
Roedd enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, Yasmin Zaher, ar Lwyfan y Ddôl yr ŵyl yn siarad am ei nofel gyntaf anhygoel The Coin mewn sgwrs ddiddorol gyda chyfarwyddwr ac awdur y Wobr, Elaine Canning.
Clywodd cynulleidfa brynhawn Iau y newyddiadurwraig a’r awdures o Balesteina yn siarad am ei magwraeth, ei thaith i ysgrifennu, yr ysbrydoliaethau sy’n sail i The Coin, beth mae’n ei olygu i ennill gwobr lenyddol Gwobr Dylan Thomas 2025, a mwy.

Yn gynharach yn y dydd, cymerodd Zaher a Canning ran yn rhaglen datblygu creadigol yr ŵyl ‘Awduron wrth eu Gwaith’ ar gyfer talent newydd o Gymru.
Gan gynnig deg niwrnod llawn o gyfleoedd datblygu creadigol, mae ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli yn caniatáu i’r awduron a ddewiswyd gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Ŵyl, mynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantau ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.