Yn y flwyddyn academaidd 2023-24 mae sawl myfyriwr wedi canolbwyntio ar anifeiliaid mewn addysg fel rhan o'u hastudiaethau. Mae Kirsty Winters, myfyrwraig TAR Cynradd, wedi dewis canolbwyntio ar gŵn ysgol ar gyfer ei phrosiect ymchwil terfynol. Mae hi’n archwilio’r strategaethau mae’r ysgol yn eu defnyddio i sicrhau diogelwch a lles plant ym mhresenoldeb ci preswyl yr ysgol, ac mae’n chwilio am unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â’r strategaethau hyn. Mae Megan Driscoll, myfyrwraig BA Addysg, wedi gwneud ei thraethawd hir yn y maes hwn, ac sy'n archwilio 'Beth yw profiadau athrawon a phlant sy'n defnyddio anifeiliaid mewn addysg?
Dyfarnwyd cyllid Cyfnewid Gwybodaeth 'Taith' i Helen Lewis i ymweld â Phrifysgol British Columbia ym mis Tachwedd 2023. Ei ffocws oedd darganfod mwy am y rhaglen BARK (Building Academic Retention through K9s) sydd wedi'i hen sefydlu. Mae hyn yn cefnogi lles myfyrwyr yn y brifysgol, yn ogystal ag ymweld â phlant mewn ysgolion lleol. Yn ystod ei hymweliad roedd Helen yn gallu arsylwi sesiynau mewn ysgolion yn ogystal ag ymweld â’r brifysgol i gwrdd â gwirfoddolwyr, y tîm a dysgwyr o bob oed i ddysgu mwy am weithrediad y rhaglen hynod lwyddiannus hon.
Dr Helen Lewis (ar y chwith) gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol British Columbia
Mae papur o’r enw ‘Tales of the unexpected: Teacher’s experiences of working with children and dogs in schools' gan Helen Lewis, Janet Oostendorp Godfrey a Cathryn Knight (Prifysgol Bryste) wedi cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Human-Animal Interaction. Mae'r papur hwn yn canolbwyntio ar edrych ar yr heriau o gynnwys cŵn mewn arfer ystafell ddosbarth.
Mae Helen Lewis wedi cyhoeddi pennod o'r enw 'Canine-assisted Educational Activities in a University Setting: Reflecting on Ways to Promote Happy and Mutually Beneficial Experiences' yn y llyfr sydd i ddod, 'Animal Assisted Intervention'.
https://www.cabidigitallibrary.org/doi/book/10.1079/9781800622616.0000
Mae Helen Lewis a Russell Grigg wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill grant Cyfrif Cyflymiad Effaith ESRC. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau i ysgolion sydd â diddordeb mewn datblygu ymyriadau gyda chŵn ysgol.
Cyflwynodd Dr Helen Lewis, Dr Janet Oostendorp, a myfyriwr Meistr Marikris DeLeon boster gyda'r teitl Examining the relationships between children, handlers and dogs in canine assisted educational contexts yng Nghynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Anthrosŵoleg, Caeredin 2023. Yn yr un gynhadledd, cyd-awdurodd SPiNterns Prifysgol Abertawe Bethany Hill, Lydia Morgan a Wish DeLeon boster cynhadledd o'r enw Designing an analytical framework for canine-assisted interventions in school contexts gyda Dr Helen Lewis.
Ffilmiodd rhaglen y BBC The One Show Helen Lewis ac athrawon mewn ysgolion lleol ar gyfer eitem a gafodd ei darlledu yn gynnar yn 2023.