Mae'r Grŵp Ymchwil Athroniaeth yn cefnogi rhagoriaeth mewn ymchwil athronyddol. Rydym yn weithgar ar draws rhychwant eang o feysydd, gan gynnwys athroniaeth ddamcaniaethol (athroniaeth meddwl, metaffiseg, epistemoleg), athroniaeth ymarferol (moeseg, athroniaeth wleidyddol), ac athroniaeth gymhwysol (athroniaeth meddygaeth a seiciatreg, athroniaeth technoleg, athroniaeth addysg). Rydym yn agored ac yn gynhwysol, gan groesawu cyfranogiad ar draws ffiniau disgyblaethau a sefydliadau.
Grŵp Ymchwil Athroniaeth (PRG)

Mae’r Grŵp Ymchwil Athroniaeth yn cefnogi rhagoriaeth mewn ymchwil athronyddol
Prosiectau
Rydym yn archwilio gwahanol fathau o brofiad affeithiol (e.e. edifeirwch a hunan-barch) a'u rôl mewn gwahanol agweddau ar ein bywyd, gan gynnwys eu perthnasedd moesegol a rhyngbersonol. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn y berthynas rhwng emosiynau, hunanbrofiad a hunan-wybodaeth, a sut mae hunaniaethau personol yn cael eu llunio a'u pennu.
Rydym yn archwilio amrywiaethau o realaeth athronyddol a'u goblygiadau ar gyfer dulliau athroniaeth wleidyddol normadol.
Rydym yn ymchwilio i wahanol agweddau ar ffenomenoleg iechyd a salwch, a chwestiynau ym maes moeseg gymhwysol a meddygol. Rydym yn archwilio rôl emosiynau, hwyliau a hunan-ddealltwriaeth draethiadol mewn afiechyd meddwl, a sut y gall arferion a ffurfiau rhyngweithio penodol effeithio ar les (e.e. drwy dechnoleg a alluogir gan y rhyngrwyd).
Digwyddiadau
Philosophy and Social Media: The Good, the Bad, and the Future
1 Ebrill 2025, 6.00pm - 7.30pm; Digwyddiad ar-lein
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl sylweddol ym mywydau nifer o bobl. Er enghraifft, drwy'r platfformau hyn, gallwn gysylltu a chadw mewn cysylltiad â'n gilydd, ond gallwn hefyd gyrchu gwybodaeth a dysgu pethau newydd, creu cymunedau, a threfnu digwyddiadau i gefnogi'r achosion rydyn ni'n angerddol amdanynt. Fodd bynnag, mae defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol yn ymwneud â, ymysg eraill, ddatgelu gwybodaeth bersonol, newyddion ffug, dod i gysylltiad â gelyniaeth a cham-drin, a phwysau ar iechyd meddwl.
Mae'r digwyddiad ar-lein hwn yn archwilio sut gall syniadau athronyddol ein helpu ni i ddeall defnydd cyfryngau cymdeithasol yn well ac ail-ddychmygu eu defnydd. Yn benodol, drwy gyfrwng sgwrs gydag athronwyr sydd ag arbenigedd mewn moeseg, epistemoleg a phrofiad personol o dechnoleg ddigidol, byddwn yn trafod y manteision a'r anfanteision posib o ymgysylltu â’r platfformau hyn, gan ystyried hefyd sut gellir trawsnewid hyn yn y dyfodol.
Aelodau'r Panel:
Dr Gen Eickers (University of Osnabrück)
Dr Joe Saunders (Prifysgol Durham)
Dr Natalie Ashton (Vrije University Amsterdam)
Cymedrolwr:
Dr Anna Bortolan (Prifysgol Abertawe)
Trefnir y digwyddiad hwn gan y Grŵp Ymchwil Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe fel Partner Lleol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, ac mae ar agor i'r cyhoedd.
Cofrestru
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein fel gweminar Zoom. Mae'r digwyddiad hwn am ddim i'w fynychu, ond mae'n rhaid cofrestru. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
https://swanseauniversity.zoom.us/webinar/register/WN_B9UOKmwhR--um4WBpnicbA
Gwybodaeth
Os oes gennych gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r trefnydd, Anna Bortolan [anna.bortolan@abertawe.ac.uk]
Pobl
Cyfarwyddwr
Mae Rob yn gyfarwyddwr The Philosophy Research Group ac yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Ei feysydd arbenigedd ymchwil yw metaffiseg, epistemoleg, athroniaeth iaith, ac athroniaeth mathemateg.

Aelodau Staff a Myfyrwyr
Dr Jamie Stacey
Aelodau sy'n fyfyrwyr:
Lucia Morgans
Kamila Kulik
Charles Clement
Cyhoeddiadau Academaidd

Dr Anna Bortolan
Teitl | Disgrifiad |
---|---|
Bortolan, A. 2023. Healing Online? Social Anxiety and Emotion Regulation in Pandemic Experience. Phenomenology and the Cognitive Sciences 22: 1195-1214. |
Mae'r papur hwn yn archwilio sut y gellir effeithio ar brofiad pryder cymdeithasol a rheoleiddio emosiynau drwy ddefnyddio dulliau o gyfathrebu drwy'r rhyngrwyd a feithrinwyd gan bandemig Covid-19. |
Bortolan, A. 2022. Selves Hijacked: Affects and Personhood in 'Self-Illness Ambiguity'. Philosophical Explorations 25 (3): 343-362. |
Mae'r papur hwn yn ymchwilio o safbwynt ffenomenolegol gwreiddiau amwysedd hunan-salwch. Gan dynnu ar ddamcaniaethau ffenomenolegol o affeithiolrwydd a hunaniaeth, mae'n dadlau bod amwysedd hunan-salwch, fel ffenomen sy'n ymwneud yn bennaf â'r 'hunan personol', yn ddibynnol ar newidiadau penodol mewn cyfeiriadedd cefndirol affeithiol. Yn fwy penodol, mae'n awgrymu bod amwysedd hunan-salwch yn tarddu o bresenoldeb hwyliau neu deimladau dirfodol nad ydynt yn cydweddu â'r rhai sy'n strwythuro profiad yr unigolyn cyn mynd yn sâl neu yn y cyfnod pan nad yw’r symptomau’n cael eu profi. |
Bortolan, A. 2021. Narrate It Until You Become It. Journal of the American Philosophical Association 7 (4): 474-493.
|
Mae'r papur hwn yn cynnig disgrifiad estynedig o sut gall ymwneud â naratifau penodol arwain at drawsnewid ymdeimlad yr unigolyn o bosibilrwydd, drwy ennyn profiadau affeithiol nad ydynt yn gyson â "theimladau dirfodol" yr unigolyn. Yn fwy penodol, mae'n honni y gellir ennyn emosiynau o’r fath gan hunan-naratifau penodol, hyd yn oed pan fo ymdeimlad cyfyngedig o bosibilrwydd yn atal yr unigolyn rhag profi rhai mathau o emosiwn, ac mae'n archwilio sut gall y ddynameg hon achosi newidiadau affeithiol parhaus ac eang. |
Bortolan, A. 2020. Affectivity and the Distinction Between Minimal and Narrative Self. Continental Philosophy Review 53: 67-84.
|
Mae'r papur hwn yn trafod yr honiad bod yr hunaniaeth leiaf a naratif yn ategu ei gilydd, ond eu bod, yn y bôn, yn ddimensiynau ar wahân. Yn benodol, mae'n herio'r syniad nad yw’r ddynamig sy’n nodweddu hunaniaeth naratif yn cael effaith strwythuro ar brofiad yr hunaniaeth leiaf, er bod datblygiad hunaniaeth naratif yn amodol ar bresenoldeb hunaniaeth leiaf. Mae'n gwneud hyn drwy ddangos bod o leiaf fathau penodol o brofiad affeithiol yn ffenomena cymhleth, lle mae ffurfiau lleiaf a naratif ar hunaniaeth wedi'u cydblethu'n ddwfn. |
Dr Gideon Calder
- Calder, G. 2024. Social exclusion and poverty. In G. Schweiger and C. Semak (eds.) The Routledge Handbook of Philosophy and Poverty. (Routledge)
- Sanghera, B. and Calder, G. (eds.) 2022. Ethics, Economy and Social Science: Dialogues with Andrew Sayer. Routledge.
- Cheshire-Allen, M. and Calder, G. 2022. No-one was clapping for us: Care, social justice and wellbeing during the Covid-19 pandemic in Wales. International Journal of Care and Caring, 6 (1-2): 49-66.
- Gheaus, A., Calder, G. and De Wispelaere, J. (eds.) 2018. The Routledge Handbook of the Philosophy of Childhood and Children. Routledge.
Dr Patrick Cockburn
- Cockburn , P. J. L. (under contract for 2026) Two Stories about Economic Life: An introduction to Normative Political Economy. Cambridge: Polity Press.
- Cockburn, P. J. L. & Preminger, J. 2023. Migration and Demos in the Democratic Firm: An Extension of the State-Firm Analogy. Political Theory, 51(3), 557-580.
- Cockburn, P.J.L. 2023. Varieties of Economic Dependence. European Journal of Political Theory 22(2),195-216.
Dr Leighton Evans
- Evans, L., Frith, J. and Saker, M. 2022. From Microverse to Metaverse: Modelling the Future through Today's Virtual Worlds. Emerald.
- Saker, M. and Evans, L. 2021. Intergenerational Locative Play: Augmenting Family. Emerald.
- Evans, L. 2018. The Re-Emergence of Virtual Reality. Routledge.
- Evans, L. and Saker, M. 2017. Location-based Social Media: Spatiality, Temporality and Identity. Palgrave Macmillan.
- Evans, L. 2015. Locative Social Media: Place in the Digital Age. Palgrave Macmillan.
Dr Rob Knowles
Titl | Disgrifiad |
---|---|
Knowles, R. 2022. No Grounds for Fictionalism. Philosophical Studies 179 (12): 3679-3687.
|
Mae'r papur hwn yn dadlau bod ffuglennu am sylfaenu yn ddigymhelliad, gan ganolbwyntio ar gynnig diweddar Naomi Thompson (2022) bod ffuglen sylfaenu’n ddefnyddiol am ei bod yn hwyluso cyfathrebu am beth yn fetaffisegol sy'n esbonio beth. |
Knowles, R. 2021. Platonic Relations and Mathematical Explanations. Philosophical Quarterly 71 (3): 623-644. 2021.
|
Ymddengys fod rhai esboniadau gwyddonol yn seiliedig ar honiadau mathemategol pur. Mae'r ddadl angenrheidrwydd uwch yn apelio at yr 'esboniadau mathemategol' hyn i gefnogi Platoniaeth fathemategol. Rwy'n dadlau bod llwyddiant y ddadl hon yn seiliedig ar yr honiad bod esboniadau mathemategol yn gosod ffeithiau mathemategol pur y mae eu explananda ffisegol yn dibynnu arnynt, a bod unrhyw esboniad mathemategol sy'n cefnogi'r honiad hwn yn methu cynnig dealltwriaeth ddigonol o esboniad mathemategol. |
Knowles, R. 2021. Unification and mathematical explanation. Philosophical Studies 178 (12): 3923-3943. 2021.
|
Mae'r papur hwn yn gwerthuso'r farn bod esboniadau mathemategol mewn gwyddoniaeth yn esbonio drwy uno. Gan egluro hyn gyda rhai enghreifftiau newydd, rwy'n dadlau bod y farn yn gamsyniol. I'r rhai sy'n credu mewn esboniadau mathemategol mewn gwyddoniaeth, mae fy nhrafodaeth yn diystyru un ffordd o nodi sut maen nhw'n gweithio, gan ddod â ni gam yn agosach at y ffordd gywir. I'r anghredinwyr, mae'n cyfrannu at strategaeth rhannu a choncro i ddangos nad oes y fath esboniadau mewn gwyddoniaeth. Mae fy nhrafodaeth hefyd yn tanseilio'r apêl i bŵer uno i gefnogi'r ddadl angenrheidrwydd uwch. |
Knowles, R. and Saatsi, J. 2021. Mathematics and Explanatory Generality: Nothing but Cognitive Salience. Erkenntnis 86 (5): 1119-1137.
|
Mae'r papur yn gwneud cynnydd yn y ddadl o ran angenrheidrwydd uwch drwy ddefnyddio theori wrthffeithiol esboniad, wedi’i hysgogi'n annibynnol ar y ddadl, i roi dadansoddiad newydd o gyfraniad mathemateg at 'gyffredinolrwydd esboniadol'. Cyfraniad mathemateg yw gwneud gwybodaeth wrthffeithiol am ddibyniaeth ffisegol yn haws ei deall a rhesymu â hi ar gyfer creaduriaid fel ni. Mae hyn yn rhoi cynnwys penodol i reddfau allweddol sy’n cael eu cyfnewid yn y ddadl ac yn barnu'n ddiamwys o blaid yr enwolaidd, o leiaf o ran cyffredinolrwydd esboniadol. |
Dr Paddy McQueen
- McQueen, P. 2024. Regret. Oxford University Press
- Magri, E. and McQueen, P. 2023. Critical Phenomenology: An Introduction. Polity Press
- McQueen, P. 2021. ‘Sexual Interactions and Sexual Infidelity’. Journal of Ethics, 25: 449-466
Newyddion

Digwyddiad Lansio'r Grŵp Ymchwil Athroniaeth
Ar 2024 gwnaethom ddathlu lansiad y Grŵp Ymchwil Athroniaeth drwy gynnal cynhadledd. Roedd y gynhadledd yn arddangos amrywiaeth yr ymchwil athronyddol a gynhelir yn Abertawe a'n cysylltiadau â'r gymuned athronyddol ehangach. Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
- Dr. Ian Kidd (Prifysgol Nottingham)
- Yr Athro Fiona Woollard (Prifysgol Southampton)
- Dr. Jane Gatley (Prifysgol Abertawe)
- Dr. Rob Knowles (Prifysgol Abertawe)
Cymdeithas Athroniaeth Gymdeithasol a Gwleidyddol: Cynhadledd Flynyddol
Ers ei sefydlu, mae'r Gymdeithas wedi trefnu cynhadledd flynyddol. Trefnir y gynhadledd gan aelodau'r Grŵp Ymchwil Athroniaeth Dr Paddy McQueen a Dr Patrick Cockburn ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
- Tommy J. Curry (Caeredin)
- Emily McTernan (UCL)
- David Owen (Southampton)
http://www.associationforsocialandpoliticalphilosophy.org/annual-conference.html
Dyfarniadau ac Grantiau

Dr Gideon Calder
- Dr Gideon Calder: 2021 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: £388,200, COVID-19 impact on the support and management of older people in Wales: The COSMO study.
- 2018 Llywodraeth Cymru: £487,874, Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Dr Leighton Evans
- Dr Leighton Evans: 2023 Derbynnydd Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Busnes ac Addysg gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gydnabod ymchwil.
- 2023 Derbynnydd Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe.
- 2023 - RIR1048 - 2022/23 - Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau - CYFRIFON CYFLYMU EFFAITH UKRI. Game Changing Project. £40,502.99
- Rzsezewski, M. ac Evans, L. (2019). Dyfarniad gwerth 586086 PLN (£116,000) ar gyfer y prosiect 'Space-software-human: Augmented Reality of the Smart City' gan y Ganolfan Wyddoniaeth Genedlaethol, Gwlad Pwyl. 36 mis o Ionawr 2020.
Cysylltu â Pobl a Sefydliadau
Cysylltwch â'n Cyfarwyddwr:
Dr Rob Knowles r.f.knowles@swansea.ac.uk
Diddordeb mewn Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig?
Darganfyddwch fyd o gyfleoedd gyda'n rhaglenni ymchwil.