Mae ymchwil ar lefel macro-economaidd dadansoddi bellach yn fwy perthnasol nag erioed. Nod y Ganolfan Ymchwil i Facro-economeg a Macro-Gyllid (CReMMF) yw hybu ymchwil i fodelu macro rhyngwladol (economi agored), cyllido eiddo tirol, bancio, polisi cyllidol ac ariannol, a chynhyrchiant, ar lefel damcaniaethol ac ar lefel empirig. Yn ein grŵp ymchwil, mae un maes ymchwil datblygol yn canolbwyntio ar ddeall ymatebion rhanbarthol i ergydion macro-economaidd; bydd dadansoddi o’r math yn ein galluogi i ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus yng Nghymru. Ffocws ychwanegol yw defnyddio ein hymchwil feintiol er mwyn mynd i’r afael â dadleuon polisi ynghylch sut y dylid llunio polisi macro-economaidd, ochr yn ochr â rheoliadau bancio a rheoliadau cyllid newydd, er mwyn cefnogi sefydlogrwydd prisiau a thwf economaidd yn y byd ar ôl yr argyfwng credyd. Mae’r CReMMF yn ceisio codi proffil ein gwaith, sy’n arwydd i wneuthurwyr polisi, cydweithredwyr academaidd a myfyrwyr doethur, fod hwb macro-economaidd yn bodoli yn Abertawe. Mae ein Canolfan yn cynnwys ymchwilwyr yn Abertawe yn ogystal â rhwydwaith o gydweithredwyr gan gynnwys academyddion, gweithwyr proffesiynol, a gwneuthurwyr polisi o brifysgolion eraill, sefydliadau ymchwil a sefydliadau ledled y byd.
Y Ganolfan Ymchwil i Facro-economeg a Macro-Gyllid (CReMMF)
Prosiectau
(Agboola Wedi'i gwblhau yn 2023 - bellach yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol De Montfort)
Effeithiau Macro-economaidd Prisiau Olew ar Strwythur Tymor yr UD a Thwf Economaidd Economïau sy'n Dod i'r Amlwg Allforio Olew
Tri Thraethawd ar ddeinameg prisiau tai yn y DU
Ail-enwad Arian Gan Ddefnyddio Cryptocurrency: Sut mae Cryptocurrency yn profi i fod yn arian cyfred y dyfodol
Pobl
Cyfarwyddwr
Mae arbenigedd ymchwil Bo mewn Macroeconomeg Gymhwysol, Economeg Ariannol, cylchrediadau busnes, a modelu Cydbwysedd Cyffredinol Stocastig Dynamig (DSGE). Mae canlyniadau ei ymchwil wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau, gan gynnwys Economic Journal, Journal of Economic Dynamics and Control, Journal of International Money and Finance, Economics Letters and Review of International Economics, the Oxford Handbook of the Indian Economy a'r Handbook of Research Methods and Applications.
Dr Bo YangStaff ac Aelodau Allanol
- Dr Lucy Barros
- Dr Rosen Chowdhury
- Yr Athro Steve Cook
- Dr Dilshad Jahan
- Dr Jonathan James
- Emeritus Professor Phillip Lawler
- Dr Katerina Tsakou
- Dr Evi Tzika
- Dr Bo Yang
Aelodau Allanol:
- Dr Hany Abdel-Latif, International Monetary Fund, US
- Dr Keshab Bhattarai, University of Hull, UK
- Dr Cristiano Cantore, Bank of England, UK
- Professor Huw Dixon, Cardiff University, UK
- Professor Vasco Gabriel, University of Victoria, Canada
- Professor Chetan Ghate, Institute of Economic Growth (IEG), India
- Dr Michael Hatcher, University of Southampton, UK
- Dr Tom Holden, Deutsche Bundesbank, Germany
- Dr Sean Holly, University of Cambridge, UK
- Professor Vo Phuong Mai Le, Cardiff University, UK
- Professor Kul Luintel, Cardiff University, UK
- Professor Sushanta Mallick, Queen Mary, University of London, UK
- Professor Kent Matthews, Cardiff University, UK
- Professor David Meenagh, Cardiff University, UK
- Dr Giovanni Melina, International Monetary Fund, US
- Professor Stephen Millard, National Institute of Economic and Social Research, UK
- Professor Patrick Minford, Cardiff University, UK
- Professor Ila Patnaik, National Institute of Public Finance and Policy (NIPFP), India
- Dr Abeer Reza, Bank of Canada, Canada
- Dr Christopher Spencer, Loughborough University, UK
- Dr Jonathan Swarbrick, University of St Andrews, Canada, UK
- Dr Xiaoliang Yang, Zhongnan University of Economics and Law, China
Siaradwyr Diweddar Yn Ystod Ein Cyfres Seminarau
06/03/2023
Yr Athro Oliver Holtemöller, Athro Economeg ym Mhrifysgol Martin Luther Halle-Wittenberg
Polisi Ariannol Optimaidd mewn model DSGE Amgylcheddol Dau Sector
Crynodeb:
Mae newid yn yr hinsawdd wedi datblygu'n ganolog i agenda polisi economaidd byd-eang. Mae awdurdodau ariannol wedi dechrau mynegi pryder am ganlyniad economaidd newid yn yr hinsawdd, gan alw ar fanciau canolog i adolygu eu polisïau. Yn ogystal, mae'r chwyddiant gwyrdd sy'n dod i'r amlwg "greenflation", o ganlyniad i'r newid i ffynonellau ynni amgen, wedi codi'r cwestiwn a ddylai'r awdurdodau ymateb i ddatblygiadau cyfansymiol a phris perthynol a sut. Yn y papur hwn, rydym yn trafod effaith bosib cynnwys newid yn yr hinsawdd a pholisïau amgylcheddol is-optimaidd mewn model cydbwysedd cyffredinol stocastig dynamig dau sector ar gynnal polisi ariannol. Yna rydym yn ymchwilio i bolisi ariannol optimaidd sy'n amodol ar bolisi amgylcheddol penodol. Yn benodol, rydym yn ymchwilio i ymateb optimaidd y gyfradd log i newidiadau ym mhrisiau sector penodol yn dilyn sioc. Rydym yn dangos bod polisi ariannol mwy cyfyngol yn optimaidd pan fydd y sioc yn peri cynnydd mewn cynhyrchiant a galw am nwyddau budr. I'r gwrthwyneb, mae sioc sy'n meithrin galw am nwyddau glân yn arwain at bolisi mwy ehangol. Rydym hefyd yn amlygu nad yw'r ddau nod, sef mwyafu lles a lleihau allyriadau, o angenrheidrwydd yn cyd-fynd.
02/02/2023
Brexit, Covid a Mudwyr Rhyngwladol: Dadansoddiad Empiraidd ar gyfer y DU.
Crynodeb:
Mae ystod o newidynnau economaidd yn effeithio ar lifoedd mudo rhyngwladol. Hefyd gall canlyniadau marchnad llafur mudwyr rhyngwladol ddylanwadu ar economïau’r wlad gartref a'r wlad letyol fel ei gilydd. Er enghraifft, gall mudwyr lenwi swyddi gwag yn y wlad letyol, gan roi hwb pellach i'w chyfraddau twf economaidd drwy gynyddu defnydd o adnoddau. Gallant hefyd gyfoethogi eu heconomïau gartref drwy anfon taliadau sy'n cynyddu defnydd o adnoddau yn ogystal â buddsoddi mewn busnesau bach, eiddo ac addysg. Bydd y buddion hyn yn fwy pan gaiff mudwyr llafur eu cyflogi mewn swyddi sy'n talu'n dda yn y wlad letyol. Mae'r papur hwn yn ystyried materion o'r fath yng nghyd-destun dau ddigwyddiad o bwys sydd wedi effeithio ar y DU yn ddiweddar, sef Brexit a phandemig Covid. Yn ogystal ag archwilio sut y mae llifoedd mudo a nifer y mudwyr rhyngwladol sy'n byw yn y DU wedi amrywio dros y degawd diwethaf, ceir dadansoddiad manwl o'r canlyniadau llafur newidiol sy'n gysylltiedig â grwpiau gwahanol o fudwyr - gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflogaeth ac enillion.
19/01/2023
Yr Athro Sushanta Mallick o Queen Mary, Prifysgol Llundain.
Oil Price Dynamics in Times of Uncertainty: Revisiting the Role of Demand and Supply shocks
Crynodeb:
Mae sbardunwyr prisiau olew gwirioneddol wedi cael eu harchwilio'n helaeth yn y llenyddiaeth heb fawr o gonsensws. Gan ddefnyddio cynllun adnabod newydd wedi'i seilio ar amrywiant wrth ragweld gwallau, rydym yn nodi galw sy'n benodol i olew, a galw a siociau o ran cyflenwadau olew sy'n uchafu swm yr amrywiant wrth ragweld gwallau o ran tri o newidynnau a esbonnir gan eu siociau perthnasol. Mae amcangyfrifon gan ddefnyddio’r un cyfnod sampl tan 2007 yn awgrymu y caiff y tair sioc a nodwyd effeithiau tebyg fel yn y llenyddiaeth gynnar, gyda'r siociau galw sy'n benodol i olew yn chwarae rôl amlwg. Fodd bynnag, yn y cyfnod ôl-argyfwng, mae siociau cyflenwad wedi dod i'r amlwg fel ffynhonnell cynnydd tymor byr mewn prisiau olew ac nid yw siociau galw'n cael effaith hirdymor ar brisiau, sy'n wahanol i'r cyfnod cyn-argyfwng. Hyd yn oed wrth gynnwys ansicrwydd sioc, mae'r trawsnewidiad hwn i sioc cyflenwad sy'n gyrru prisiau olew yn y tymor byr yn goroesi. Heb os, mae'r amcangyfrifon hyn yn awgrymu dim hyblygrwydd o ran y cyflenwad cyfnod byr, sy'n fater y bu dadlau yn ei gylch yn y llenyddiaeth ddiweddar. Er mai siociau galw sy'n benodol i olew yw'r prif sbardunwyr o ran prisiau olew gwirioneddol, mae chwe ffactor (gan gynnwys COVID-19) a ystyriwyd yn y papur hwn yn awgrymu bod siociau eraill hefyd wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth lywio prisiau olew mewn cyfnodau gwahanol ac ni ellir anwybyddu hyn wrth werthuso deinameg prisiau olew.
15/12/2022
Dr Babatunde Samson Omotosho, Prif Economegydd, Yr Adran Ystadegau, Central Bank of Nigeria
Polisi ariannol mewn economi sy’n datblygu sy'n allforio olew ac yn cynnig cymhorthdal tanwydd
Crynodeb: Mae cymorthdaliadau tanwydd yn ystumio signalau prisiau domestig ac maent felly yn effeithio ar bolisi ariannol. Mae'r papur hwn yn datblygu model DSGE ar gyfer economi sy’n datblygu sy'n allforio olew ac yn cynnig cymhorthdal tanwydd er mwyn dadansoddi’r rôl mae rheolau ariannol amgen yn ei chwarae wrth sefydlogi’r economi o dan drefniadau cymhorthdal amrywiol. Mae’r model yn seiliedig ar amcangyfrifon trwy ddulliau Bayesaidd gan ddefnyddio data ar gyfer Nigeria. Y papur hwn yw’r ymgais gyntaf i (i) amcangyfrif rheol prisio tanwydd domestig ar gyfer economi sy’n datblygu sy'n allforio olew ac yn cynnig cymorthdaliadau tanwydd, (ii) nodweddu ymddygiad polisi ariannol o dan amgylchiadau o'r fath, a (iii) gwerthuso priodoldeb rheolau ariannol amgen o dan fodel sydd â chymorthdaliadau tanwydd ac sydd heb gymorthdaliadau tanwydd. Mae'r canlyniadau'n dangos bod tua 45% o'r newidiadau i bris olew byd-eang yn cael eu trosglwyddo i bris manwerthu tanwydd. Rydym yn gweld bod ymddygiad polisi ariannol mewn economi sydd â chyfoeth o adnoddau yn cael ei nodweddu gan reol ariannol y brif gyfradd chwyddiant. Fodd bynnag, mae'r awdurdod ariannol yn gallu lleihau colledion polisi tua 11 y cant os yw'n targedu chwyddiant craidd yn hytrach na mesur chwyddiant sy'n cynnwys prisiau ynni. O dan drefn cymhorthdal sero, mae'r rheol ariannol chwyddiant craidd yn perfformio'n well nag eraill wrth gyflawni sefydlogrwydd macro-economaidd cyffredinol, ar yr amod bod y gyfran o olew yng nghyfanswm treuliant aelwydydd yn gymharol isel.
14/11/2022
Yr Athro Tapas Mishra, Athro a Phennaeth Bancio a Chyllid Ysgol Fusnes Southampton, Prifysgol Southampton
Macroeconomics Effects and Housing Market Equilibrium
Crynodeb:
Rydym yn damcaniaethu ac yn modelu natur amryfal ymatebion cydbwysedd prisiau tai i amrywiadau macro-economaidd yn sgil galw am dai a’r cyflenwad sydd ar gael. Rydym yn mireinio model stoc-llif tai drwy ganiatáu i gywiriadau gwallau cof-hir yn y system dai facro-economaidd gyd-chwarae’n ddeinamig er mwyn darparu ar gyfer posibilrwydd realistig y gallai'r cyflymder cywiro fod yn araf ac amrywio rhwng y galw a'r cyflenwad o dai. Gan ddefnyddio set ddata chwarterol hir ar gyfer yr Unol Daleithiau, mae ein canlyniadau o amcangyfrif VAR wedi'i gyd-integreiddio mewn modd ffracsiynol yn cadarnhau dyfalbarhad cof hir system-eang, gan sicrhau cywiriadau anghydbwysedd araf ac unigryw yn dilyn amrywiadau macro-economaidd o ddwy ochr y diwydiant tai. Rydym yn gweld bod effeithiau ffactorau macro-economaidd sy'n rhyngweithio'n gyfan gwbl â'r agwedd galw/cyflenwad ar y diwydiant tai yn dangos tuedd gan fod hynny'n esgeuluso'r ochr arall o'r naratif amrywiadau prisiau tai. O safbwynt y ffactor sy'n cael effeithiau gwahaniaethol o ddwy ochr y diwydiant tai, mae ei effaith net yn un negyddol a chaiff ei dominyddu gan y ddeinameg ar ochr y galw, sy'n dangos parhad yn y galw am dai sy'n gymharol elastig. Fel strategaeth adnabod, rydym yn cynnal amcangyfrif FCVAR heb gyfyngiadau ar gyfer gwahanol ragfynegwyr mewnddarol ac alldarddol.
10/10/2022
Yr Athro Oliver de Groot, Prifysgol Lerpwl
US Monetary Policy at the Height of the Financial Crisis: A Constrained Optimal Policy Projections Perspective
Crynodeb:
Rydym ni’n astudio cyfuniad wedi’i optimeiddio o ganllawiau cyfraddau llog ac esmwytho meintiol (QE) yn yr UD, gan ddefnyddio’r set o wybodaeth sydd ar gael i’r Ffed yn gynnar yn 2009. I asesu goblygiadau tybiaethau amgen, rydym ni’n datblygu dull effeithlon sy’n ymdrin ag ymrwymiad, ymrwymiad sy’n gyfyngedig o ran amser a disgresiwn, sawl offeryn polisi a chyfyngiadau ar bolisi, atebion amgen i’r pos canllawiau ar gyfer y dyfodol, ac nid oes angen arno fodel cydbwysedd cyffredinol wedi’i nodi’n llawn. Rydym ni’n canfod bod y canllawiau ar gyfradd llog bron yn optimaidd, nid oedd QE yn ddigon ffyrnig, a bod dad-wneud QE yn arafach ar sail disgresiwn nac ymrwymiad. Mae pecyn cymorth helaeth hawdd ei ddefnyddio yn dod gyda’r papur.
08/08/2022
Dr Rhys Bidder, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Qatar ar gyfer Bancio a Chyllid Byd-eang ac Uwch-ddarlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Fusnes King's
Ask the banks: DSGE models through the lens of stress test data
Mae profion straen yn cyflwyno data am newidynnau sy'n amlwg mewn dosbarth eang o fodelau bancio DSGE. Felly, mae’n naturiol i ni holi a yw rhagfynegiadau ein modelau yn cyd-fynd a'r data ac a ellir defnyddio'r data i lywio ein modelu. Byddwn yn archwilio'r data a gyhoeddir gan fanciau mwyaf yr UD fel rhan o gyfundrefn profi straen CCAR Banc y Gronfa Ffederal. Mewn ymateb i sefyllfaoedd damcaniaethol a ddiffinnir yn nhermau newidynnau macro-gyllidol, mae banciau yn cyhoeddi gwledd o wybodaeth am eu gweithgareddau a’u canlyniadau a ragwelir. Oherwydd y diffinnir y senarios yn ôl llinell sylfaen ynghyd ac amodau andwyol posibl, byddwn yn derbyn mewnwelediad newydd i agweddau ar yr argyfyngau 'cyflwr gofod (state space) sy'n brin mewn data hanesyddol ac a ddilynir yn gredadwy gan fylchau strwythurol pwysig. Mae banciau yn adrodd ar ein data prawf straen gan ystyried newidiadau strwythurol a fu ers yr argyfwng ariannol byd-eang ac felly ni ddylai'r 'Lucas Critique' effeithio arno.
14/03/2022
Dr Michael Hatcher, University of Southampton
Solving linear rational expectations models in the presence of structural change: Some extensions
Crynodeb:
Mae dulliau datrys safonol ar gyfer disgwyliadau unionlin cymarebol yn tybio strwythur amser-di-syfl. Mae gwaith diweddar wedi mynd y tu hwnt i hyn drwy ffurfio dulliau datrys ar gyfer modelau disgwyliadau unionlin cymarebol sy’n destun newidiadau strwythurol megis newid paramedrau a diwygio polisi sy’n cael eu cyhoeddi o flaen llaw. Mae’r papur hwn yn cyfrannu at y llenyddiaeth hon drwy gyflwyno atebion ar gyfer rhai achosion – diwygiadau polisi nad ydynt yn llwyr gredadwy; oedi wrth gyhoeddi i ffracsiynau asiantau; ac amhendantrwydd o ran yr ateb terfynol (cydbwyseddau niferus) – nad oeddent wedi cael llawer o sylw hyd yma. Dangosir yr atebion hyn gan ddefnyddio nifer o gymwysiadau gan gynnwys model Keynesaidd Newydd lle nad yw egwyddor Taylor wedi’i bodloni gan y strwythur terfynol.
28/02/2022
Yr Athro Akos Valentinyi, Prifysgol Manceinion
New Evidence on Sectoral Productivity: Implications for Industrialization and Development
Crynodeb:
Yn aml ystyrir bod symud llafur o amaethyddiaeth i weithgynhyrchu ("diwydiannu") yn hanfodol er mwyn i gwmnïau tlawd ddatblygu. Rydym yn cyflwyno tystiolaeth newydd ar sut y gall diwydiannu helpu gwledydd tlawd i gau'r bwlch cynhyrchiant rhyngddynt a gwledydd cyfoethog. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn defnyddio datganiadau data diweddar gan Ganolfan Twf a Datblygu Groningen er mwyn creu set ddata newydd o lefelau cynhyrchiant cymaradwy mewn amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu ar gyfer 64 o wledydd a oedd gan amlaf yn dlawd yn ystod y cyfnod 1990-2018. Rydym yn canfod dau ganlyniad allweddol: (i) mae bylchau cynhyrchiant mewn gweithgynhyrchu yn fwy na’r cydgasgliad a (ii) nid oes tueddiad i gynhyrchiant gweithgynhyrchu gydgyfarfod. Er bod y canlyniadau hyn yn herio’r cysyniad bod cyflogaeth ym maes gweithgynhyrchu yn hanfodol ar gyfer datblygu, rydym hefyd yn canfod bod twf cynhyrchiant uwch mewn gweithgynhyrchu mewn gwledydd tlawd yn gysylltiedig â thwf cynhyrchiant uwch yn y cydgasgliad.
31/01/2022
Yr Athro Paul Levine, Prifysgol Surrey
The Use and Mis-Use of SVARs for Validating DSGE Models
Crynodeb:
Mae'r papur hwn yn astudio gallu arfaethedig SVAR i weddu swyddogaethau ymateb ysgogiad model DSGE amcangyfrifedig hirsefydlog. Rydyn ni'n astudio'r broblem sylfaenol gwrthbwynt, a ddisgrifir yn aml mewn llenyddiaeth macroeconomeg fel un o "wybodaeth goll" pan fydd gan yr econometrigwr is-set o wybodaeth asiantau'r model yn unig. Cyfeirir at y broblem hon i econometrigwyr fel "E-invertibility". Ond, yn ein papur ni, mae gwybodaeth amherffaith ar ran y ddau asiant a'r econometrigwr yn ganolbwynt; gall y setiau gwybodaeth fod yr un peth. Rydym yn cyfeirio at broblem yr asiantwyr fel "A-invertibility"; yn absenoldeb atebion RE perffaith ac amherffaith dargyfeiriad y model. Yn gyntaf, rydym yn rhoi disgrifiad bras o amodau ar gyfer ateb RE o fodel Gaussian NK-DSGE a linellolwyd i fod yn wrthbwyntiol gan gymryd i ystyriaeth setiau gwybodaeth asiantwyr. Yna, rydym yn amcangyfrifo SVAR trwy greu data artiffisial o'r model damcaniaethol. Yn seiliedig ar gynrychiolaeth VAR(1) y model DSGE, rydym yn cymharu tair ffurf o gyfyngiadau adnabod SVAR; arffiniau sero, arwydd a rhai a arweinir gan ddamcaniaeth ar yr amrywiant gwallau a ragwelir ar gyfer mapio gweddillion ffurf llai y model empirig i siociau strwythurol diddordeb. Yna, prif amcan y papur yw gwahanu'r ddau reswm pam nad yw SVAR yn gallu adfer yr ymatebion ysgogiad i siociau strwythurol DGP, sef an-wrthbwynt ac adnabod cyfyngiadau yn amhriodol.
Newyddion a Digwyddiadau Diweddaraf
Gweithdy CReMMF ar Bolisi a Thwf Macroeconomaidd
Mynychwyd y Gweithdy Undydd gan economegwyr ac ymarferwyr academaidd gwadd o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgolion Caerwysg, Nottingham a Southampton, a chyflwynodd nifer o bapurau ymchwil a oedd yn mynd i’r afael â’r materion a’r heriau diweddar yn ymwneud â marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg, ynni. anweddolrwydd prisiau, polisi ariannol a chyllidol, a thwf cynaliadwy. Roedd y gweithdy’n ddigwyddiad pwysig nid yn unig ar gyfer lledaenu academaidd ac ymgysylltu â’r cyhoedd, ond fel cyswllt hanfodol â macroeconomegwyr a fydd yn gwneud y mwyaf o effaith ein gwaith.
Cyhoeddiadau Academaidd
Lucy Barros
- Yang, X., Barros, L., Matthews, K., & Meenagh, D. (2024). The dynamics of redistribution, inequality and growth across China’s regions. Journal of Policy Modeling.
- Luintel, K., Matthews, K., Barros, L., Valentinyi, A., & Wang, B. (2020). The role of Provincial Government Spending Composition in growth and convergence in China. Economic Modelling, 90, 117-134.
- Barros, L. & Meenagh, D. (2020). Supply-Side Policy and Economic Growth: A Case Study of the UK. Open Economies Review, 31(1), 159-193.
Rosen Chowdhury
- Agboola, E., Chowdhury, R., & Yang, B. (2024). Oil price fluctuations and their impact on oil-exporting emerging economies. Economic Modelling, 132, 106665.
- Chowdhury, R., Cook, S., & Watson, D. (2023). Reconsidering the relationship between health and income in the UK. Social Science & Medicine, 332, 116094.
- Chowdhury, R., Jahan, D., Mishra, T., & Parhi, M. (2022). Monetary policy shock and impact asymmetry in bank lending channel: Evidence from the UK housing sector. International Journal of Finance and Economics, 29(1), 511-530.
Steve Cook
- Webb, R., Watson, D., & Cook, S. (2021). Price adjustment in the London housing market. Urban Studies, 58(1), 113-130.
- Cook, S. & Fosten, J. (2018). Replicating rockets and feathers. Energy Economics, 82(C), 139-151.
- Cook, S. & Watson, D. (2018). Volume effects in the London housing market. International Journal of Housing Markets and Analysis, 11(3), 586-602.
Bo Yang
- Agboola, E., Chowdhury, R., & Yang, B. (2024). Oil price fluctuations and their impact on oil-exporting emerging economies. Economic Modelling, 132, 106665.
- Gabriel, V., Levine, P., & Yang, B. (2023). Partial dollarization and financial frictions in emerging economies. Review of International Economics, 31(2), 609-651.
- Bhattarai, K., Mallick, S., & Yang, B. (2021). Are global spillovers complementary or competitive? Need for international policy coordination. Journal of International Money and Finance, 110, 102291.
Gyswllt Y Ganolfan Ymchwil i Facro-economeg a Macro-Gyllid (CReMMF)
Cysylltwch â'n Cyfarwyddwr:
Dr Bo Yang bo.yang@swansea.ac.uk
Diddordeb mewn Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig?
Darganfyddwch fyd o gyfleoedd gyda'n rhaglenni ymchwil.