Trosolwg
Mae gan Gymru draddodiad balch ym myd addysg ac mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae ei rhan ers iddi gael ei sefydlu yn 1920. Bu addysgwyr amlwg fel Charles Gittins, deon y gyfadran addysg a ddaeth yn is-bennaeth yn ddiweddarach, yn cadeirio’r adroddiad nodedig ar addysg gynradd yn 1967 sy’n dwyn ei enw. Yn fwy diweddar, roedd yr Athro Ymchwil Gareth Elwyn Jones yn allweddol o ran sicrhau lle i hanes a diwylliant Cymru yn y cwricwlwm. Y tu allan i addysg brif ffrwd, mae'r Brifysgol yn hafan i Lyfrgell Glowyr De Cymru, sy'n cynnal traddodiadau addysgol hen Sefydliadau'r Glowyr a'r Neuaddau Lles. Gall ymchwilio i addysg ein gorffennol gynnig cipolwg ar wreiddiau a datblygiad polisïau ac arferion addysg cyfredol yng Nghymru ar adeg o newid sylweddol. Mae’r thema hon yn eang, ond mae’r ffocws cychwynnol ar brofiad addysg ysgol, datblygu’r cwricwlwm, ac effaith arolygu.