Mae ein tîm yn cynnwys aelodau o Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a phob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru. Gyda'n gilydd, rydym yn creu rhwydwaith amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, ond sydd hefyd â phrofiad yn y maes drwy addysgu mewn ysgolion, hyfforddi gweithgareddau awyr agored a gweithredu strategaethau gweithgarwch corfforol.
Yn ôl i’r dudalen hafanDewch i gwrdd â thîm WIPAHS
Dewch i gwrdd â’n Bwrdd Rheoli Strategol
Yr Athro Kelly Mackintosh - Prifysgol Abertawe
Kelly Mackintosh yn arwain Grŵp Ymchwil Ymarfer, Meddygaeth ac Iechyd Prifysgol Abertawe a hi yw Cyd-Gadeirydd Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS). Mae hi wedi bod yn aelod o liaws o weithgorau Prif Swyddogion Meddygol, gweithgarwch corfforol ac arbenigwyr iechyd ac mae hi â diddordeb penodol mewn canlyniadau iechyd yn y tymor hir. Mae Kelly yn arbenigo mewn asesu a hyrwyddo gweithgarwch corfforol ar draws sbectrwm a rhawd bywyd iechyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar blant a phobl yn eu harddegau. Mae llawer o’i gwaith yn defnyddio technoleg ac yn cwmpasu ffyrdd newydd o ddelweddu gweithgarwch corfforol megis argraffu 3D a sgiliau symud sylfaenol i helpu dealltwriaeth unigolion, a phobl arwyddocaol eraill. Ymhlith y strategaethau ymyrraeth y mae hyfforddiant seibiannol sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ac yn ddwysedd uchel, ac mae pwyslais allweddol ar werthuso’r rhain yn briodol.
Yr Athro Melitta McNarry - Prifysgol Abertawe
Mae Melitta yn arbenigo mewn ffitrwydd cardioresbiradol ar draws rhawd bywyd iechyd a ffitrwydd ac mae hi â diddordeb penodol mewn poblogaethau paediatrig a chlinigol a gwerthuso ymyraethau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd. Mae ei gwaith yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddatblygu ymyraethau megis delweddu gweithgarwch corfforol gan ddefnyddio gwrthrychau diriaethol, a hyfforddiant cyhyrau mewnanadlol a seibiannol dwysedd uchel ar gyfer pobl sy’n dioddef o asthma, ffibrosis cystig a bronciectasis. Mae Melitta hefyd â diddordeb yn effaith ryngweithiol hyfforddiant ac aeddfedrwydd ar ymatebion bioegnïol plant a phobl yn eu harddegau. Mae’r gwaith hwn wedi ymestyn yn ddiweddar i ystyried datblygiad cymwyseddau sgiliau yn ystod plentyndod a dylanwad prosesau cysylltiedig twf ac aeddfedu ar ddatblygiad y fath sgiliau ac atal anafiadau.
Owen Hathway - Chwaraeon Cymru
Owen Hathway yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru. Yn y rôl hon mae Owen yn goruchwylio dealltwriaeth, polisi, materion cyhoeddus a gwaith buddsoddi'r sefydliad. Mae ystod y gwaith hwn, sy'n cynnwys buddsoddi cymunedol ar y lefel leol ac eirioli dros newidiadau mewn polisi a rhoi tystiolaeth i lywodraeth genedlaethol, yn gofalu bod gan Owen gryn ddealltwriaeth o fyd chwaraeon. Cyn ymuno â Chwaraeon Cymru, arweiniodd Owen waith cyfathrebu a pholisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, gan ddatblygu cefndir mewn polisi addysg. Cyn hynny ef oedd Pennaeth Cyfathrebu Plaid Cymru yn ystod cyfnod y blaid mewn llywodraeth.
Dewch i gwrdd â’n Harweinwyr Ymchwil
Yr Athro Di Crone - Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Athro mewn Ymarfer Corff ac Iechyd a Chyfarwyddwraig Canolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd (a fydd yn cael ei lansio’n fuan) yw Diane. Ei harbenigedd yw llunio, cyflawni a gwerthuso ymyraethau hyrwyddo iechyd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd. Mae hi wedi cyhoeddi’n rhyngwladol ym maes gwerthuso cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff, hyrwyddo iechyd meddwl, celfyddydau ar gyfer iechyd ac mewn gwerthusiadau o ymyraethau llwybrau i ymarfer corfforol. Mae hi wedi cyflwyno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar y pynciau hyn yn Saesneg ac yn Sbaeneg. Bydd hi’n gwneud llawer o’i gwaith gyda gweithwyr proffesiynol iechyd yn y GIG a chyda swyddogion llywodraeth ranbarthol a lleol yn y DU a’r UE. O ganlyniad mae ei gwaith yn enwedig o berthnasol i ymarfer ac mae’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd i ddatblygu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hi’n aelod o Sefydliad Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus.
Bydd Diane yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn triathlonau gwib, cynghrair tenis, beicio mynydd a ffordd yn ogystal â sgïo, a hynny’n gystadleuol neu fel difyrrwch. Gynt bu’n athletwraig lwyddiannus ar y lefel sirol a rhanbarthol wrth chwarae pêl-droed, badminton a thaflu’r waywffon.
Yr Athro Gareth Stratton - Prifysgol Abertawe
Mae'r Athro Gareth Stratton yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, yn Athro'r Gwyddorau Ymarfer Corff Pediatrig ac yn arweinydd y thema iechyd a lles yn Sefydliad Awen ar gyfer pobl hŷn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Stratton hefyd yn gweithredu fel arbenigwr arweiniol mewn gweithgarwch corfforol pwyllgor cynghori ar safonau ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer gordewdra plentyndod ac yn gadeirydd canllaw iechyd cyhoeddus 17 (PH17) ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol i blant a theuluoedd. Mae'r Athro Stratton yn arbenigwr ymgynghorol ar arweiniad gweithgarwch corfforol y Prif Swyddogion Meddygol a grwpiau goruchwylio gweithgarwch corfforol y DU ac roedd yn gynrychiolydd Ewropeaidd ar ganllawiau symudiad 24 awr ar gyfer plant yng Nghanada. Yng Nghymru, Gareth oedd sefydlydd Rhwydwaith Plant Egnïol Iach Cymru yn 2014, ef yw arweinydd y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar y Rhwydwaith Ymchwil Gardiofasgwlaidd Cenedlaethol a chynrychiolydd sefydliadol Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru.
Mae gan Gareth ddau brif faes ymchwil, sef plant yn aeddfedu a gweithgarwch corfforol, ffitrwydd ac iechyd ar hyd bywyd. Mae wedi bod yn rhan o astudiaethau mesur gweithgarwch corfforol am dri degawd ac mae'n parhau â'i ddiddordeb yn natblygiad technolegau a dadansoddeg synhwyro newydd i ganfod ac ysgogi newidiadau mewn gweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddog. Mae ymchwil ryngddisgyblaethol bresennol Gareth yn ymchwilio i’r rhyngweithiad rhwng yr amgylcheddau diriaethol a chymdeithasol ar ansawdd a lefel symudiad. Gan weithio gyda pheirianwyr, gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, mae wedi ariannu prosiectau yng Nghenia (yr Academi Brydeinig), Nigeria (GCRF) ac Awstralia (MRC-NHMRC), lle mae'n parhau â'i rôl fel Athro Cyfnod Penodol ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia.
Derbyniodd Gareth wobr Grŵp Gordewdra Plentyndod Ewrop (2011), am ei waith ar raglen Sportslinx, gwobr arloesi'r Nursing Times am y rhaglen Liveability ar gyfer pobl hŷn (2011) a gwobr ymchwil BASES (2004) am ei waith ar feysydd chwarae sy’n hybu iechyd. Mae gan Gareth gymrodoriaethau gyda BASES, ECSS, RSA ac ef yw'r gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff cyntaf i gael ei benodi’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dr Jamie Macdonald - Prifysgol Bangor
Wedi iddo raddio â gradd mewn Gwyddor Chwaraeon a gweithio’n llawrydd fel Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored am nifer o flynyddoedd, dychwelodd Jamie i’r brifysgol i gwblhau ei ddoethuriaeth mewn ffisioleg ymarfer clinigol. Bellach ef yw Pennaeth Ysgol yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff? ym Mhrifysgol Bangor (https://www.bangor.ac.uk/sport-health-and-exercise-sciences/index.php.cy). Mae’r rôl hon yn cynnwys cefnogi tîm o academwyr, technegwyr, gweinyddwyr a myfyrwyr i gyflawni’u cenhadaeth, sef ‘Arwain dyfodol chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a gwyddor perfformiad dynol’.
Mae gwaith Jamie mewn ffisioleg ymarfer clinigol yn enwedig o berthnasol i fy rôl yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru. Mae ganddo fe gontract er anrhydedd gyda’i Fwrdd Iechyd Lleol ac mae’n arwain rhaglen adsefydlu ac ymchwil i ymarfer corff yn sgil clefyd yr arennau ar gyfer Uned Arennol Ysbyty Gwynedd. Mae Jamie o’r farn bod gweithio gyda’r boblogaeth hon yn un sy’n rhoi boddhad ond yn un heriol gan fod y cleifion hyn yn dioddef o gyflyrau cyd-glefydol niferus sy’n gosod llawer o rwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Mae’r gwaith hwn wedi rhoi’r profiad a’r hyder i Jamie hwyluso newidiadau mewn ymddygiad a gwella cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ar draws nifer o boblogaethau a lleoliadau iechyd cyhoeddus.
Ar hyn o bryd mae Jamie yn cymryd rhan mewn dwy astudiaeth ymchwil a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd, sef PEDAL a BISTRO, a dau brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru/Chwaraeon Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy’r Gronfa Iach ac Egnïol. Mae’r astudiaethau hyn wedi rhoi cipolwg i Jamie ar sgiliau rheoli prosiectau a chyllidebau yn y sector iechyd. Ac yntau’n Gadeirydd Grŵp Astudiaeth Glinigol ar Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw Ymchwil yr Arennau’r DU, ac fel aelod o Uned Ymchwil Arennau Cymru a Grŵp Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Lles Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru, mae Jamie wedi dysgu sgiliau eirioli a chyfathrebu sy’n ei alluogi i weithio ar y cyd â nifer o randdeiliaid ym maes iechyd cyhoeddus a negodi gyda nhw.
Dull athronyddol cyffredinol Jamie yw defnyddio model arbenigedd cyfartal, sef ymgysylltu â rhanddeiliaid, cleifion a’r cyhoedd i ddatblygu ar y cyd ymchwil a gweithgareddau trawiadau ym maes gweithgarwch corfforol. Mae Jamie yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r dull hwn yn ei waith gyda Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, yn enwedig wrth iddo ddatblygu ei weithgarwch yng ngogledd Cymru.
Paul Rainer - Prifysgol De Cymru
Paul Rainer yw rheolwr academaidd Hyfforddi Chwaraeon a Chwaraeon Prifysgol De Cymru. Yn ei rôl mae Paul yn datblygu ac yn rheoli’r maes pwnc yn ogystal â bod yn gyfrifol am lunio’r cwricwlwm a phartneriaethau strategol. Ei gefndir yw Addysg Gorfforol a chyfranogiad pobl ifanc mewn gweithgarwch corfforol ac mae ei broffil ymchwil yn cynnwys; sgiliau symud sylfaenol, llythrennedd corfforol ac addysg gorfforol. Mae ei brosiectau cyfredol yn ymwneud â rôl athrawon addysg gorfforol cynradd ac uwchradd wrth gefnogi plant ifanc wrth iddyn nhw newid rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, ac effaith hyn ar sgiliau symud sylfaenol a gweithgarwch corfforol.
Dr Liba Sheeran - Prifysgol Caerdydd
Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Arweinydd Themau Ymchwil ar gyfer Iechyd Poblogaethau Prifysgol Caerdydd yw Dr Liba Sheeran. Mae hi hefyd yn Ffisiotherapydd Ymgynghorol yn Athletau Cymru lle mae’n gweithio gydag athletwyr a ariennir gan Athletau’r Gymanwlad a Phrydain. Ei harbenigedd yw datblygu ymyraethau arloesol i helpu pobl sy’n dioddef o anhwylderau cyhyrysgerbydol (MSD) i barhau’n weithgar drwy wneud ymarfer corff. Prif ddiddordeb Liba yw rheoli poen yng ngwaelod y cefn ac anafiadau i’r cefn mewn chwaraeon a lleoliadau galwedigaethol. Roedd ei Chymrodoriaeth Ôl-ddoethuriaethol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymchwilio i ba mor ddefnyddiol yw synwyryddion y mae modd eu gwisgo ac olrhain drwy fideo ar gyfer asesiadau ergonomaidd ac adborth ymarferion yn seiliedig ar y gwaith. Roedd hi’n arwain ar brosiect Cronfa Heriau Iechyd Llywodraeth y DU sy’n ymwneud â datblygu a gweithredu’n gyflym lwyfan digidol o’r enw BACK-on-LINETM sy’n helpu pobl â phoen cefn i aros yn y gwaith drwy hunanreolaeth wedi’i phersonoli. Mae Liba wedi meithrin prosiectau cydweithredu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar draws gwledydd a disgyblaethau gwahanol gyda’r bwriad o lunio ymyraethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i atal datblygiad MSDau yn gyflyrau cronig sy’n creu anableddau ac yn cwtogi bywyd. Mae hi’n siarad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn cynnal gweithdai gan diwtoriaid arbenigol ar sut i reoli poen gymhleth yng ngwaelod y cefn.
Dr Rhys Thatcher - Prifysgol Aberystwyth
Cafodd Rhys radd BSc (Anrh) mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Teesside ym 1996 cyn ymgymryd ag MSc ym Mhrifysgol Loughborough. Yn dilyn ei MSc dychwelodd i Brifysgol Teesside i ddechrau gwaith ar ddoethuriaeth a oedd yn ymchwilio i effaith chwarae gemau pêl-droed ar y system imiwnedd. Yn ystod yr amser hwn rhoddodd Rhys gefnogaeth Gwyddor Chwaraeon i Glwb Pêl-droed Middlesborough cyn mynd i ddarlithio mewn Ffisioleg Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Teesside. Yn dilyn cwblhau ei ddoethuriaeth yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2001 symudodd i Brifysgol Kingston cyn ymuno â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth o 2007) ym mis Awst 2003. Cymrawd Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) yw Rhys ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch yn ogystal â bod yn Wyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i achredu gan BASES. Mae’n cymryd rhan weithgar mewn ymchwil i rôl deiet ac ymarfer corff wrth atal a rheoli cyflyrau clefydau cronig, gan ymddiddori’n benodol mewn atal datblygiad diabetes. Mae Rhys wedi meithrin prosiectau cydweithredu drwy ymchwil gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Clwstwr Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion, cydweithwyr mewn nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a’r DU yn ogystal â chyda phartneriaid mewn diwydiant. Mae wedi goruchwylio naw myfyriwr PhD a phedwar myfyriwr MPhil hyd nes iddynt gael eu cwblhau, mae ganddo fe fwy na thri deg o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill grantiau gan nifer o ffynonellau.
Bydd Rhys yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn ceisio tynnu lluniau o fywyd gwyllt, yn gwylio neu’n darllen ffuglen wyddonol a ffantasi, yn ogystal â chasglu nwyddau cofiadwy Star Wars.
Dr Nalda Wainright - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Nalda yn angerddol am helpu pobl i symud yn dda a gosod y sylfeini ar gyfer bywyd o weithgarwch corfforol a gwell iechyd meddwl a chorfforol. Mae hi’n arbenigwraig mewn llythrennedd corfforol a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae ganddi hi brofiad helaeth mewn addysg gorfforol. Bu Nalda yn gweithio am 14 mlynedd fel athrawes ysgol gynradd a bu’n ymgynghorydd cyswllt Addysg Gorfforol yn Sir Benfro cyn iddi hi wneud ymchwil ddoethuriaethol i weithrediad cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru a seilir ar chwarae. Mae’r fenter hon yn annog plant i fod yn greadigol, yn ddychmygol ac yn weithgar tra eu bod yn dysgu i wneud addysg yn fwy pleserus ac effeithiol. Roedd Nalda yn canolbwyntio ar rôl addysgeg drwy chwarae wrth ddatblygu llythrennedd corfforol. Roedd canfyddiadau’r ymchwil hon wedi arwain at ddatblygu rhaglen datblygiad proffesiynol SKIP-Cymru sy’n hyfforddi staff i gefnogi datblygiad echddygol, adnoddau MiniMovers sy’n cefnogi ac yn grymuso rhieni a rhaglen Teuluoedd Pêl-droed Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Nalda yw cyfarwyddwraig Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru (WAHPL) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a bu’n rheoli Prosiect Llythrennedd Corfforol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion y wlad. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda lliaws o bartneriaid i gyflawni ymchwil sy’n cael effaith go iawn. Mae Nalda yn hynod ymrwymedig i ddatblygu dulliau cynhwysol sy’n datblygu ac yn cefnogi llythrennedd corfforol, ac mae ei hymchwil ar flaen y gad wrth wneud cynnydd yn y maes hwn. Hi hefyd yw cyfarwyddwraig rhaglen Meistr mewn Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Haf Rhyngwladol ar gyfer Dulliau Ymchwil i Addysg Gorfforol.
Yn ei hamser hamdden, mae Nalda yn mwynhau syrffio, beicio mynydd ac eirafyrddio. Mae hi’n nofio yn y môr yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn triathlonau a digwyddiadau chwaraeon beicio. Mae hi wedi cwblhau Ironman Cymru a’r Marmotte Grandfondo.
Dr Sharon Wheeler - Prifysgol Glyndwr Wrecsam
Dr Sharon Wheeler yw Arweinydd rhaglen y BSc (Anrh) mewn Iechyd Cyhoeddus a Lles a’r MSc mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae hi wedi bod yn darlithio ers mwy na 10 mlynedd, gan ddechrau ym Mhrifysgol Caer ac yna yn symud i Brifysgol Sant Ioan Efrog a Phrifysgol Edge Hill cyn symud i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2019. Gan dynnu’n bennaf ar ddisgyblaethau cymdeithaseg a seicoleg, mae ymchwil, arbenigedd a diddordebau Sharon yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys: datblygu ffyrdd gweithgar o fyw; dull cwrs bywyd o ystyried iechyd corfforol a chymdeithasol ac iechyd meddwl; anghydraddoldebau cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol; teuluoedd, iechyd, addysg a hamdden; a’r cysylltiadau rhwng iechyd a hapusrwydd. Mae hi’n angerddol am ddysgu a’i chenhadaeth yw helpu pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach.
Dewch i gwrdd â’n Cynorthwywyr Ymchwil
Dr James Shelley
Mae James yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS). Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar dreial i ymchwilio i’r defnydd o hyfforddiant cyhyrau mewnanadlol mewn unigolion sy’n adfer yn sgîl COVID-19. Mae ei brif ddiddordeb ymchwil yn cynnwys ffisioleg ymarfer clinigol ac asesu a hyrwyddo gweithgarwch corfforol, yn benodol mewn unigolion sy’n dioddef o ffibrosis cystig, a dyna oedd maes ei ddoethuriaeth a gwblhawyd yn ddiweddar. James hefyd yw Cadeirydd y Rhwydwaith Ffibrosis Cystig ac Ymarfer Corff.
Dr Liezel Hurter
Mae Liezel yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS). Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar astudiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio pennu effeithiau COVID-19 ar lefelau gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant. Mae prif ddiddordeb ymchwil Liezel ym maes gweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddog plant.
Cwrdd â’n harweinwyr themâu strategol
Yr Anthro Nicola Gray - Iechyd a Lles Meddyliol
Mae Nicola yn Athro Seicoleg Fforensig a Chlinigol. Mae hi'n gweithio fel academydd clinigol ym Mhrifysgol Abertawe ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae Nicola yn arbenigo mewn iechyd meddwl a'i effeithiau cadarnhaol a negyddol ar ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys atal ac ymyrryd yn achos risgiau i'r unigolyn drwy ei law ei hun (e.e. atal hunanladdiad a hunan-niwed), a risg i eraill (e.e. trais, cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymddygiad troseddol). Mae Nicola wedi gweithio hefyd ym maes gweithredu a gwerthuso ymyriadau iechyd meddwl yn y gweithle ac mewn ysgolion. Mae Nicola wedi cyhoeddi'n eang mewn sawl maes perthnasol i iechyd meddwl a newid ymddygiadol, gan gynnwys arfer gorau wrth werthuso ac atal risgiau i'r unigolyn drwy ei law ei hun ac i eraill. Mae hi'n ymarferydd-seicolegydd wedi'i chofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn Seicolegydd Clinigol Siartredig, ac yn Seicolegydd Fforensig Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae Nicola yn credu'n gryf yn y dywediad nad oes iechyd heb iechyd meddwl, a phwysigrwydd pwyslais deuol ar benderfynyddion corfforol a meddyliol canlyniadau iechyd. Yn ei hamser hamdden, mae Nicola yn feiciwr brwd ac mae hi'n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad hardd Gŵyr.
Yr Athro Cysylltiol Joanne Hudson - Newid ymddygiad
Mae Joanne yn Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain ac wedi’i chofrestru gyda’r HCPC sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe. Mae hi'n arwain yr is-thema Iechyd a Lles yn Sefydliad Awen, sef cydweithrediad ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae hi'n awdur ac yn olygydd pum testun, mae hi wedi cyhoeddi 58 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ac wedi goruchwylio 12 myfyriwr PhD i gwblhau eu doethuriaethau. Mae Joanne yn arbenigo mewn deall a gwella profiadau oedolion hŷn o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff, ac mewn ffyrdd newydd o ddefnyddio damcaniaeth wrthdro mewn cyd-destunau chwaraeon, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol. Mae ei hymchwil bresennol i oedolion hŷn yn cynnwys partneriaethau â Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Grŵp Tai Pobl a Phrifysgolion Grenoble a Cumbria. Mae'r prosiectau hyn yn archwilio effaith ymyriadau presennol yn y gymuned ar gyfer oedolion hŷn, gan ddatblygu ymyriadau i wella lles corfforol a meddyliol oedolion hŷn, deall canfyddiadau o heneiddio, canfyddiadau o heneiddio yn y dyfodol a rolau pontio a stereoteipiau o oedran mewn perthynas â gweithgarwch corfforol.
Dr Britt Hallingberg - Ffyrdd iach o fyw
Mae Britt Hallinberg yn Ddarlithydd Seicoleg Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle mae hi hefyd yn arwain grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd a Lles y Cyhoedd y Brifysgol, un o brif themâu ymchwil y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CAWR) newydd.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y ffactorau seicolegol a chymdeithasol sy'n dylanwadu ar ymddygiadau iechyd yn y boblogaeth, yn enwedig defnydd o sylweddau (h.y. alcohol, smygu a sigarennau electronig) a gweithgarwch corfforol. Mae hi'n ymddiddori hefyd yn y cyfraniad a wneir gan weithgareddau amser hamdden (e.e. hobïau, grwpiau cymunedol a gweithgareddau allgyrsiol) mewn lleoliadau chwaraeon a lleoliadau eraill at iechyd a lles, mewn ffyrdd cefnogol a niweidiol.
Mae gan Britt arbenigedd ym maes methodoleg datblygu a gwerthuso ymyriadau ac mae hi wedi cyfrannu at ganllawiau ar gynnal astudiaethau dichonoldeb/peilot ac addasu ymyriadau. Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithredu â sefydliadau cymunedol a llunwyr polisi.
Dr Richard Metcalfe - Symud ar gyfer iechyd
Mae Dr Richard Metcalfe yn seicolegydd â diddordebau ymchwil sy'n cwmpasu ffisioleg integreiddiol ymarfer corff a maeth. Mae prif ffocws ei ymchwil ar fuddion iechyd HIIT (hyfforddiant seibiannol dwysedd uchel ac amser-effeithlon). Nod y llinyn ymchwil hwn yw 'optimeiddio' protocolau HIIT ar gyfer poblogaethau eisteddog drwy eu gwneud yn fyrrach ac yn haws, gan gadw'r buddion iechyd cysylltiedig. Mae astudiaethau ar y gweill yn canolbwyntio ar effeithiau HIIT ar ddiabetes math 2 a chanser.
Ar hyn o bryd, mae Richard yn Uwch-ddarlithydd yn y Grŵp Ymchwil Technoleg Chwaraeon Gymhwysol, Ymarfer Corff a Meddygaeth (ASTEM) ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiodd â BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan Brifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin yn 2010 ac aeth ymlaen i gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Caerfaddon (2010-2015) dan oruchwyliaeth Dr Niels Vollaard a'r Athro Dylan Thompson. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2017 ar ôl tair blynedd o weithio fel Darlithydd Ymarfer Corff ac Iechyd ym Mhrifysgol Ulster yng Ngogledd Iwerddon (2014-2017).
Dr Kelly Morgan - Newid ar lefel y boblogaeth
Mae Kelly yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), sef Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
A hithau'n ymchwilydd trawsddisgyblaethol mewn iechyd cyhoeddus, mae ei harbenigedd ym maes gweithgarwch corfforol yn cwmpasu pob oedran â ffocws ar flaenoriaethau canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol. Un o brif nodau ei gwaith yw datblygu dulliau arloesol i asesu tegwch o ran mynediad ymhlith rhaglenni gwella iechyd presennol ledled y DU, gan gynnwys ymagweddau dulliau cymysg ac integreiddio cysylltedd data.
Mae ei phrosiectau presennol yn cynnwys treial dichonoldeb o’r rhaglen CHARMING sef rhaglen modelau rôl a gynhelir mewn ysgol â chysylltiadau â'r gymuned. Ei nodau yw hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith merched cyn llencyndod a dylunio ar y cyd adnoddau newydd ar gyfer mamau beichiog er mwyn eu cefnogi i fod yn hyderus wrth ddewis gweithgareddau corfforol diogel ac iach yn ystod beichiogrwydd.
Yn ei Chymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, defnyddiodd ymagwedd dulliau cymysg i werthuso’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff o ran ei weithrediad a’r canlyniadau i gleifion yn y tymor hir.
Mae Kelly yn Ddirprwy Arweinydd y thema Heneiddio Iach yn y bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae hi'n aelod o'r Gymdeithas Ryngwladol dros Weithgarwch ac Iechyd Corfforol.
Mae Kelly wedi chwarae pêl-rwyd dros Dîm Cymru 44 o weithiau mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol, gan gynnwys Gemau'r Gymanwlad (Glasgow 2014, Y Traeth Aur 2018) a Phencampwriaethau'r Byd (2016). Mae hi'n rhedwr brwd, yn mwynhau triathlonau a phêl-foli traeth ac mae hi'n addysgu ioga.
Katherine Cullen - Iechyd, Chwaraeon ac Economeg Gweithgarwch Corfforol
Mae Katherine yn economegydd iechyd sy'n gweithio yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi brofiad mewn amrywiaeth o feysydd iechyd, gan gynnwys diabetes math 2, canser yr afu a rheoli poen, yn ogystal â gofal cyn geni, iechyd plant ac iechyd meddwl. Ar ôl cwblhau ei MSc mewn Gwerthusiad Economaidd mewn Gofal Iechyd, bu Katherine yn gweithio i ymgynghoriaeth economeg iechyd cyn iddi symud i weithio fel economegydd iechyd ar nifer o ganllawiau clinigol cenedlaethol ym maes cyflyrau cronig ac yna ym maes iechyd menywod a phlant ar raglen canllawiau clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae Katherine wedi gweithio yn SCHE ers 2016 ar amrywiaeth o astudiaethau gydag ymchwilwyr ledled y DU sy'n datblygu adolygiadau llenyddiaeth a gwerthusiadau economaidd ar sail tystiolaeth o dreialon clinigol a setiau data cenedlaethol.