Alice Peters
Rwyf ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer TAR Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a bron â gorffen fy lleoliad dysgu cyntaf.
Rwyf wedi sylweddoli'n gyflym fod ‘Learning Walk Thrus’ Sherrington ac Oli Cav yn ganolog i lawer o ysgolion yng Nghymru, ac yn haeddiannol felly. Maent yn deillio o ddylanwadau fel Egwyddorion Cyfarwyddyd Effeithiol Rosenshine (2012) ac yn cyflwyno pwysigrwydd strategaethau allweddol megis cwestiynu a chyfranogiad gweithredol. Fodd bynnag, mae un dechneg holi wedi ysgogi trafodaethau ymysg pob un ohonom ni fyfyrwyr TAR Saesneg yn ddiweddar, sef: 'Meddwl, Paru, Rhannu'.
Beth yw 'Meddwl, Paru, Rhannu'?
Wedi'i chreu'n wreiddiol gan yr Athro Frank Lyman yn 1981, gellir dadlau bod 'Meddwl, Paru, Rhannu' ym mhobman. Mae’r dechneg drawsnewidiol hon ar gyfer cwestiynu wedi cael ei chanmol gan addysgwyr, ac mae’n strategaeth boblogaidd sy’n meithrin cydweithio rhwng cyfoedion i drafod a datblygu syniadau. Mae'n strategaeth eithaf syml. Mae cwestiwn neu syniad yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr, sydd wedyn yn cael amser i feddwl amdanynt yn annibynnol, eu trafod gyda phartner, ac yn olaf, eu rhannu gyda'r dosbarth.
Mae’n swnio'n wych, felly beth yw'r broblem?
Cefais fy synnu yn y brifysgol fod cymaint o fyfyrwyr TAR yn teimlo’n debyg i mi tra oedden nhw ar eu lleoliad cyntaf. Teimlai rhai fod yr amser 'meddwl' yn cael ei golli, neu fod y rhan 'paru' yn achosi ymddygiad sy’n gwyro oddi ar y dasg. Teimlai rhai nad oedd y myfyrwyr yn cael mantais o'r agwedd 'rhannu'.
Felly, beth wnes i?
“Something really obvious but worth spelling out!”
(Sherrington, 2012)
Cyflwynais elfen o atebolrwydd i’r myfyrwyr, gan roi amser penodol iddynt drefnu eu meddyliau ar bapur. Bydd myfyrwyr yn defnyddio gwybodaeth flaenorol, nid yn unig trwy feddwl ond trwy roi pin ar bapur. Wedi'r cyfan, pan fydd myfyrwyr yn ysgrifennu, maen nhw yn meddwl. Rwyf wedi ymgorffori arferion rheolaidd o gwmpas y dull hwn. Fel rhan o ddiwylliant yr ystafell ddosbarth, pryd bynnag rwy’n dweud 'Meddwl, Paru, Rhannu' nawr, mae disgyblion yn ysgrifennu TPS (sy’n sefyll am Think, Pair, Share) ar ymyl eu taflenni gwaith ac yn aros i mi gyfrif yn ôl cyn cychwyn yr amser 'Meddwl'.
Profais hyn gyntaf gyda dosbarth prysur blwyddyn saith a gwelais ei botensial ar unwaith.
Mae cerdded o gwmpas y dosbarth yn gadael i chi fonitro ymatebion cychwynnol myfyrwyr yn ystod yr amser meddwl – nid yn unig o ran cydymffurfio â’r dasg ond o ran ansawdd. Mae ysgrifennu rhywbeth ar bapur yn hynod fuddiol, gan ei fod yn rhoi sylfaen i bob myfyriwr allu trafod gyda’u cyfoedion. Yn ystod 'Meddwl, Paru, Rhannu' yn fy ngwersi, mae myfyrwyr yn atebol am gael rhywbeth gwerthfawr i'w rannu. Mae cydweithio â'u partneriaid yn rhoi cyfle pellach i fyfyrwyr ystyried safbwyntiau pobl eraill cyn penderfynu ar eu barn eu hunain. Mae cael strwythur penodol yn ei wneud yn fwy ystyrlon a phwrpasol i bob myfyriwr, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd cyffredinol canlyniadau 'Meddwl, Paru, Rhannu.
Dyma ddadansoddiad o sut rydw i'n defnyddio'r strategaeth gampus hon ar hyn o bryd:
MEDDWL
Dim ond tri deg eiliad rwy’n rhoi i fyfyrwyr ysgrifennu eu meddyliau annibynnol yn dawel yn yr adran ‘T’. Mae'r amser byr yn sicrhau bod myfyrwyr yn canolbwyntio ar y dasg, tra eu bod ar yr un pryd o dan ychydig o bwysau i nodi unrhyw syniadau sydd ganddynt. Rwyf fel arfer yn gor-ddweud wrth sôn y byddant yn rhannu syniadau â'i gilydd; mae'n ymddangos bod hyn yn helpu i atgyfnerthu'r pwysigrwydd ymysg myfyrwyr bod angen cwblhau'r rhan 'Meddwl' yn dawel ac yn annibynnol.
PARU
Rwy'n cyfrif yn ôl a rydym yn symud i 'Paru'. Yna mae gan fyfyrwyr union funud i drafod yr hyn y maent wedi'i ysgrifennu a'i rannu gyda'u partner. Wrth wneud hyn rwy'n meddwl bod cyfyngu'r amser a ganiateir yn helpu i liniaru yn erbyn clebran ac ymddygiad nad ydynt yn rhan o’r dasg. Gwahaniaeth allweddol yn fy ymagwedd fan hyn, efallai, yw fy mod yn disgwyl iddynt nodi syniadau eu partneriaid. Pam? Mae'n gwella’r rhan hon o'r strategaeth ac yn gwneud myfyrwyr yn atebol wrth wrando ar syniadau pobl eraill yn ogystal â myfyrio arnynt.
RHANNU
Yn bersonol, rwy'n hoffi defnyddio Galw Diwahoddiad (Cold Calling) ar gyfer yr adran hon. Fel y dywed Doug Lemov (2010) yn 'Teach Like a Champion', mae'n arf cadarnhaol sy'n annog cyfraniad ym mhob gwers os caiff ei wneud yn gyson. Mae'n sicrhau bod pob myfyriwr wedi ymgysylltu â rhannau blaenorol y dasg, gyda'r ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn cael ei ddewis.
“Rydyn ni'n eu dwyn nhw!”
Un tro, pan oedd yng nghanol yr arfer benodol hon, gwaeddodd myfyriwr yn uchel, “Rydyn ni'n eu dwyn nhw!” Fe wnes i dderbyn hyn, ac fe gydiodd y syniad! Ar gyfer fy nosbarth blwyddyn saith yn arbennig, rydyn ni nawr yn galw'r dasg yn 'Meddwl, Paru, Dwyn'.
Mae ychwanegu 'Dwyn' yn helpu i greu elfen gystadleuol i'r dasg, ac mae'n annog myfyrwyr i werthuso ansawdd ymatebion disgyblion yn ddyfnach cyn dewis gan bwy i ddwyn syniadau. O ganlyniad i ddefnyddio’r addasiad hwn, rwy’n meddwl ei fod yn ffordd hwyliog o drefnu adborth dosbarth cyfan, lle gall myfyrwyr gwestiynu syniadau ymhellach a gwthio am fyfyrio pellach.
Mae ymatebion y myfyrwyr wedi dangos gwelliant pendant. Trwy ysgrifennu syniadau cychwynnol ar bapur, trafod a rhannu syniadau, ac ysgrifennu pwyntiau pellach wrth i fwy o wybodaeth gael ei rhannu gan y dosbarth, anogir myfyrwyr i ddatblygu eu ffordd o feddwl. Y peth gorau yw ei fod wedi gwella cyfraniad myfyrwyr yn sylweddol mewn trafodaethau ar ôl 'Meddwl, Paru, Rhannu' neu 'Dwyn'.
Wrth drafod y strategaeth hon gyda fy nghyfoedion yn y brifysgol, cefais fy nharo gan yr ymatebion hynod gadarnhaol. Mae llawer o fyfyrwyr TAR yn fy ngharfan – ar ôl iddyn nhw hefyd deimlo ei bod yn frwydr i gynnal diddordeb y myfyrwyr a chwestiynu sut i wella effeithiolrwydd y strategaeth hollbresennol hon – eisiau gweithredu’r dull mwy strwythuredig hwn o fewn eu gwersi eu hunain.
Mae datblygu ymchwil a strategaethau yn hanfodol ar gyfer cynnydd. Fodd bynnag, mae'r un mor bwysig addasu ac ehangu ar y dulliau hyn fel ymarferydd myfyriol wedi’i lywio gan ymchwil. Nid yn unig yw'r meddylfryd hwn yn gwella'r profiad dysgu i fyfyrwyr mewn ysgolion; mae hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin twf a datblygiad athrawon dan hyfforddiant, fel fi.