Un o nodau’r Ganolfan Ymchwil i Ymarfer yw dod ag adnoddau ynghyd i gefnogi ymarferwyr myfyriol wedi’u llywio gan ymchwil. Mae’r Ganolfan hefyd yn anelu at wneud ymchwil yn hygyrch i ymarferwyr prysur, er enghraifft trwy ddarparu crynodebau, posteri a ffeithluniau mewn iaith syml a chlir.
'What works for care-experienced children’s educational outcomes?'
Mae adnodd newydd wedi’i gyhoeddi gan Dr Emily Lowthian a chydweithwyr sy’n archwilio beth sy’n gweithio ar gyfer canlyniadau addysgol plant sydd wedi cael profiad o ofal - ‘What works for care-experienced children’s educational outcomes?'; mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data gan dros 1,000 o blant dros 16 oed i ddeall:
- Oes unrhyw batrymau cyffredin mewn profiadau gofal?
- Sut mae'r rhain yn berthnasol i gyrhaeddiad addysgol yn CA1, 2 a 4?
- Beth sy'n gweithio ym myd addysg ar gyfer rhai profiadau gofal o ran TGAU?
Mae’r adroddiad yn amlygu rhai agweddau allweddol a allai amharu ar gyrhaeddiad addysgol, yn dibynnu ar brofiadau gofal penodol (h.y. mabwysiadu’n gynnar a’i gymharu gyda gofal maeth yn ystod plentyndod hwyr). Dylai llunwyr polisi a’r rhai sy’n gweithio mewn sectorau cysylltiedig ystyried y canlyniadau hyn mewn perthynas â pholisi ac arferion ysgol i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i gyrraedd eu potensial.
Ceir adroddiad manwl yn y Gymraeg a Saesneg, ynghyd â fideo YouTube (cyfrwng Saesneg) ar weminar a gafodd ei recordio gydag ExChange yn CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Ceir hefyd bost blog sy'n trafod gwaith ehangach yn y maes hwn.
Astudiaeth Achos Ymchwil AGA
Edrychwch ar ein cyfres Yr Hyn Rydym yn ei Wneud ar Ymchwil ac Ymholiad Proffesiynol
Dysgwch fwy