Gan Rhiannon Pugsley

Cefndir a chyd-destun

Mae Strategaeth Y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017), yn datgan nod y Llywodraeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Yn greiddiol i lwyddiant y strategaeth yw’r angen i gynyddu’r nifer o athrawon sy’n addysgu Cymraeg (fel pwnc) yn ogystal â chynyddu’r nifer o athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gydag ymgyrchoedd recriwtio Addysgwyr Cymru a Caru Dysgu. Drwy’r Gymraeg ar eu hanterth ac ymrwymiad y Llywodraeth i barhau i ariannu’r Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, mae’n amlwg fod denu darpar athrawon cyfrwng Cymraeg i’r sector yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a’i bod a’i bryd ar gyrraedd y niferoedd uchelgeisiol ar gyfer recriwtio erbyn 2050.

Bron i bymtheg mlynedd yn ôl, yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2010, datganodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (2016: 1) ei bwriad i yrru ‘twf parhaus mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ym mhob sector ac ystod oedran’ gan gynnwys nod strategol o dyfu’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn diwallu gofynion y twf hwn. Gellid dadlau, er hyn, bod sefyllfa gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yr un mor fregus ag erioed ac mai afrealistig yw’r posibilrwydd o gyrraedd y ffigyrau a gyflwynir yn Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017).

Er bod ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (StatsWales, 2023) yn dangos cynnydd yn niferoedd yr hyfforddeion addysg ar gyrsiau AGA cyfrwng Cymraeg rhwng 175 (2018/19) i 325 (2021/2022), ymddengys mai mwy cymhleth yw’r darlun o gynnydd hir dymor. Yn wir, yn ei nodyn briffio yn Awst 2020, mynegodd Comisiynydd Y Gymraeg ei bryder y byddai diffyg athrawon cyfrwng Cymraeg yn tanseilio dau o brif amcanion strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, yn benodol ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n gadael ysgolion Saesneg / dwyieithog yn siaradwyr Cymraeg.

Adleisiwyd yr un pryder gan Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn 2019 lle tynnwyd sylw penodol at y ‘blwch sylweddol a chynyddol rhwng targedau ar gyfer recriwtio AGA a niferoedd y myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio’ (Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, 2019: 52).  

Mae treiddio’n ddyfnach i’r ffigyrau cyfredol yn amlygu pryder deublyg i’r sector. Nid yn unig y ceir niferoedd bychan o hyfforddeion rhugl eu Cymraeg sydd yn dewis dilyn cwrs AGA ond ymddengys fod nifer sylweddol o’r rheiny sydd yn dewis dilyn y cwrs yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg, gydag oddeutu teiran o’r garfan yn flynyddol yn dewis dilyn cyrsiau AGA cyfrwng Saesneg (StatsWales, 2023).

Mae’r her yn glir felly: os ydym am gyrraedd targedau Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr mae’n hanfodol ein bod yn gweddnewid y tueddiadau hyn ac yn denu i’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg ymarferwyr sydd y rhugl eu Cymraeg ac sy’n dewis dilyn cyrsiau AGA cyfrwng Cymraeg.

Hyder wrth siarad ac ysgrifennu

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, cynhaliwyd ymchwil ar ffurf holiaduron a chyfweliadau i adnabod y rhesymau pam fod ein darpar athrawon uwchradd yn dewis cyfrwng eu llwybrau AGA. Canfuwyd mai hyder, wrth ysgrifennu ac wrth siarad, oedd y prif ffactorau yn dylanwadu ar ddewis myfyrwyr i ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg. Er i bob un o’r myfyrwyr nodi eu bod yn hyderus wrth sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond y rheiny’n dilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg y nododd eu bod yn hyderus i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelwyd bod natur fwy ffurfiol y broses addysgu a’r gofynion ieithyddol ymhlyg yn y broses yn ffactor arwyddocaol ym mhenderfyniad y myfyrwyr o ran cyfrwng eu llwybr AGA.

Adlewyrchwyd patrwm tebyg wrth ystyried ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg. Pum myfyriwr yn unig nododd eu bod yn hyderus wrth ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg a nododd rhai o’r hyfforddeion bod yr angen i gyfathrebu’n ysgrifenedig yn eu hysgolion, megis ar gyfer cynlluniau gwersi ac e-byst, wedi bod yn sbardun i ddewis y llwybr cyfrwng Saesneg. Diddorol yw nodi y bu i holl fyfyrwyr yr astudiaeth adnabod eu sgiliau ysgrifenedig fel y lleiaf rhugl yn eu plith, sy’n adlewyrchu, o bosibl, eu hyder yn y maes ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn ysgrifenedig yn ystod eu profiadau addysgu proffesiynol.

Syndod oedd darganfod mai ychydig oedd dylanwad Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar ddewis myfyrwyr i ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg. Bwriad y cynllun yw annog siaradwyr Cymraeg i ddilyn llwybrau AGA cyfrwng Cymraeg drwy gynnig cymelldaliadau, a delir mewn dwy ran – y cyntaf ar ddiwedd y flwyddyn AGA a’r gweddill wedi diwedd y flwyddyn ANG. Un myfyriwr yn unig nododd bod y cynllun cymhelliant wedi ei ysgogi i ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg a diddorol yw nodi nad oedd y cymhelliant yn ddigon i annog pedwar o’r myfyrwyr cyfrwng Saesneg i drosglwyddo i’r llwybr. Yn wir, ychydig o dystiolaeth sydd i ddangos bod y cynllun cymhelliant ar ei newydd-wedd yn fwy effeithiol na’i rhagflaenydd yn denu hyfforddeion i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er gwaethaf y ffaith fod y swm ariannol ar ei gyfer bellach wedi codi i £5,000. Yn aml fe’i gwelir gan hyfforddeion fel bonws yn hytrach na’n sbardun wrth ddewis cyfrwng eu llwybr AGA.

Beth nesaf?

Er mwyn cefnogi myfyrwyr ein llwybr cyfrwng Cymraeg, ac mewn ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil hwn, yr ydym yma ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu strategaeth cyfrwng Cymraeg gan gynnig cyfleoedd pellach i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ysgrifenedig a llafar Cymraeg ynghyd â datblygu termiadur, yn cynnwys termau pwnc-penodol ac addysgegol er mwyn meithrin hyder myfyrwyr wrth ymgymryd â thrafodaethau academaidd. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos â’n partneriaid ysgol, ac Addysgwyr Cymru, er mwyn cynyddu’r nifer sy’n cychwyn yn y sector.

Os ydym am wir fynd i’r afael â’r sefyllfa a denu mwy o hyfforddeion at gyrsiau AGA cyfrwng Cymraeg mae’n hanfodol fod darparwyr cyrsiau AGA yn sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon hyfforddeion ac yn darparu ar eu cyfer ystod o adnoddau a chyfleoedd i’w galluogi i ymgymryd yn hyderus â’r llwybr cyfrwng Cymraeg – yn enwedig o ran meithrin eu hyder llafar ac ysgrifenedig. Rhaid i sefydliadau ddarparu cyrsiau AGA sydd yn diwallu anghenion hyfforddeion ac yn eu paratoi’n effeithiol i ymgymryd â’r gwaith hwnnw ar lawr y dosbarth. Fedrwn ni ddim â chymryd yn ganiataol mai’r llwybr cyfrwng Cymraeg yw’r cam naturiol i siaradwyr rhugl sy’n ymgymryd â’r cyrsiau AGA, nac ychwaith mai dysgu yw’r yrfa amlwg ar gyfer graddedigion yma yng Nghymru. Mae’r gystadleuaeth bellach gan yrfâu amrywiol yn eang, a hyblygrwydd nifer o swyddi eraill wedi Covid-19 yn golygu bod y sefyllfa recriwtio ar gyfer addysgu wedi crebachu’n sylweddol. Os ydym am gyrraedd ffigyrau uchelgeisiol Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr mae ymateb yn fwriadol ac yn effeithiol yn y fantol.

Cyfeiriadau

Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. (2019).  Adroddiad Cyntaf – 2019. Llywodraeth Cymru. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-07/corff-adolygu-cyflogau-annibynnol-cymru-adroddiad-cyntaf-2019.pdf

Llywodraeth Cymru. (2016). Gwerthusiad o’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg: Adroddiad terfynol. (Ymchwil Gymdeithasol Rhif: 15/2016). Llywodraeth Cymru. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2018-12/160310-evaluation-welsh-medium-education-strategy-final-summary-cy.pdf

Llywodraeth Cymru. (2017). Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. (WG31851). Hawlfraint Y Goron. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-03/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg-v1-1.pdf

Llywodraeth Cymru. (2018). Gwerthusiad o Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon. (ISBN Digidol: 978-1-78964-067-0). Hawlfraint y Goron. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-06/180928-evaluation-welsh-medium-provision-initial-teacher-education-cy.pdf

Llywodraeth Cymru. (2020). Fframwaith Cymwyseddau Iaith ar gyfer Ymarferwyr Addysg Llywodraeth Cymru. (WG41488). Hawlfraint y Goron. https://hwb.gov.wales/api/storage/2dcc47ea-06e9-46ea-85bd-b1b0a927bd34/language-competency-framework-for-education-practitioners-final-web-framework-w-21220.pdf

Llywodraeth Cymru. (2022). Statistical Bulletin: Initial Teacher Education Wales, 2020/21. Ystadegau ar gyfer Cymru. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2022-05/addysg-gychwynnol-i-athrawon-medi-2020-i-awst-2021-444.pdf

StatsWales. (2023, Mai 25). Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng Nghymru yn ôl gallu i addysgu yn y Gymraeg, lefel yr ysgol a blwyddyn. StatsWales Llywodraeth Cymru. https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Higher-Education/Initial-Teacher-Training-ITT/students-in-Wales/FirstYearsonITEcoursesinWales-by-abilitytoteachinWelsh-schoollevel-year

Ysgrifennwyd y Blog gan: 

Uwch-ddarlithydd Cymraeg (TAR) Rhiannon Pugsley