Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2025 wedi dod i ben — ac am benwythnos llawn rhyfeddod!
Roedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn llawn egni, chwilfrydedd a gwyddoniaeth, wrth i ymwelwyr o bob oedran gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, sgyrsiau ysbrydoledig ac ymchwil arloesol.
Uchafbwyntiau’r ŵyl:
• Anturiaethau gwyllt gyda Hamza Yassin a Lizzie Daly
• Hoff sioeau teuluol fel Fy Ngharfan Hoff o Forfilod a Gwyddoniaeth Splendiferous Roald Dahl
• Sioeau trawiadol fel Swigod a Balŵns!, Gwyddonwyr Arwrol, a Glow with the Flow
• A’r Neuadd Arddangos yn llawn arloesi, o ynni hydrogen ac anifeiliaid robotig i fymïaid hynafol a hyd yn oed cynrhon!
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ymunodd â ni ac a wnaeth yr ŵyl yn llwyddiant.
Hoffem glywed eich barn. Rhowch eich adborth a helpwch ni i lunio dyfodol yr ŵyl.
Diolch am fod yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe.
Oriel lluniau llawn