Gan yr athro Andrew James Davies
Daeth dros 120 o gynadleddwyr at ei gilydd ar gyfer ail gynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024. Testun y gynhadledd eleni oedd ''Gwneud Gwahaniaeth': Creu Effaith Trwy Ymchwil ac Ymholi' a chafodd y gynulleidfa wledd o gyflwyniadau, trafodaethau a sesiynau poster amrywiol. Roedd y themâu yn cynnwys lles, cymuned, arweinyddiaeth, yn ogystal â chyflwyniadau gan y myfyrwyr TAR cyfredol ar eu prosiectau ymchwil yn eu hysgolion. Ymhlith uchafbwyntiau’r gynhadledd roedd:
- Cyflwyniadau gan y Rhwydwaith Ymchwilwyr Addysgol Ifanc (YERN) o’n hysgolion partner, a siaradodd am eu prosiectau ymchwil yn eu hysgolion a'u cymunedau;
- Ymweliad gan Menna, ci sy’n gweithio o dan goruchwyliaeth ei pherchennog gyda nifer o ysgolion lleol i gefnogi disgyblion gyda'u darllen