'Fy Atgofion o'r Gwyliau'

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas eleni, sy'n cael ei ddathlu ar 14 Mai bob blwyddyn, mae ein rhaglen addysg ac ysgolion, DylanED, yn gwahodd ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.

Mae'r gystadleuaeth - "Fy Atgofion o'r Gwyliau” -  yn seiliedig ar raglen radio Dylan Thomas o 1946, Holiday Memory - atgof Dylan Thomas o olygfeydd a seiniau gwyliau banc heulog gyda'i deulu ar flaendraeth bywiog Abertawe pan oedd yn fachgen bach.

Gan ddilyn yn ôl traed ysgrifennwr a storïwr enwocaf Abertawe, bydd y gystadleuaeth yn gwahodd disgyblion rhwng 8 ac 11 oed i gyflwyno stori fer (100 o eiriau), cerdd neu lun o'u hatgofion mwyaf melys o'r gwyliau.

*Rhaid i'r holl geisiadau gael eu cyflwyno drwy athro/ysgol y plentyn.

Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn bag llawn pethau da a thystysgrif. Bydd ceisiadau dethol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein i ddathlu 'Diwrnod Dylan'.

Dylid cyflwyno ceisiadau'n electronig erbyn dydd Gwener 2 Mai 2025 i cultural-institute@abertawe.ac.uk dan y teitl ‘Fy Atgofion o'r Gwyliau'

Lawrlwythwch y ffurflen gais

Delwedd gan Jeff Phillips Art

Delwedd gan Jeff Phillips Art