GYRFAOEDD HEB DANWYDDAU FFOSIL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Cynhaliodd Dr Anna Pigott a rhai myfyrwyr Daearyddiaeth o Abertawe ymgyrch dros yrfaoedd heb danwyddau ffosil yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddent yn llwyddiannus (y rhan fwyaf ohonynt!). Abertawe yw'r brifysgol fwyaf yn y DU hyd yn hyn i ymrwymo i yrfaoedd heb danwyddau ffosil. 

Ysgrifennodd Anna am y cyhoeddiad yn Times Higher Education, yng nghyd-destun y newyddion diweddar o Bort Talbot am ddatgarboneiddio. Nid yw'r erthygl fer yn trafod holl gymhlethdodau'r sefyllfa (h.y. diweithdra torfol, cyflenwad dur y DU, y posibilrwydd o drosglwyddo allyriadau carbon i gynhyrchu dur yn rhywle arall...), ond mae'n cydnabod ei bod yn hanfodol pontio'n deg i ddyfodol heb danwyddau ffosil, a rheoli'r gwaith hwn.

Meddai Anna: ‘Roedd hi'n wych cymryd rhan yn yr ymgyrch gyda myfyrwyr mor frwd – uchafbwynt addysgu pendant.’

Mae llawer o lwyddiant yr ymgyrch yn ddyledus i Teifion a'r tîm cynaliadwyedd, ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe, hefyd!

Strategaethau Ymaddasu i'r Hinsawdd sy'n Llywio Gwydnwch Cacti

Yn ddiweddar, bu Dr Tegwen Malik yn cyfrannu at erthygl yn y National Geographic (The surprising tricks cacti use to survive the harshest climates on Earth) gan archwilio sut gall gwydnwch cacti lywio strategaethau ymaddasu i'r hinsawdd.

Mae ei gwaith ymchwil, sydd wedi'i wreiddio mewn bioddynwarededd, yn archwilio sut gall planhigion y diffeithdir ddal a storio dŵr, gan gynnig atebion posib ar gyfer rheoli dŵr mewn ffordd gynaliadwy mewn rhanbarthau cras neu letgras.   O ystyried natur ddybryd gynyddol newid yn yr hinsawdd, mae ei gwaith yn cyfrannu at faes cynyddol o arloesi sydd wedi'i ysbrydoli gan natur.

Meddai Tegwen: "gall y ffordd y mae natur wedi esblygu i ffynnu mewn amodau eithafol ein helpu i ddatblygu technolegau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol".

Mae ei gwaith yn cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd byd-eang ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Prifysgol Abertawe i gynnal gwaith ymchwil ar yr hinsawdd sy'n cael effaith.