Lansiad Swyddogol Cynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol

Lansiwyd Cynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol (NSDA) yn swyddogol ar 3 Rhagfyr 2024 yn Ysgol Crug Glas, Abertawe. Roedd dros 100 o gynrychiolwyr yn bresennol, gan gynnwys rhai ar-lein, a bu’r digwyddiad hybrid hwn yn archwilio manteision defnyddio cŵn mewn ysgolion, gan drafod heriau allweddol, ac amlinellu sut mae’r NSDA yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys:

• Dr Dion Curry (Arweinydd Ymchwil yr Ysgol, Prifysgol Abertawe)
• Dr Helen Lewis (Cadeirydd, NSDA)
• Sally Lees (Pennaeth Cynorthwyol a Swyddog Diogelu Dynodedig, Ysgol Cheltenham Bournside)
• Suzi Smith (Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Crug Glas)
• Dr Marc Abraham, OBE (Llysgennad NSDA ac Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Cynghori Hollbleidiol Seneddol ar Les Cŵn)

Ymunodd cynrychiolwyr o Awstralia, Ewrop, UDA, a Chanada, ochr yn ochr â gwesteion arbennig iawn – Snoopy, Lottie, Olive, Murphy, a Maggi, y cŵn ysgol.

Visit the NSDA website: nationalschooldogalliance.co.uk

Gwylio fideo

Grŵp Cynghori Hollbleidiol Seneddol ar Les Cŵn

Roedd yn anrhydedd i’r Gynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol (NSDA), sydd newydd ei lansio, gymryd rhan yn nigwyddiad mis Ionawr y Grŵp Cynghori Hollbleidiol Seneddol ar Les Cŵn yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ystod y sesiwn galw heibio, bu tîm yr NSDA, a gynrychiolir gan Carol Lincoln (Therapy Dog Training, UK, Selina Gibone (Dogs for Good), Helen Lewis a Russell Grigg (Prifysgol Abertawe) yn ymgysylltu ag ASau o bob rhan o’r DU i drafod gwaith y gynghrair a'i genhadaeth i gefnogi arferion gorau mewn addysg â chymorth anifeiliaid. Yn ddiweddarach y noson honno, gwahoddwyd Cadeirydd yr NSDA, Dr Helen Lewis, i siarad, gan amlygu pwysigrwydd datblygu dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes hwn.

Ym mis Ionawr, bu Dr Helen Lewis hefyd yn ymddangos ar Radio Lleol y BBC, yn trafod gwaith y gynghrair. Yn ogystal, cafodd yr NSDA sylw yn y cyfryngau, megis BBC Ar-lein, gan ymhelaethu ymhellach ar ei chenhadaeth i wella arferion addysg â chymorth anifeiliaid.

Darllenwch fwy: APDAWG January MeetingBBC Article

Gwobrau

Mae cyflwyniad Dr Helen Lewis Interdisciplinary Innovation: How can we advance research and practice in human-animal interactions? yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Anifeiliaid Anwes (SCAS) wedi ennill gwobr flynyddol yr SCAS am y cyflwyniad ymchwil gorau. Fe wnaeth sgwrs Helen 'Dogs in School: What lessons can be learned from research?' dynnu sylw at botensial y cwlwm dynol-cŵn mewn lleoliadau addysgol, yn ogystal â nodi rhai o heriau posibl dulliau o’r fath, ac archwilio sut y gall ymchwil helpu i fynd i’r afael â’r rhain.

Ariannu

Mae Dr Helen Lewis a Dr Russell Grigg wedi cael eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC UKRI i barhau i ddatblygu gwaith yr NSDA. Bydd y prosiect newydd yn galluogi’r NSDA i weithio’n agos gydag athrawon i gyd-ddylunio a datblygu adnoddau i gefnogi lles plant a chŵn mewn ysgolion.

Mae'r NSDA hefyd yn croesawu Willow Browning, myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe fel intern SPIN (Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe) ar gyfer tymor y gwanwyn. Bydd Willow yn arwain ar ddatblygu cylchlythyr chwarterol yn dathlu cŵn mewn ysgolion.