Mae Dr Gisselle Tur Porres a Dr Jacky Tyrie wedi cyhoeddi erthygl ymchwil:
Chicken, S., Tur Porres, G., Mannay, D., Parnell, J., & Tyrie, J. (2024). Questioning ‘voice’ and silence: Exploring creative and participatory approaches to researching with children through a Reggio Emilian lens. Qualitative Research, 0(0). https://doi.org/10.1177/14687941241234299
Crynodeb
Bu llawer o ddadlau ynghylch ‘llais’ y plentyn mewn ymchwil ansoddol. Mae’r papur hwn yn cyfrannu at y trafodaethau hyn drwy dynnu ar athroniaeth Reggio Emilia, sy’n pwysleisio cyfarfyddiadau dialegol sy’n cydnabod gwerth goddrychedd plant. Mae’r papur yn myfyrio’n feirniadol ar astudiaeth ansoddol o addysg gynradd yn ystod y pandemig COVID-19 a oedd yn cynnwys plant 5–7 oed (n=30), athrawon (n=6) a rhieni a gofalwyr (n=18) yng Nghymru. Cynhyrchodd yr astudiaeth ddata gan ddefnyddio methodolegau creadigol, nodiadau maes a chyfweliadau ansoddol. Defnyddiwyd athroniaeth Reggio Emilia i fod yn atblygol ynghylch prosesau dylunio ymchwil, gwaith maes, dadansoddi a lledaenu data, cwestiynu tensiynau rhwng llais a distawrwydd a sut y gall timau ymchwil wynebu ac ymateb i'r materion heriol sy'n cymhlethu'r bwriad o barchu goddrychedd plant. a safbwyntiau. Gwers allweddol o'r broses hon o fyfyrio a chwestiynu oedd yr angen i fod yn sylwgar ac mewn cytgord â chynildeb paraiaith plant gan gynnal lefel o hyblygrwydd wrth ddylunio a phrosesau ymchwil a oedd yn parchu gofynion a hoffterau plant. Er bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar brofiadau plant, mae'r gwersi a ddysgwyd o werthuso'r astudiaeth mewn perthynas ag athroniaeth Reggio Emilia yn werthfawr ar gyfer prosiectau ansoddol ehangach gyda chymunedau amrywiol.
Mae erthygl gan Dr Gisselle Tur Porres, Dr Helen Lewis a Dr Emily Marchant wedi cael ei derbyn ar gyfer ei chyhoeddi:
Tur Porres, G.; Lanyon, K.; Abbott, R.; Lewis, H.; Marchant, E. and Peconi, J. (2024). Exploring perceptions of and attitudes towards tanning with school children, parents/carers and educators in Wales: A mixed methods study protocol for the SunChat study. PLOS ONE.
Storfa: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa66449
Crynodeb
Mae canser y croen yn cynnwys hanner yr holl ganserau yng Nghymru a Lloegr. Gellir atal y rhan fwyaf o ganserau'r croen gyda datguddiad mwy diogel i'r haul. Gan y gall gor-ddatguddiad yn blentyn gynyddu’r risg o ganser y croen yn fawr yn y dyfodol, mae addysg gynnar a hygyrch am sut i gadw'nddiogel yn yr haul ynghyd â hyrwyddo ymddygiadau sy’n ddiogel yn yr haul yn hollbwysig. Mae gwyddonwyr yn cytuno nad oes y fath beth â ‘lliw haul diogel’, ond yn aml mae gan y cyhoedd, gan gynnwys plant, ganfyddiadau cadarnhaol o groen â lliw haul. Er mwyn amddiffyn rhag canser y croen yn y dyfodol, mae'n bwysig deall a mynd i'r afael â'r camsyniadau hyn. Mae'r Cwricwlwm i Gymru gyda’i faes ar gyfer Iechyd a Lles, ac ymreolaeth i ysgolion wrth ddylunio cynnwys y cwricwlwm, yn cyflwyno ffordd ddelfrydol o hwyluso’r archwiliad hwn. Hyd yma, ni fu unrhyw waith yng Nghymru yn archwilio canfyddiadau plant, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr o liw haul a sut y gellir annog agweddau iachach. Bydd yr astudiaeth hon yn ymgysylltu â phlant, rhieni/gofalwyr, ac addysgwyr ysgolion cynradd i gwmpasu canfyddiadau lliw haul cyfredol a’r effeithiau canfyddedig y mae lliw haul yn ei gael ar iechyd, a fydd yn cael ei ychwanegu yn y dyfodol i becyn cymorth a datblygu'r cwricwlwm ar gyfer iechyd mewn ysgolion yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn hapus i rannu’r posteri canlynol, a ddyluniwyd gan blant ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 1 – 3 fel rhan o’r gweithdai oedd yn archwilio barn plant am liw haul a’u harferion diogelwch haul presennol. Fel rhan o weithgareddau’r gweithdy gofynnwyd i’r plant greu poster i annog ymddygiad iach a hybu diogelwch yn yr haul. Bu'r gweithgaredd yn llywio dyluniad terfynol y poster, gan alluogi ymchwilwyr i amlygu gwybodaeth roedd plant yn ei hystyried yn bwysig. Y plant eu hunain awgrymodd y syniad o rannu’r posteri hyn mewn ysgolion er mwyn trosglwyddo'r negeseuon diogelwch haul sy’n bwysig iddyn nhw, ac rydym yn hapus i sicrhau bod llais y plant yn cael ei glywed.
Ames, P., Tur Porres, G., & González Díez, J. (2022). Estudiar las infancias en América Latina: ideas y debates para un campo emergente. [Studying childhoods in Latin America: ideas and debates for an emerging field]. Confluenze. Rivista Di Studi Iberoamericani, 13(2), 1–26. https://doi.org/10.6092/issn.2036-0967/14249.
Chicken, S., and J. Tyrie. Can you hear me? (in press) Problematising the enactment of UNCRC Article 12 in Welsh Early Years Classrooms, exploring the challenges of 'children's voice'. IJCR. (under review).
Goodall, J., (2022). A framework for family engagement : Going beyond the Epstein Framework, Wales Journal of Education 24(2). doi: https://doi.org/10.16922/wje.24.2.5.
Goodall, J., & Greasley, S. (2022). Developing inclusive school communities through parental engagement in their children’s learning. In K. Black-Hawkins & A. Grinham-Smith (Eds.), Expanding possiblities for Inclusive Learning (Vol. 3). Routledge.
Ires Correa, W. & Tur Porres, G. (2022). Cuerpo, infancia y escuela: un encuentro necesario [Body, childhood and school: a necessary dialogue]. En J. González Díez & V. Gámez Ceruelo, Familias, géneros y diversidades: reflexiones para la educación [Families, genders and diversities: reflections for education] (pp. 235-254). EU: Editorial UNAE, Casa Editorial del GAD Cuenca Coordinación.
King P. & S,. Newstead (2022). Childcare Worker’s Understanding of the Play Cycle Theory: Can a Focus on “Process not Product” Contribute to Quality Childcare Experiences?, Child Care in Practice, 28:2, 164-177, DOI: 10.1080/13575279.2019.1680532.
Lewis, H.; MacDonald, N. & Tur Porres, G. (2022). Early childhood education and care in Wales: A curriculum for the non-maintained sector with children at the centre of practice. Early Education Journal, 98, 8-10.
Murphy, A., Tyrie, J., Waters-Davies, J., Chicken, S., & Clement, J. (2022). Foundation Phase teachers' understandings and enactment of participation in school settings in Wales. Inclusive Pedagogies for Early Childhood Education: Respecting and Responding to Differences in Learning, 111.
Tur Porres, G. & Ires Correa, W. (2023). Developing emancipatory online learning environments in quality teacher education. In J. Madalińska-Michalak (ed.). Quality in Teaching and Teacher Education. International Perspectives from a Changing World (pp.147-165). Brill. https://doi.org/10.1163/9789004536609_008.
Tyrie., J. Knight., C. and M., Borras (2021). Delphi Study on the impact of COVID-19 on children under age 5. Welsh Government. 82/2021 https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2021-12/delphi-study-to-understand-options-available-that-will-help-to-identify-address-or-mitigate-the-impact-of-covid-19-on-children-under-age-5.pdf.