Polisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd a Chynnwys
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd a Chynnwys
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
1. Cefndir
1.1
Mae'r ddogfen hon yn nodi polisi'r Brifysgol ar recordio darlithoedd, gweithgareddau dysgu mewn grŵp a chynnwys arall.
1.2
Llywir y polisi hwn gan dreialon ac arfer dilynol gan ddefnyddio meddalwedd eStream i recordio darlithoedd yn y Brifysgol, yn ogystal ag achosion o ffilmio darlithoedd gan dechnegwyr y cyfryngau a’r gwasanaethau clyweledol a'u darparu i fyfyrwyr drwy'r gwasanaeth cyfryngau eStream. Mae adborth gan staff a myfyrwyr ar y ddau fath o recordio yn gadarnhaol ac yn croesawu'r cyfleuster i recordio sesiynau a addysgir a'u gwylio. Ym Mhrifysgol Abertawe ac ym mhob rhan o'r sector, mae'r galw am recordio rhagor o weithgareddau dysgu a'u darparu i fyfyrwyr bellach yn fwy amlwg o ganlyniad i'r newid i ddulliau cyflwyno a dysgu cyfunol pan fo'n briodol i amgylchiadau ac a ategir gan ymchwil addysgegol.
1.3
Mae'r myfyrwyr eu hunain yn recordio rhai gweithgareddau dysgu drwy ddefnyddio dictaffonau, dyfeisiau symudol eraill, neu mae'r Swyddfa Anableddau'n eu recordio ar eu rhan, yn ogystal â'r dulliau a ddisgrifir uchod.
1.4
Ar ôl ymgynghori â staff a myfyrwyr, mae'r Brifysgol wedi rhoi cyfleuster hunanrecordio ar waith sy'n defnyddio meddalwedd Panopto ac yn galluogi staff i recordio ffrydiau fideo a ffrydiau sain ar eu gliniadur neu eu cyfrifiadur personol pan fyddant yn bell o fyfyrwyr i'w cyflwyno drwy amgylchedd dysgu rhithwir â chymorth y Brifysgol.
1.5
Mae staff y Brifysgol yn gallu recordio'r sain a'r brif sgrîn gyflwyno, yn yr holl fannau addysgu a reolir yn ganolog ar y campysau, gan ddefnyddio'r un feddalwedd Panopto. Mewn rhai mannau addysgu, ychwanegwyd camera fel y gall y darlithydd recordio ei hun yn ogystal â ffynonellau eraill.
1.6
Ar ben hynny, gellir defnyddio cynhyrchion eraill a gefnogir gan y Brifysgol i wneud recordiadau, gan gynnwys Canvas Studio a Zoom. Gellir defnyddio Zoom i drefnu a chynnal gweminarau a chyfarfodydd, y mae modd eu recordio hefyd.
1.7
Mae manteision addysgol recordio gweithgareddau dysgu'n darparu adnodd defnyddiol i fyfyrwyr a gellir eu defnyddio fel a ganlyn, yn ogystal â mewn llawer o ffyrdd eraill:
- Darparu cymorth crynodeb at ddibenion ail-wylio, myfyrio ac adolygu;
- Cynorthwyo myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf;
- Cynorthwyo myfyrwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol o ganlyniad i salwch neu gyfrifoldebau gofalu;
- Cynorthwyo myfyrwyr ag anghenion addysgol penodol.
1.8
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y canlynol:
- Nid yw'n addas recordio pob gweithgaredd dysgu, e.e. os defnyddir byrddau gwyn, arddangosiadau ac ati neu os bydd llawer o ryngweithio â'r gynulleidfa;
- Gall newid arddull addysgu a ffefrir mewn modiwl at ddiben recordio fod yn anfanteisiol i brofiad y myfyrwyr;
- Gall materion moesegol, neu'r defnydd o ddeunydd sensitif, olygu ei bod hi'n amhriodol recordio sesiwn benodol;
- Caiff darlithoedd eu recordio er mwyn cyfoethogi profiad myfyrwyr; nid yw'n disodli presenoldeb a chyfranogiad.
2. Polisi
2.1
Mae recordio darlithoedd, gweithgareddau dysgu mewn grŵp a chynnwys arall yn wasanaeth optio allan. Disgwylir i bob aelod o staff ddefnyddio'r Gwasanaeth Recordio Darlithoedd a Chynnwys a ddarperir gan y Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ac eithrio dan yr amgylchiadau a nodir yn 2.4 isod.
2.2
Rhaid i'r penderfyniad i beidio â recordio rhywbeth yn unol â 2.1 gael ei wneud ar lefel y rhaglen er mwyn sicrhau ymagwedd gyson ac y caiff strategaeth glir ei chyfleu i'r myfyrwyr. Os bydd aelod staff unigol yn ystyried bod darlith neu weithgaredd dysgu mewn grŵp yn anaddas i'w recordio, dylid trafod y mater a chytuno arno â Chyfarwyddwr y Rhaglen neu Bennaeth yr Adran. Dylid rhoi gwybod i'r myfyrwyr am y penderfyniad a'r rheswm drosto ar ddechrau'r flwyddyn academaidd a dylid sicrhau bod deunyddiau dysgu ar gael i'r myfyrwyr mewn fformat gwahanol i gefnogi eu dysgu. Dylid cadw cofnod o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, cyfeirio ato wrth adolygu'r modiwl a'r rhaglen at ddibenion sicrhau ansawdd, ac adrodd amdano drwy bwyllgorau perthnasol y gyfadran. Dylid ceisio adborth gan fyfyrwyr a myfyrio arno.
2.3
Yn ystod y flwyddyn academaidd, dylai'r aelod staff geisio cytundeb Cyfarwyddwr y Rhaglen ar unrhyw benderfyniadau i recordio darlithoedd penodol neu weithgareddau dysgu eraill ai peidio (dylai Cyfarwyddwr y Rhaglen adrodd am y penderfyniad hwnnw i Bennaeth yr Adran) a rhoi gwybod i'r myfyrwyr am y penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto. Dylai deunyddiau dysgu fod ar gael i'r myfyrwyr mewn fformat gwahanol i gefnogi eu dysgu. Dylid cadw cofnod o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, cyfeirio ato wrth adolygu'r modiwl a'r rhaglen at ddibenion sicrhau ansawdd, ac adrodd amdano drwy bwyllgorau perthnasol y gyfadran. Dylid ceisio adborth gan fyfyrwyr a myfyrio arno.
2.4
Dyma rai o’r rhesymau pam na fydd yn addas recordio darlithoedd neu weithgareddau dysgu mewn grŵp:
2.4.1
lle cyflwynir sesiwn mewn ffordd sy'n ei gwneud yn anaddas ei recordio;
2.4.2
lle mae trafodaeth neu weithgareddau'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol, neu maent yn sensitif yn fasnachol neu'n wleidyddol;
2.4.3
lle byddai eu recordio'n anfanteisiol i brofiad y myfyrwyr;
2.4.4
lle gall fod rhesymau cyfreithiol, moesegol neu breifatrwydd dros beidio â'u recordio;
2.4.5
lle nad oes cyfleuster ar gael i recordio'r gweithgaredd yn y man dysgu.
2.5
Dylai staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu roi gwybod i'r myfyrwyr y bydd yn cael ei recordio. Dylent fod yn bwyllog ac atal recordiad am saib neu ei olygu'n ddiweddarach, er enghraifft os caiff deunydd sensitif ei addysgu neu os ystyrir bod recordio'n ymyrryd ag addysgu rhyngweithiol.
2.6
Mae Prifysgol Abertawe'n disgwyl i staff a myfyrwyr gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth hawlfraint berthnasol yn y DU ac Ewrop. Dylai staff sicrhau bod ganddynt y caniatâd hawlfraint priodol i ddefnyddio unrhyw ddeunydd a drafodir yn y recordiad. Mae rhagor o gyngor ar gael drwy openaccess@abertawe.ac.uk a cheir arweiniad yn https://libguides.swansea.ac.uk/Hawlfraint.
2.7
Dylai recordiadau fod ar gael i'r myfyrwyr hynny sydd wedi cofrestru ar y cwrs yn unig, oni bai fod y staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu'n cytuno i'r gwrthwyneb.
2.8
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb mynediad, gall myfyrwyr lawrlwytho recordiadau at eu defnydd personol. Mae modd i staff atal y cyfleuster lawrlwytho, pe baent am ganiatáu mynediad ar-lein yn unig.
2.9
Bydd unrhyw ddefnydd arall o recordiad ac eithrio defnydd personol myfyriwr mewn perthynas â'i astudiaethau neu achos o ddosbarthu recordiad, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, heb awdurdod, yn cael ei ystyried yn groes i'r Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol a bydd yn destun camau disgyblu.
2.10
Ni chaniateir i unrhyw weithgaredd dysgu gael ei recordio'n gudd a chaiff ei drin fel mater disgyblu.
2.11
Efallai y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i recordio gweithgareddau dysgu ar ffurf sain at ddibenion astudio pan na fydd unrhyw recordiadau swyddogol ar gael. Er mwyn caniatáu hyn, rhaid i'r myfyriwr ofyn i'r aelod(au) staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu am ganiatâd ymlaen llaw. Fodd bynnag, bydd yr aelod(au) staff sy'n cyflwyno'r gweithgaredd dysgu'n penderfynu a ddylid caniatáu iddo gael ei recordio ai peidio.
2.12
Rhaid i unrhyw recordiad cymeradwy gan fyfyriwr gael ei ddileu cyn gynted ag y bydd ei gyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol yn dod i ben. Bydd pob recordiad yn destun y polisi hwn.
2.13
Ni ddefnyddir recordiadau ar gyfer adolygiadau datblygiad proffesiynol staff nac at ddibenion dyrchafu staff oni bai fod yr aelod staff dan sylw'n penderfynu eu defnyddio.
3. Cynnwys Recordiadau
3.1
Dylai staff sy'n recordio deunydd fod yn ymwybodol o'r ffynonellau sain/fideo/ysgrifenedig sy'n cael eu cynnwys yn ddiofyn ym mhob recordiad. Mae hyn yn bwysig wrth ystyried y materion y cyfeirir atynt yn 2.4 uchod.
3.2
Gall recordiadau Panopto gynnwys:
3.2.1
synau sydd o fewn cyrraedd y microffon; llais y darlithydd yn bennaf, ond gall gynnwys lleisiau a synau eraill;
3.2.2
deunydd a rennir ar y sgrîn;
3.2.3
fideo o'r darlithydd ac eraill a gaiff ei recordio pan fyddant yn agos at y ddarllenfa;
3.2.4
trawsgrifiad o'r sain.
3.3
Gall recordiadau Zoom gynnwys:
3.3.1
synau sydd o fewn cyrraedd y microffon; llais y darlithydd, ac unrhyw un arall sy'n siarad mewn cyfarfod, yn ogystal â synau cefndirol eraill sydd i'w clywed pan gaiff microffonau eu troi ymlaen;
3.3.2
deunydd a rennir ar y sgrîn;
3.3.3
fideo o'r darlithydd a phawb arall sy'n ymddangos ar y sgrîn;
3.3.4
trawsgrifiad o'r sain;
3.3.5
trawsgrifiad o negeseuon sgwrsio.
4. Recordio ac Anableddau
4.1
Ni fydd y polisi hwn yn effeithio ar y trefniadau presennol ar gyfer myfyrwyr anabl mewn perthynas â gweithgaredd dysgu.
5. Eiddo Deallusol
5.1
Mae recordiadau a wneir gan ddefnyddio'r feddalwedd yn destun polisi presennol y Brifysgol ar eiddo deallusol. Gweler adran 4 Deunyddiau Addysgu a Deunyddiau Academaidd Eraill i gael rhagor o wybodaeth: Polisi Eiddo Deallusol Prifysgol Abertawe.
6. Diogelu Data
6.1
Os ydych chi’n recordio unigolion, gall materion diogelu data fod yn berthnasol. Gellir ystyried bod lluniau o unigolion yn ddata personol os oes modd adnabod yr unigolion. Felly, bydd yn rhaid i’r Brifysgol sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd).
6.2
Er mwyn prosesu data personol, a fyddai’n cynnwys golygu, storio a/neu ddosbarthu’r fideo os yw’n cynnwys data personol, mae angen cydsyniad gan wrthrych y data. Felly, mae'n bwysig hysbysu unrhyw gynulleidfa y bydd y ddarlith yn cael ei ffilmio a’i gwneud hi’n glir y byddant yn cael eu ffilmio.
6.3
Ni fydd y cyfleuster recordio darlith a ddefnyddir o reidrwydd yn recordio'r gynulleidfa. Os oes posibilrwydd y bydd aelodau'r gynulleidfa'n cael eu ffilmio, dylid eu hysbysu ar lafar, drwy hysbysiadau ysgrifenedig penodol a/neu hysbysiadau mewn mannau amlwg.
7. Cadw Data
7.1
Pan fydd cyfnod arholiadau atodol y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, bydd yr holl recordiadau o ddarlithoedd yn cael eu dileu o’r system. Cyfrifoldeb y rhai sy’n creu’r cynnwys fydd hysbysu Tîm Cymorth Clyweledol Prifysgol Abertawe bod angen i'w recordiadau barhau i fod ar gael o un flwyddyn academaidd i’r flwyddyn nesaf.
7.2
Os na fydd recordiadau'n cael eu dileu ar ddiwedd y cyfnod arholiadau atodol, dylid cael cydsyniad unigolion y gellir eu hadnabod yn y recordiadau.