Dr Dion Curry
|
Mae Dr Curry yn Athro Cyswllt mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus, yn gweithio ar ymddiriedaeth wleidyddol, cyfreithlondeb gwleidyddol, llywodraethu, arbenigedd/cymunedau epistemig, a thechnolegau aflonyddgar. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Arweinydd Ymchwil Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Abertawe a Dirprwy Arweinydd Amgylchedd yr uned ar gyfer REF'28. Ymhlith prosiectau eraill, ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i seiliau seicolegol canfyddiadau dinasyddion o ymddiriedaeth mewn arbenigedd, gyda chefnogaeth Grant Uwchgynhadledd MASI dan arweiniad Dr Gabi Jiga-Boy (yr Ysgol Seicoleg), ac effaith a llywodraethu technoleg cadwyn flociau.
|
Dr Bettina Petersohn
|
Mae Dr Petersohn yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth, yn gweithio ar ffederaliaeth gymharol, cydlynu rhynglywodraethol, a democratiaeth leol. Mae hi'n gwasanaethu fel Cyd-arweinydd Gweithgor Cydlynu Llorweddol IGCOORD (Cydlynu Rhynglywodraethol o Lywodraethu Lleol i Lywodraethu Ewropeaidd). Ymhlith prosiectau eraill, mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gydlynu llywodraeth leol yn y DU, gan ganolbwyntio'n benodol ar y berthynas rhwng ffactorau gwleidyddol ac economaidd, homoffili gwleidyddol, a phwysau problemau. Yn ogystal, mae Dr Petersohn yn gweithio gydag ysgolheigion o'r DU ac yn rhyngwladol ar brosiect arolwg o gynghorwyr trefol yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar eu hannibyniaeth, eu dylanwad ar bolisi a chanfyddiad y cyhoedd ar draws cyd-destunau sefydliadol.
|
Dr Caner Sayan
|
Mae Dr Sayan yn Ddarlithydd mewn Dadansoddi Polisi sy'n arbenigo yng ngwleidyddiaeth dŵr, cyfiawnder amgylcheddol, llywodraethu dŵr a newid hinsawdd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addasu i newid hinsawdd yn Affrica, Twrci, a'r Dwyrain Canol. Ymhlith prosiectau eraill, mae ar hyn o bryd yn gweithio ar allu tyddynwyr yn Kenya i wrthsefyll sychder a dŵr a rhanbarthiaeth yn Nalgylch Afon Ewffrates-Tigris. Mae Dr Sayan yn gwasanaethu ar bwyllgor llywio Sefydliad Ymchwil Gweithredu Hinsawdd Abertawe a Rhwydwaith Ymchwil Gweithredu Hinsawdd y Gyfadran.
|
Dr Kristan Stoddart
|
Mae Kristan Stoddart yn Athro Cyswllt ar gyfer Bygythiadau Seiber yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac mae hefyd yn gweithio gydag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Mae'n aelod o'r Prosiect ar Faterion Niwclear yn y Ganolfan Astudiaethau Strategol a Rhyngwladol yn Washington DC ac yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Yn 2022 fe'i gwnaed yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA). Mae wedi cwblhau tri llyfr yn ddiweddar, gan gynnwys Cyberwar: Threats to Critical Infrastructure (Palgrave/Springer, 2022). Yn achos y ddau arall, mae’r naill yn archwilio ymosodiadau seiber Rwsia yn erbyn y Gorllewin a’r llall yn edrych ar sut mae Tsieina wedi mabwysiadu ysbïo seiber ymosodol. Yn ogystal, mae'n cymryd rhan mewn prosiect ymchwil a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n archwilio i ba raddau gall yr UE wrthsefyll rhyfela hybrid.
|
Dr Matthew Wall
|
Mae Dr Wall yn Athro Cyswllt mewn Gwleidyddiaeth ac yn Bennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae ei ymchwil ar wleidyddiaeth gymharol, etholiadau a barn y cyhoedd, darogan etholiadau, rhaglenni cyngor pleidleisio a systemau etholiadol. Cefnogwyd ymchwil Dr Wall gan, ymhlith eraill, Gronfa Robert Carr, yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae ei brosiectau presennol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth ddigidol, gan gynnwys defnyddio newydd-bethau amhleidiol fel rhaglenni cyngor ar bleidleisio mewn ymgyrchoedd etholiadol, darogan etholiadau amser real, ac ymgysylltu democrataidd.
|
Dr Louis Bromfield
|
Mae Dr Bromfield yn ymchwilydd ym meysydd ymgysylltu gwleidyddol, gemeiddio, darogan gwleidyddol a chyfranogi gwleidyddol. Mae ganddo BA mewn Gwleidyddiaeth, MSc mewn Cyfrifiadureg a PhD mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Abertawe. Yn nhraethawd ymchwil ei PhD, a ariannwyd gan Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe, archwiliodd effaith seicolegol defnyddio platfform darogan gwleidyddol ar-lein. Yn 2022 defnyddiodd gronfa UKRI Challenge gwerth £12,932 i gynnal arbrawf maes gyda 500 o gyfranogwyr yn defnyddio ei wefan ddarogan ei hun. Mae’n bwriadu parhau â'i ymchwil i ddarogan gwleidyddol ag elfennau gemeiddio, â’r nod o gynnwys mwy o etholiadau i ychwanegu at ffocws ei PhD ar Etholiadau Lleol y DU ym mis Mai 2023.
|
Yr Athro Jonathan Bradbury
|
Mae’r Athro Bradbury yn ymchwilio i’r wleidyddiaeth diriogaethol sy’n gysylltiedig â sut caiff y DU ei llywodraethu, mewn perthynas â’r llywodraethau datganoledig a llywodraeth leol. Mae ganddo ddiddordeb mewn dadansoddi crefft llywodraethu, yn ogystal â goblygiadau gwleidyddol llywodraeth diriogaethol a’r goblygiadau o ran polisi a chynrychiolaeth. Mae ei waith diweddar wedi canolbwyntio ar ddadansoddi datganoli ers y 1990au hwyr ac mae’n cynnwys ei lyfr Constitutional Policy and Territorial Politics in the UK: Union and Devolution, 1997-2007 (Bristol University Press, 2021). Ers 2021, mae wedi bod yn Ddeon Cysylltiol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn gyfrifol am Ymchwil, Arloesi ac Effaith. Ef hefyd yw Arweinydd Cyfrifon Cyflymu Effaith yr ESRC a’r AHRC yn y Brifysgol.
|
Dr Bryn Willcock
|
Mae Dr Willcock wedi bod yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ers 1995. Mae ei brif ddiddordebau addysgu ac ymchwil yn canolbwyntio ar bolisi tramor America, hanes America, terfysgaeth, hanes niwclear yn ogystal â gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop. Mae Dr Willcock wedi cyfrannu at lyfrau a gyhoeddwyd gan Oxford University Press a Taylor and Francis. Yn 2010, bu’n rhan o’r prosiect PartiRep, astudiaeth gymharol a oedd yn cynnwys Ewrop gyfan o fecanweithiau cysylltedd rhwng dinasyddion a’r system wleidyddol. Yn 2014, bu’n gweithio fel ymgynghorydd ar bolisi cyhoeddus Prydain wrth greu prosiect pleidleisio EUVOX, gwefan sy’n galluogi pleidleiswyr i gymharu eu barn â barnau pleidiau gwleidyddol amrywiol.
|