Angen rhieni o Gymru ar gyfer astudiaeth o bwys ar amser sgrin
Yr Astudiaeth
Mae academydd o Brifysgol Abertawe, yr Athro Janet Goodall, yn rhan o astudiaeth arloesol i effaith amser sgrin ar blant 0 – 3 oed, a disgwylir i'r canfyddiadau fynd i'r afael ag un o bryderon yr unfed ganrif ar hugain: a yw amser sgrin yn cael ei ystyried yn fwy o fantais, neu rwystr, i ddatblygiad plentyndod cynnar?
Mae'r Athro Goodall yn arwain adran Gymraeg yr astudiaeth - o'r enw Toddlers, Tech & Talk - sydd am gyfweld â rhieni yng Nghymru i archwilio ein perthynas â dyfeisiau digidol yn y cartref, gyda chyfweliadau ar gael mewn hyd at 10 iaith ar gyfer rhieni nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.
Bydd y cyfweliadau agored, anfeirniadol yn ymchwilio’n ddyfnach i sut a pham mae rhieni’n defnyddio dyfeisiau digidol gyda’u plant ifanc, gan geisio deall yn y pen draw sut mae rhieni’n deall dylanwad defnyddio dyfeisiau digidol ar eu plentyn, yn arbennig o ran iaith a llythrennedd.
Dan arweiniad Prifysgol Fetropolitan Manceinion ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerhirfryn yn Lloegr, Prifysgol Strathclyde yn yr Alban a Phrifysgol Queen's Belfast yng Ngogledd Iwerddon, mae'r prosiect DU gyfan eisoes wedi derbyn 1,600 o ymatebwyr i'r arolwg ac mae bellach yn symud i'r cam casglu data ansoddol.
Pam Mae'n Bwysig
Anogir rhieni yng Nghymru i gysylltu i gymryd rhan, gan rannu eu profiadau a’u barn – y cyfan er budd deall perthynas cenedlaethau’r dyfodol â thechnoleg yn well, a rhagfynegi tueddiadau mewn ymgysylltu digidol.
Meddai'r Athro Goodall:
“Bu ymchwil helaeth i effaith amser sgrin ar blant hŷn, ond mae ein grŵp ymchwil yn gobeithio llenwi’r bwlch yn y ddealltwriaeth bresennol o ddefnydd dyfeisiau digidol ymhlith plant bach.
“I raddau helaeth iawn, mae barn y cyhoedd yn tueddu i dybio y byddai amser sgrin yn cael effaith negyddol net ar blant ifanc. Eto i gyd, nid yw'r persbectif hwn yn ystyried sut y gall dyfeisiau digidol ddileu rhwystrau rhag mynediad i lawer o wasanaethau - megis llyfrgelloedd.
“Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn gwella ein dealltwriaeth o'r mân wahaniaethau ynghylch mynediad digidol. Nid nod yr ymchwil hwn yw dweud wrth rieni beth dylent neu na ddylent ei wneud yn eu cartrefi eu hunain, ond yn hytrach deall sut a pham y mae rhieni yn defnyddio dyfeisiau digidol gyda phlant o dan dair oed. Mae rhieni’n magu plant mewn oes ddigidol, gyda’r mwyafrif llethol ohonyn nhw’n defnyddio dyfeisiau digidol bob dydd – felly rydyn ni am ddysgu sut mae hyn yn treiddio i lawr i aelodau ieuengaf ein cymdeithas, i ragfynegi'n well sut bydd hyn yn llunio datblygiad plant yn y dyfodol.”
Mae Toddlers, Tech & Talk yn rhan o ymdrech ehangach gan adran Addysg Prifysgol Abertawe, yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, i ddeall datblygiad y blynyddoedd cynnar yn well mewn cymdeithas gynyddol ddigidol.
Meddai'r Athro Sian Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe:
“Trwy archwilio ymagwedd rhieni Cymru at ddyfeisiadau digidol yn y cartref, efallai y bydd yr ymchwil arloesol hwn yn helpu i newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am amser sgrin i blant ifanc. Oes manteision nad yw llawer wedi’u hystyried o’r blaen, ac yn ehangach, sut mae magu plant yn haws neu’n anos yn yr oes ddigidol?
“Mae ymchwil cydweithredol Janet, mewn partneriaeth â phrifysgolion ar draws Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn gynrychiadol o’n hethos yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Rydyn ni'n credu fod ymchwil yn y maes academaidd hwn yn cael yr effaith fwyaf o’i wreiddio mewn cyd-destun byd go iawn, gan ychwanegu gwerth go iawn at ein dealltwriaeth o dueddiadau cymdeithasol.
“Byddem ni'n annog rhieni ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil, a hoffem bwysleisio eto na fydd atebion cywir nac anghywir – yn syml, rydyn ni am gael eich barn onest.”
Cysylltwch
I gymryd rhan, gall rhieni e-bostio j.s.goodall@abertawe.ac.uk