn gyfrinachol a chael ei rannu ag aelodau perthnasol o staff yn unig. Dylid defnyddio'r cwestiynau safonol i gael adborth ar fodiwl a ddarperir yn Canvas yn ddienw. Ceir canllawiau ynghylch sut i wneud hyn yma: Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr
3.2.3
Wrth ddadansoddi adborth myfyrwyr, gall fod yn ddefnyddiol croesgyfeirio â ffynonellau eraill fel ARQUE ac arsylwi ar gymheiriaid. Mae'n bwysig nodi hefyd fod adborth ar fodiwl yn un ffordd yn unig o gael adborth myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn cynnig cyfres o gyfleoedd adborth i fyfyrwyr a fydd yn cyd-gysylltu â'i gilydd. Wrth i'r ffynonellau a'r cyfleoedd hyn i roi adborth greu darlun o brofiad y myfyriwr, gallant hefyd nodi meysydd ymarfer effeithiol, bylchau mewn darpariaeth a meysydd i’w gwella.
Gall data adborth ar fodiwl gynnwys ymatebion meintiol ac ansoddol. Pan fo angen, dylai Cyfarwyddwr y Rhaglen a Chydlynydd y Modiwl gael mynediad at yr holl ddata meintiol ac ansoddol. Dylid cyfyngu data a rennir rhwng aelodau staff o fewn modiwl i ddata meintiol; dim ond yn ôl disgresiwn Cydlynydd y Modiwl y dylid rhannu sylwadau myfyrwyr mewn modd sensitif â staff perthnasol.
Ceir tabl sy'n dangos y Rolau a'r Cyfrifoldebau yn adran 4, isod.
3.3 Cau'r cylch adborth
3.3.1
Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o bwrpas eu hadborth, sut y bydd eu hadborth yn cael ei ddefnyddio a chanlyniad eu hadborth. Mae hyn yn helpu i gefnogi ymagwedd dialog parhaus at adborth myfyrwyr a chau'r cylch adborth.
3.3.2
Mae tryloywder yn allweddol wrth gau'r ddolen adborth; disgwylir y bydd staff yn crynhoi adborth a'r camau gweithredu sy'n deillio o hynny gyda myfyrwyr, gan ddarparu diweddariadau parhaus ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu ac, yn bwysig, drafod â myfyrwyr pam na ellir gweithredu ar rai mathau o adborth a pham.
Gellir dod o hyd i drosolwg, canllawiau ac enghreifftiau ar gau'r cylch adborth gyda myfyrwyr yn y Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr.
3.4 Hyfforddiant a Chymorth
3.4.1
Mae cymorth a hyfforddiant pwrpasol ar gael ar gais drwy e-bostio modulefeedback@abertawe.ac.uk
Gellir dod o hyd i ganllawiau, astudiaethau achos ac adnoddau i'w defnyddio gyda myfyrwyr yn y Pecyn Cymorth Adborth Myfyrwyr.
4. Rolau, Cyfrifoldebau a Mynediad at Ddata
Casglu Adborth gan Fyfyrwyr | Cau'r cylch adborth |
Monitro a Goruchwyliaeth | |
---|---|---|---|
Nodau ac Amcanion |
Cynnig cyfle ystyrlon i fyfyrwyr roi adborth ar adegau allweddol yn y modiwl. |
Rhoi diweddariadau i fyfyrwyr ar newidiadau a wnaed o ganlyniad i'w hadborth ynghyd â newidiadau efallai nad oes modd i chi eu gwneud a pham. |
Cael trosolwg clir o adborth myfyrwyr ar draws modiwl, rhaglen ac adran. |
Cwmpas |
Modiwl Unigol |
Modiwl Unigol | Modiwl > Rhaglen > Adran |
Amcanion i'w cyflawni | Darparu o leiaf 1 cyfle i fyfyrwyr roi adborth fesul tymor modiwl. |
Dialog parhaus gyda myfyrwyr ynghylch newidiadau, camau gweithredu a gwelliannau. |
Profiad cyson i fyfyrwyr ar draws rhaglen neu adran wrth ddarparu adborth, cynllunio gweithredu tryloyw a chau'r ddolen adborth yn glir. |
Rolau a Chyfrifoldebau |
Staff y Modiwl – datblygu a hyrwyddo cyfleoedd i roi adborth Cynrychiolwyr Myfyrwyr – hyrwyddo cyfleoedd i roi adborth Myfyrwyr – achub ar gyfleoedd i roi adborth |
Staff y Modiwl – cau'r ddolen adborth gyda myfyrwyr yn glir Cynrychiolwyr Myfyrwyr – rhannu a hyrwyddo gwybodaeth gan staff wrth gau'r ddolen adborth Myfyrwyr – ymateb i gyfathrebu gan staff wrth gau'r ddolen adborth |
Staff y Modiwl – trosolwg clir o'r holl adborth gan fyfyrwyr ar fodiwl a sut mae staff wedi cau'r ddolen adborth Cyfarwyddwr y Rhaglen/Tiwtoriaid Blwyddyn/Penaethiaid Blwyddyn – trosolwg clir o adborth myfyrwyr ar draws yr holl fodiwlau perthnasol drwy Fyrddau Astudio Pennaeth yr Adran – trosolwg clir o adborth myfyrwyr ar draws yr holl raglenni perthnasol drwy adroddiadau Byrddau Astudio Deon Cysylltiol Addysg Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Addysg (Ansawdd a Safonau) Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) – trosolwg o adborth myfyrwyr drwy adrodd ym Mhwyllgorau Addysg Cyfadrannau, y Bwrdd Gwella Addysg a Phwyllgor Addysg y Brifysgol |